Gan ysgolion, ar gyfer ysgolion: Cyllid Adnodd ar gyfer prosiectau adnoddau athrawon
Esiampl gyffrous o leisiau ymarferwyr a dysgwyr yn chwarae rhan bwysig mewn adnodd a ddatblygir gyda chyllid gan Adnodd.
Nicky Hagendyk ydw i, Ymgynghorydd Addysg sydd wedi gweithio gydag Adnodd fel arbenigwr pwnc dros y 12 mis diwethaf.
Mae llais ymarferwyr a dysgwyr yn chwarae rhan bwysig yn yr holl adnoddau a ddatblygir gyda chyllid gan Adnodd. Un o’r enghreifftiau mwyaf cyffrous sy’n ganolog i’r dull hwn yw’r gwaith ar hanes Cymru. Bu ysgolion yn chwarae rhan greiddiol yn y gwaith o ddatblygu adnoddau. Rhoddodd Adnodd gyllid yn uniongyrchol i bedair ysgol a chafodd eu prosiectau eu cydnabod drwy Wobrau Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig, sef:
- Ysgol Gynradd Gatholig y Bendigaid William Davies (Michelle McManus)
- Ysgol Ffynone House (Helen Nicholas)
- Ysgol Uwchradd Llanidloes (Andrew Morel)
- Ysgol Penboyr (Carol James, Rhian Wyn Williams a Sharon Jones).
Roedd y buddsoddiad o £24,000, ynghyd â’m cefnogaeth, yn galluogi’r athrawon i drawsnewid eu prosiectau yn becynnau adnoddau i’w defnyddio gan ysgolion a lleoliadau ledled Cymru.
Trwy’r prosiectau hyn, yn ogystal â bod yn rhan o’r ymgynghori, roedd ysgolion ac athrawon yn arwain y gwaith o ddatblygu adnoddau. Fe wnaethant arwain y gwaith, llunio’r cynnwys a rhannu dulliau a oedd eisoes wedi profi’n llwyddiannus gyda’u dysgwyr eu hunain.
Rhoddodd y cyllid amser i athrawon dosbarth fireinio a gwella eu deunyddiau. Hefyd cefnogwyd y gwaith cyfieithu, cynllunio a chyhoeddi proffesiynol. Trwy gydol y broses, gweithiais gyda’r athrawon, gan gynnig cefnogaeth, cyngor a chynnal cyfarfodydd rheolaidd i drafod y gwaith o ddatblygu adnoddau. Yr her allweddol oedd troi adnoddau a gynlluniwyd ar gyfer un ysgol yn ddeunyddiau a allai fod yn addas ledled Cymru. Roedd hyn yn golygu addasu prosiectau ar dreftadaeth leol yn becynnau cymorth y gellid eu defnyddio, waeth beth fo’u lleoliad.
Datblygodd yr athrawon fwy o ddealltwriaeth o gynllunio adnoddau, hygyrchedd a datblygu adnoddau dwyieithog. Roedd eu profiad yn yr ystafell ddosbarth yn amhrisiadwy wrth sicrhau bod yr adnoddau gorffenedig yn ymarferol, yn ddiddorol ac yn berthnasol i addysgwyr eraill droi atynt a’u defnyddio.
Meddai Andrew Morel o Ysgol Uwchradd Llanidloes:
“Roedd yn wych cyfrannu at greu adnoddau ar gyfer Adnodd gan ei bod mor bwysig cael yr amser i fyfyrio ar yr hyn rydych chi wedi’i wneud, cyn cyfrannu at rannu adnoddau da ledled y wlad. Yn sicr, roedd heriau ynglŷn â sicrhau bod fy adnoddau, sy’n canolbwyntio ar effaith leol y Rhyfel Mawr, yn berthnasol ym mhob ardal leol yng Nghymru, ond roedd yr her honno yn sicrhau bod y deunydd wedi’i baratoi hyd yn oed yn well. Roedd yn fraint cael fy nghydnabod gan Fenter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig am yr adnoddau yr oedd ein disgyblion wedi dysgu cymaint ohonynt, a chael gwahoddiad wedi hynny gan Adnodd i’w haddasu a’u rhannu.”
Y canlyniad yw dewis eang o adnoddau hanes Cymru yng Nghasgliad Hanes Cymru ar Hwb sy’n arddangos yr arbenigedd mewn ystafelloedd dosbarth ledled Cymru.
Mae wedi bod yn fraint gweithio ochr yn ochr â’r ysgolion hyn a’u cefnogi i ddod â’u prosiectau rhagorol i gynulleidfa ehangach. Rwy’n arbennig o falch o fod wedi gallu cefnogi prosiect lle’r oedd athrawon yn cymryd yr awenau a’r gwaith yn yr ystafell ddosbarth yn dylanwadu ar gynllunio’r adnoddau.
Mae’r adnoddau a ddatblygwyd drwy’r prosiect peilot hwn bellach ar gael am ddim ar Hwb, sef:
- Ysgol Gynradd Gatholig y Bendigaid William Davies, Michelle McManus, Olion Traed y Gorffennol
- Ysgol Ffynone House, Helen Nicholas, The Red Lady of Paviland
- Ysgol Uwchradd Llanidloes, Andrew Morel, Y Rhyfel Mawr
- Ysgol Penboyr, Carol James, Rhian Wyn Williams, Sharon Jones, Cymru a’r Ail Ryfel Byd
Mae hanes Cymru yn ffocws mawr i Adnodd, gydag amrywiaeth o ddatblygiadau yn helpu i ddod â stori gyfoethog ac amrywiol Cymru i ddysgwyr ledled y wlad. Mae’r gwaith hwn wedi cynnwys lansio Casgliad newydd Hanes Cymru ar Hwb, comisiynu adnoddau newydd drwy gydweithio dan ofal Amgueddfa Cymru, a datblygu deunyddiau newydd ar ymholiadau hanesyddol gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Gyda’i gilydd, mae’r cynlluniau hyn yn ehangu mynediad at adnoddau hanes Cymru o ansawdd uchel ar gyfer ysgolion ledled Cymru.
Rwy’n gobeithio y byddwch chi’n mwynhau defnyddio’r adnoddau hyn yn eich ystafelloedd dosbarth.
Nicky Hagendyk, Ymgynghorydd Addysg