Ysbrydoli plant a phobl ifanc gydag adnoddau newydd Hanes Cymru
“Cydweithio cyffrous rhwng y sector diwylliant ac addysg yn rhoi cyfle i holl ddysgwyr Cymru ddod i adnabod hunaniaeth amrywiol ein gwlad”
Mae Adnodd – y corff hyd braich sy’n gyfrifol am arwain a chydlynu’r broses o ddarparu adnoddau addysgol – wedi cyhoeddi prosiectau newydd i gefnogi dysgu ac addysgu Hanes Cymru.
Yn dilyn proses gomisiynu gystadleuol, bydd Amgueddfa Cymru – ar y cyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cadw, a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru – yn cael cyllid gan Adnodd er mwyn creu cyfres o adnoddau addysgol newydd a fydd yn sbarduno chwilfrydedd am hanes Cymru ymhlith dysgwyr.
Bydd yr adnoddau’n annog dysgwyr i herio a chwestiynu sut mae digwyddiadau hanesyddol yn cael eu cofnodi a’u cyfathrebu, gan ddatblygu sgiliau dadansoddol a beirniadol plant a phobl ifanc. Drwy hyn, byddan nhw’n archwilio themâu o bwys yn hanes Cymru, gan gynnwys y chwyldro diwydiannol a’r cyfnod modern.
Dywedodd Emyr George, Prif Weithredwr Adnodd:
“Un o amcanion Adnodd yw galluogi mwy o gyflawni strategol ar draws sectorau, ac mae’r comisiwn newydd yma yn enghraifft wych o gydweithio cadarnhaol rhwng y sectorau diwylliant ac addysg. Rydyn ni hefyd yn gweithredu ar sail ymchwil a thystiolaeth, ac mae’r prosiect cyffrous yma’n dilyn cyngor Grŵp Arbenigwyr Hanes Cymru ynghylch sut i gefnogi dysgu ac addysgu ein hanes drwy’r Cwricwlwm i Gymru.”
Dywedodd Anna Brychan, y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg:
“Mae deall hanes Cymru yn hanfodol i roi’r hyder i’n pobl ifanc i chwarae rhan lawn yn ein cymdeithas. Mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i ymgorffori hanes Cymru ym mhob rhan o’r system addysg, ac i sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno mewn ffordd eang a chynhwysol i bob dysgwr.
“Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad bod Adnodd yn cydweithio â haneswyr a sefydliadau diwylliannol blaenllaw yng Nghymru i greu adnoddau a fydd yn ysbrydoli, addysgu ac adlewyrchu ein hanes cyfoethog.”
Dywedodd Jane Richardson, Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru:
“Diolch i gefnogaeth Adnodd, bydd y prosiect yma yn rhoi cyfle i blant a phobl ifainc Cymru ddod i adnabod hunaniaeth amrywiol ein gwlad. Ein bwriad yw gweithio gyda’n partneriaid i ddatblygu unedau gynhwysol o adnoddau difyr, wedi’u seilio ar dystiolaeth Gymraeg a Chymreig dilys fel gwrthrychau, archifau ac hanesion llafar sy’n rhan o’r Casgliad Cenedlaethol, a fydd yn annog chwilfrydedd gydol oes yn ein hanes amrywiol a chyfoethog.”
Mae’r prosiect yma yn rhan o gyfres o ddatblygiadau sydd wedi eu galluogi gan Adnodd gyda’r nod o wella ac ehangu sut mae hanes Cymru yn cael ei ddysgu yn y dosbarth.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Creu gofod newydd pwrpasol ar Hwb ar gyfer Hanes Cymru, gan ei wneud yn haws i ymarferwyr a dysgwyr ddod o hyd i adnoddau dwyieithog digidol a’u defnyddio.
- Cefnogi grŵp o ysgolion a fu’n llwyddiannus ym Menter Ysgolion Treftadaeth Cymru 2025, gan alluogi disgyblion ac ymarferwyr i gyd-greu adnoddau sy’n adlewyrchu eu cynefin.
- Adnodd “dihangfan” ar thema Tryweryn sy’n annog defnyddwyr i edrych drwy gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru tra’n gwella eu sgiliau llythrennedd a digidol ar yr un pryd.
- Cylchgrawn newydd sbon gan gwmni Atebol i gefnogi dysgwyr TGAU Hanes, gyda’r rhifyn cyntaf ar gael fis Hydref 2026.
Bydd adnoddau newydd gan Amgueddfa Cymru ar gael ar Hwb yn ystod tymor y gwanwyn 2027.
Bydd Adnodd yn cynnal sgwrs banel am Hanes, Hunaniaeth a’r Cwricwlwm i Gymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ddydd Sadwrn 1 Awst am 4.30pm, a hynny yn Ardal y Cymdeithasau. Bydd y digwyddiad hwn yn dwyn ynghyd lleisiau o bob rhan o addysg, diwylliant a threftadaeth i archwilio sut y gall dealltwriaeth gyfoethocach a mwy cynhwysol o orffennol Cymru ysbrydoli dysgu heddiw.
Ymunwch â’r gymuned