Neidio i'r prif gynnwy
English
Newyddion

Lansio platfform prynu llyfrau newydd i gefnogi ysgolion a chyhoeddwyr annibynnol

Ar Ddiwrnod y Llyfr, mae Adnodd wedi cyhoeddi y bydd pob ysgol a lleoliad a gynhelir yng Nghymru yn derbyn credyd ariannol i’w ddefnyddio ar blatfform brynu llyfrau newydd.
Illustration of a person with curly red hair looking through a telescope at stars, constellations and a shooting star. They are holding a star map. Darlun o berson gyda gwallt coch cyrliog yn edrych trwy delesgop at sêr, cytserau a seren wib. Maent yn dal map sêr.

Mae ffolio.cymru yn wefan newydd, syml i’w ddefnyddio a fydd yn galluogi cwsmeriaid i gefnogi cyhoeddwyr a siopau llyfrau annibynnol yng Nghymru gyda phob pryniant.

Mae Adnodd a Llywodraeth Cymru yn helpu ysgolion yng Nghymru i fanteisio ar y platfform gwerthu llyfrau newydd hwn a ddatblygwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Diolch i gyllid Adnodd, bydd gan bob ysgol yng Nghymru gyfrif ar ffolio.cymru ynghyd a chredyd o £50 yr un i’w wario ar lyfrau er mwyn dathlu lansio’r platfform newydd. Bydd y fenter hon, a gyhoeddwyd ar Ddiwrnod y Llyfr 2026, yn rhoi hwb pwysig i fynediad plant a phobl ifanc at lyfrau. Bydd hefyd yn eu cefnogi ac yn eu hysbrydoli i ddatblygu cariad gydol oes at ddarllen.

Gan ddechrau o gyn lleied â 99c, gall ysgolion ddewis llyfrau sy’n adlewyrchu eu cymuned leol a diddordebau eu darllenwyr ifanc.

 

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:

“Mae ffolio.cymru yn ffordd hawdd a hwylus i ysgolion gael mynediad at lyfrau i’w dysgwyr, ac mae’n un o nifer o fentrau yr ydym yn eu cefnogi fel rhan o’r Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru. Bydd y buddsoddiad hwn yn cefnogi ysgolion i brynu llyfrau newydd i ddysgwyr, tra hefyd yn cefnogi busnesau annibynnol yng Nghymru.

Mae’n bwysig bod plant yn mwynhau darllen, ac mae cael mynediad at lyfrau diddorol yn hanfodol i’w helpu i ddatblygu eu cariad at ddarllen. Wrth i ni ddathlu Diwrnod y Llyfr, rwy’n falch o gefnogi Adnodd a Chyngor Llyfrau Cymru i gyhoeddi’r gwasanaeth newydd gwych hwn.”

 

Dywedodd Emyr George, Prif Weithredwr Adnodd:

“Mae ysbrydoli cariad gydol oes at ddarllen yn un o brif amcanion Adnodd, ac mae llythrennedd yn ganolog i siwrne dysgu pawb. Mae ysgolion wedi dweud pa mor bwysig yw cael mynediad hawdd a chyflym at adnoddau perthnasol i’w dysgwyr. Drwy alluogi ysgolion i dderbyn credyd yn eu cyfrifon ffolio.cymru, byddwn yn annog athrawon i archwilio’r ystod eang o lyfrau ac adnoddau sydd ar gael, ac i ddewis y rhai sy’n fwyaf perthnasol i gymuned yr ysgol.”

 

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru:

“Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru ac Adnodd am eu buddsoddiad a chydweithrediad gyda ni ar y platfform cyffrous hwn. Mae galluogi darllenwyr ifanc ledled Cymru i gael mwy o lyfrau gwych i fwynhau yn flaenoriaeth i ni, ac mae lansio ffolio.cymru yn ffordd wych o ddathlu Diwrnod y Llyfr.”

 

Wrth i ffolio.cymru lansio, bydd Adnodd a Chyngor Llyfrau Cymru yn parhau i weithio’n agos gydag ysgolion i sicrhau bod y platfform yn esblygu i gyd-fynd ag anghenion ymarferwyr a dysgwyr. Mae’r buddsoddiad hwn yn gam pwysig wrth ehangu mynediad at ddeunyddiau darllen o ansawdd uchel ac i gefnogi uchelgais Cwricwlwm i Gymru.

Drwy roi mwy o reolaeth i ysgolion dros y llyfrau maen nhw’n eu dewis, nod y fenter yw rhoi hwb i lythrennedd,meithrin cariad parhaol at ddarllen, a galluogi pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru i ffynnu.