Neidio i'r prif gynnwy
English
Newyddion

Digwyddiad Ar-lein Adnodd: Sesiwn Ymgysylltu Cyn y Farchnad

Mae dau gyfle cyffrous gan Adnodd yn agor yn ystod Gwanwyn 2026:
Illustration of diverse young children playing and holding hands in a circle. Darlun o blant ifanc amrywiol yn chwarae ac yn dal dwylo mewn cylch.

Mi fydd tîm Comisiynu ac Ansawdd Adnodd yn cynnal sesiynau ar-lein i rannu gwybodaeth am ein Fframwaith Caffael newydd ac ein Cyfleoedd Comisiynu nesaf, ar y 27ain a’r 29ain o Ionawr.  

Cynigir yr un sesiwn ddwywaith. Dylai cyflenwyr fynychu un sesiwn yn unig.  

Bydd y sesiynau yma mewn dau ran, gyda’r rhan gyntaf yn trafod ein Fframwaith Caffael newydd, a’r ail ran yn ffocysu ar y Cyfleoedd Comisiynu.  

 

Bydd rhan gyntaf y sesiwn yma yn cyflwyno gwybodaeth hanfodol i unrhyw gyflenwyr sy’n gobeithio cyd-weithio gydag Adnodd yn y dyfodol. 

O Fis Mai 2026, y Fframwaith Caffael newydd bydd prif ddull comisiynu:  

  • adnoddau addysgol (print a digidol) 
  • cynnwys creadigol (ee. awduro, darlunio, dylunio graffeg) 
  • prosiectau ymchwil, gwerthuso a data  
  • ymgynghoriaeth addysgol 

Gall unrhyw un sydd â diddordeb yn y Fframwaith Caffael yn unig adael ar ddiwedd rhan gyntaf y sesiwn. 

 

Yn yr ail ran, byddwn yn trafod ein ffenest ariannu nesaf, a fydd yn agor ym mis Chwefror. 

Mae’r Cyfle Comisiynu yma ar gyfer prosiectau sy’n cefnogi dysgu ac addysgu yn y meysydd canlynol:  

  • Hanes Cymru (£150,000 yn cynnwys TAW) 
  • Gwrth-hiliaeth (£150,000 yn cynnwys TAW) 
  • Hawliau Dynol (14-19 oed) (tua £100,000 yn cynnwys TAW) 

Byddwn yn ariannu adnoddau digidol (neu digidol a print) newydd sydd yn ddwyieithog (fersiwn Cymraeg a Saesneg), am ddim i’w defnyddio, yn cyd fynd ag ethos y Cwricwlwm i Gymru, ac ar gael i’w defnyddio erbyn yr 1af o Fawrth 2027.

 

Defnyddiwch y dolenni isod i gofrestru: 

27ain o Ionawr 16:00-17:30 29ain o Ionawr 11:00-12:30