Cyhoeddi ymchwil adnoddau llythrennedd
Mae Adnodd wedi cyhoeddi taw cwmni Miller Research fydd yn ymgymryd â'r prosiect ymchwil i fewn i adnoddau llythrennedd. Bydd yr ymchwil hon yn cefnogi dulliau ac amcanion comisiynu adnoddau llythrennedd yn y dyfodol.
Mae llythrennedd yn un o dri maes ffocws strategol Adnodd. Rydym yn awyddus i ddyfnhau ein dealltwriaeth o’r sefyllfa bresennol yng Nghymru, a darganfod dulliau newydd o ddatblygu adnoddau fydd yn ysbrydoli a chefnogi ymarferwyr, dysgwyr a’u teuluoedd.
Bydd yr ymchwil yn casglu gwybodaeth am gymhellion darllen, dulliau i gefnogi darllen dwyieithog yn effeithiol, ac arferion gorau rhyngwladol.
Mae hwn yn gyfle gwych i ni gydweithio gydag arbenigwyr ar draws y sector a chreu sylfaen o dystiolaeth gadarn fydd yn llywio ein gwaith. Bydd y gwaith yma hefyd yn ein galluogi i gefnogi prosiectau arloesol a chydweithredol sy’n gwella deilliannau llythrennedd i ddysgwyr ifanc yng Nghymru.
Mae hwn yn gam cyntaf cyffrous ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gael cydweithio gyda Miller Research, a rhannu’r canfyddiadau gyda chi yn yr Haf.
Os oes diddordeb gyda chi glywed mwy am yr ymchwil, neu i gymryd rhan, cysylltwch gydag Adnodd ar post@adnodd.llyw.cymru
Neu ymunwch â’r gymuned yma