Neidio i'r prif gynnwy
English
Newyddion

Digwyddiad Eisteddfod: Hanes, Hunaniaeth a’r Cwricwlwm i Gymru

Ymunwch ag Adnodd, gwesteion arbennig a phartneriaid am sgwrs fywiog am Hanes, Hunaniaeth a’r Cwricwlwm i Gymru.

Gyda’n gilydd, byddwn yn archwilio sut y gall dealltwriaeth gyfoethocach a mwy cynhwysol o orffennol Cymru helpu i greu profiadau dysgu sy’n adlewyrchu hunaniaethau a phrofiadau amrywiol bob dysgwr.

Bydd y sgwrs yn cael ei chadeirio gan y cyflwynydd a’r newyddiadurwr Seren Jones, a fydd yn arwain trafodaeth banel ar rôl hanes, hunaniaeth a chynrychiolaeth wrth lunio cwricwlwm sy’n perthyn i bawb.

Yn ymuno gyda hi fydd:
Emyr George, Prif Weithredwr Adnodd
Dr Geraldine Lublin, Athro Cyswllt Prifysgol Abertawe
Ashok Ahir, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Lowri Ifor, Rheolwr Addysg ac Ymgysylltu Amgueddfa Cymru.

Pryd: Dydd Sadwrn 1 Awst, 2026, 16:30
Ble: Ardal y Cymdeithasau, Eisteddfod Y Garreg Las

Os ydych yn ymddiddori mewn addysg, diwylliant, hanes a straeon difyr ein cenedl a thu hwnt, bydd y digwyddiad yma at eich dant.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.