Y £750,000 nesaf: adnoddau newydd a chyfleoedd newydd
Ers mis Medi 2025, rydym wedi buddsoddi bron i £3 miliwn mewn adnoddau addysgol i gefnogi amrywiaeth eang o flaenoriaethau.
O adnoddau ar gyfer cymwysterau newydd a hanes Cymru i brosiectau technoleg arloesol a chynlluniau llyfrau am ddim, mae’r buddsoddiadau hyn eisoes yn gwneud gwahaniaeth mewn ystafelloedd dosbarth a chymunedau ledled Cymru. Rwy’n falch iawn o’r tîm sydd wedi gwneud hyn yn bosibl.
Rhan allweddol o’r gwaith hwn yw meithrin partneriaethau gyda sefydliadau cenedlaethol, cyhoeddwyr, cwmnïau creadigol, a gweithwyr llawrydd. Gyda’n gilydd, rydym yn cryfhau capasiti ar draws y sectorau addysg a chreadigol yng Nghymru ac yn cefnogi cyflenwyr a phartneriaid i ddatblygu a gwella eu gallu i gyflawni.
Rydym wrthi’n paratoi ar gyfer ein rownd comisiynu nesaf ar hyn o bryd. Yr hydref hwn, byddwn yn lansio cyfleoedd comisiynu newydd fydd werth tua £750,000. Bydd y rhain yn canolbwyntio ar y canlynol: llythrennedd, rhifedd, cymwysterau newydd, llesiant a gwrth-hiliaeth.
Yn ogystal â chomisiynu adnoddau newydd, rydym yn cryfhau’r systemau sy’n cefnogi’r gwaith hwn. Drwy ein Fframwaith Sicrhau Ansawdd, rydym yn creu dull agored a chyson o sicrhau bod adnoddau o ansawdd uchel, yn cyd-fynd â’r cwricwlwm, yn hygyrch, yn hawdd eu defnyddio, ac yn gwneud gwahaniaeth.
Gwyddom fod creu adnoddau addysgol rhagorol yn gofyn am arbenigedd o’r sector addysg a thu hwnt. Mae ein prosesau comisiynu a sicrhau ansawdd yn dod ag ymarferwyr, academyddion, sefydliadau cenedlaethol, diwydiannau creadigol, arbenigwyr technoleg a dysgwyr at ei gilydd. Mae’r cydweithio eang hwn yn helpu i sicrhau bod adnoddau’n ddiddorol, yn gynhwysol ac yn berthnasol.
Mae’r dull cydweithredol hwn yn hanfodol i’r ffordd rydym yn gweithio ac yn cael effaith, ac rwy’n falch iawn o ddweud ei fod eisoes yn dwyn ffrwyth. Mae buddsoddiadau diweddar wedi dod ag adnoddau newydd i Hwb sy’n cefnogi llesiant, gwerthoedd a moeseg, mathemateg, a hanes Cymru, gyda rhagor o adnoddau ar hawliau dynol a gwrth-hiliaeth i ddilyn yn nhymor y gwanwyn 2027.
Rydym hefyd wedi parhau i fynd i’r afael â bylchau yn y ddarpariaeth Gymraeg drwy fuddsoddi mewn adnoddau ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, dysgu galwedigaethol cyfrwng Cymraeg, addysg gwyddoniaeth, a fformatau hygyrch ar gyfer dysgwyr dall a rhannol ddall.
Mae ein ffyrdd o weithio yn cynnwys dysgu parhaus drwy ymgysylltu ac ymchwil. Bydd ein hymchwil i adnoddau llythrennedd yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref a bydd y canfyddiadau’n llywio ein cynlluniau a’n blaenoriaethau comisiynu. Drwy archwilio’r dystiolaeth ac adolygu’r hyn sydd ar gael ac sy’n cael ei ddefnyddio yng Nghymru, mae’r ymchwil wedi nodi beth sy’n gweithio orau a ble mae’r bylchau a’r cyfleoedd. Bydd cynllun Cyfeillion Adnodd Friends yn galluogi ymarferwyr ac eraill i helpu i nodi anghenion, llunio blaenoriaethau a gwerthuso’r adnoddau rydym yn eu hariannu.
Mae pob buddsoddiad rydym yn ei wneud yn cael ei arwain gan yr un uchelgais: gwneud yn siŵr bod gan bob dysgwr ac ymarferydd, beth bynnag fo’i gefndir, fynediad at adnoddau a fydd yn tanio eu dychymyg ac yn annog angerdd gydol oes at ddysgu.
Ar ôl gweithio ym maes addysg a chymwysterau am bron i 20 mlynedd, rwy’n gwybod bod ymarferwyr a dysgwyr yn wynebu newidiadau enfawr yn rheolaidd. Rôl unigryw Adnodd yw eu helpu i ymateb yn hyderus i’r newidiadau hynny gan gefnogi ac ysbrydoli dysgu drwy roi mynediad at adnoddau o ansawdd uchel. Adnoddau sydd wedi cael eu siapio gan anghenion dysgwyr a’u darparu mewn fformatau gafaelgar, hygyrch ac addasadwy.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael yr wybodaeth ddiweddaraf, ymunwch â’n cymuned a’n dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol.
Emyr George, prif weithredwr Adnodd