Rownd Ariannu’r Hydref – Prosiectau Llwyddiannus
Rydym yn falch o gyhoeddi tri phrosiect a sicrhaodd gyllid yn ein rownd ariannu o’r Hydref, gyda ffocws ar Iechyd a Llesiant, Rhifedd, a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM). Bydd y rhain ar gael ar Hwb erbyn diwedd mis Mawrth 2026.
Maths Bridge Cymru – Rhaglen ymyrraeth wedi’i thargedu gan First4Maths, i gau bylchau mewn Rhifedd ac Algebra ar gyfer dysgwyr Camau Cynnydd 2 a 3. Mae’n cyfuno asesiadau diagnostig, mesurau hyder, a chanllawiau strwythuredig i athrawon i adeiladu dealltwriaeth a rhuglder.
Teithiau Rhyngweithiol 360-Gradd – Adnodd digidol sy’n defnyddio technoleg ymgolli gan Immersive Discoveries, mae’n cynnig teithiau rhithwir o bedwar safle crefyddol pwysig yng Nghaerdydd. Gyda mannau rhyngweithiol dwyieithog ac awgrymiadau sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm, mae’n hyrwyddo dealltwriaeth rhyng-ffydd wrth gefnogi llythrennedd achymhwysedd digidol.
Sut Wyt Ti? – Cyfres o fideos byr, dwyieithog gan Rondo Media, sy’n mynd i’r afael â phynciau allweddol iechyd meddwl a llesiant ar gyfer pobl ifanc. Gan ddefnyddio arddull ffres, wedi’i ysbrydoli gan y cyfryngau cymdeithasol, mae’r adnodd yn normaleiddio sgyrsiau am deimladau ac yn rhoi strategaethau ymdopi ymarferol i ddysgwyr.