Newyddion
Hanes Cymru ar Hwb
Mae newid mawr ar y ffordd i adnoddau Hanes Cymru ar Hwb.
Yn dilyn sgyrsiau cyffrous gydag ysgolion ac arbenigwyr ar draws Cymru, mae Adnodd yn mynd i fod yn comisiynu a chyhoeddi ystod eang o adnoddau Hanes newydd i gyd-fynd gyda’r Cwricwlwm i Gymru.
Ac mae cam gyntaf y broses yma wedi cyrraedd.
Yn fyw ar Hwb nawr, mae’r casgliad ‘Hanes Cymru’ yn ei wneud yn haws nag erioed i ddarganfod yr holl adnoddau Hanes Cymru sydd ar gael yn rhad ac am ddim.
Mae adnoddau gan y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a’r BBC i gyd nawr mewn un man cyfleus, a dyma le fydd yr holl adnoddau newydd yn glanio yn y dyfodol.
Chwiliwch ‘Hanes Cymru’ ar Hwb i ddarganfod mwy, a chadwch lygaid allan am y cyhoeddiadau cyffrous am adnoddau newydd dros y misoedd nesaf.
Darllenwch blog ein Panel Arbenigwyr Hanes yma