Digwyddiad Ar-lein Adnodd: Sesiwn Ymgysylltu Cyn y Farchnad ar gyfer Cylchgrawn TGAU Hanes
Bydd Adnodd yn agor ffenestr cyllido ym Mawrth 2026 ar gyfer datblygu cylchgrawn digidol Hanes TGAU newydd.
Bydd tîm Comisiynu ac Ansawdd Adnodd yn cynnal sesiwn wybodaeth ar-lein ar 4 Mawrth i rannu manylion am y cyfle hwn.
Bydd y sesiwn ar-lein hon yn cyflwyno’r brif wybodaeth am y cyfle, gan gynnwys amlinelliad o’r broses ymgeisio, y dyddiadau pwysig, a’r hyn rydym yn chwilio amdano mewn cynigion llwyddiannus.
Rhaid i’r cylchgrawn fod yn ddwyieithog, gyda fersiynau Cymraeg a Saesneg, ac ar gael am ddim i’w ddefnyddio. Dylai’r cynnwys ganolbwyntio ar y pynciau a’r themâu a nodir ym manyleb TGAU Hanes CBAC. Yn ogystal, rhaid iddo gyd-fynd ag ethos y Cwricwlwm i Gymru.
Bydd tymor y cytundeb yn para am 12 mis, gyda’r opsiwn i ymestyn am 12 mis pellach. Bydd tri rhifyn cychwynnol yn cael eu datblygu a’u cyhoeddi erbyn Medi 2026, Rhagfyr 2026, a Mawrth 2027.
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’r sesiwn.
Cofrestrwch yma