Neidio i'r prif gynnwy
English

Cyfarfod Bwrdd Adnodd: 14 Gorffennaf 2023

Darllenwch gofnodion cyfarfod Bwrdd Adnodd a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2023. Ymhlith y pynciau dan sylw roedd llywodraethu, cynlluniau comisiynu, materion ariannol a’r camau nesaf wrth i Adnodd barhau i dyfu a chefnogi dysgwyr ac ymarferwyr ledled Cymru.

Cyhoeddwyd yn wreiddiol
Diweddarwyd ddiwethaf
Lawrlwytho: 208.05 KB, PDFEfallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch

Yn bresennol

  • Gethin Davies, Cadeirydd (GD)
  • Lesley Bush (LB)
  • Sioned Roberts (SR)
  • Lucy Thomas (LT)
  • Nicola Wood (NW)
  • Huw Jones (HJ)
  • Owain Lloyd (OL)
  • Ann Evans (AE)
  • Elliw Roberts (ER)
  • Bethan Webb, Llywodraeth Cymru (BW)

1. Croeso ac ymddiheuriadau

Croesawyd pawb i’r cyfarfod.

2. Datganiadau o fuddiant

NW – mewn perthnasedd a diogelwch data, mae’n aelod o’r ICO.

3. Cofnodion y cyfarfod diwethaf

Cytunwyd bod y cofnodion yn adlewyrchiad teg a chywir o’r cyfarfod.

 

Trafodwyd y pwyllgorau sydd eisoes wedi’u cytuno a nodwyd y byddai’r Pwyllgor Tâl yn newid i fod yn Bwyllgor AD a Chyllid.

Nodwyd pryder aelodau ARAC nad oes gan Adnodd gyfrifydd cymwysedig ar y Bwrdd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i benodi fwy o aelodau erbyn yr hydref.

Gallai’r Bwrdd ystyried caffael gwasanaethau aelod annibynnol i gadeirio ARAC, ond o wneud hynny byddai’r aelod hwnnw ddim yn aelod llawn o’r Bwrdd ac felly ddim yn gallu eistedd ar y Bwrdd llawn na’r Pwyllgor AD a Chyllid.

Cytunwyd bod sgôp i hysbysebu am ddau aelod i’r Bwrdd i gwrdd â gofynion cyllid ac amrywiaeth.

Gwnaed sylw ei fod yn arferol i Gadeirydd y Pwyllgor Awdit a Risg fod yn derbyn tâl uwch oherwydd natur arbenigol y swydd. O ystyried na fu’r ymgyrch recriwtio diwethaf yn llwyddiannus a bod angen yr arbenigedd yma er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth y Bwrdd, gofynnwyd a fyddai modd ystyried graddfa tâl uwch ar gyfer y rôl hon.

Gweithred: Swyddogion Llywodraeth Cymru i drafod gyda’r Uned Penodiadau Cyhoeddus a chynnig cyngor.

4. Diweddariad Tîm Gweithredol

Rhannwyd papur yn amlinellu cynnydd yn y chwarter cyntaf o’r flwyddyn ariannol o flaen llaw i’r cyfarfod.

Rhoddwyd diweddariad pellach ar rai materion penodol:

Caffael

Cymeradwyaeth wedi ei dderbyn i ddyfarnu yn uniongyrchol y contract gwasanaeth caffael i gwmni Curshaw.

Gwaith ymgysylltu

  • Holiaduron ar lein bellach yn fyw gyda hysbysebion ar sianeli cyfryngau cymdeithasol.
  • Fideos byr am Adnodd hefyd wedi eu cynhyrchu a’u rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Bydd  ‘show reels’ yn cael eu creu i egluro amserlen Adnodd er mwyn rheoli disgwyliadau rhanddeiliaid. Tîm Gweithredol i rannu linciau gydag aelodau.
  • Cyfarfodydd gyda Cymwysterau Cymru a CBAC yn mynd rhagddynt. Byddwn angen yn sicrhau bod ein negeseuon yn cyd-fynd er mwyn rheoli disgwyliadau a bod negeseuon cyson yn cael eu rhannu.

5. Cylch Gorchwyl y Bwrdd

Holwyd am y nifer ar gyfer cworwm a nodir yn y ddogfen a’r manylion ym mharagraff 5.5.

Y Tîm Gweithredol i ddiweddaru’r ddogfen yn dilyn adborth y Bwrdd a chyflwyno ail ddrafft yng nghyfarfod 22 Medi 2023.

6. Polisïau

Cydnabuwyd maint y gwaith yn llunio’r polisïau ac mai dros dro yn unig yw rhai er mwyn sicrhau llywodraethiant effeithlon yn ystod y cyfnod sefydlu.

Nodwyd bod polisïau AD yn rhoi rôl benodol i’r Pwyllgor Awdit a Risg yn y cyfnod dros dro, ond bod angen cofio mai rôl y Pwyllgor Awdit a Risg yw sicrhau bod Adnodd yn gweithredu yn ôl ei orchwyl.  Bydd angen ail edrych ar y polisïau pan fydd Prif Weithredwr wedi eu penodi ac y bydd staff mewn lle.

7. Diweddariad gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC)

Cafwyd diweddariad gan y Pwyllgor.

Mae’r Pwyllgor wedi cyfarfod ddwywaith yn ystod y chwarter cyntaf.

Nodwyd bod y Pwyllgor yn pryderu nad oes cyfrifydd cymwysedig ar y Pwyllgor ac nad oes gwasanaeth archwilio mewn lle.

Mae’r Pwyllgor wedi awgrymu y dylid cwblhau asesiad o sgiliau aelodau’r Bwrdd.  Tîm Gweithredol i rannu’r ddogfen  gyda’r Bwrdd wythnos nesaf.

Mae Cylch Gorchwyl ARAC wedi’i ddrafftio a cynigwyd ei fod yn cael ei gymeradwyo.  Nodwyd y bydd angen addasu’r ddogfen ymhen amser i adlewyrchu unrhyw ddyletswyddau ychwanegol o’r polisïau AD os bydd y rhain yn cael eu cymeradwyo.

Nodwyd bod Cofrestr Risg LlC yn fan cychwyn da i Adnodd ond bod angen ail edrych ar sgôr rhai o’r risgiau.

8. Unrhyw fusnes arall

Mae’r hysbyseb am y swydd Prif Weithredwr bellach yn fyw a’r dyddiad cau yw 27 Gorffennaf. Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal ar 14 Medi.

Argymhellodd aelodau i’r wybodaeth am y gwaith ymgynghori gael ei rannu yn ehangach, ee Cynhadledd CYDAG ym Medi.  Tîm Gweithredol i drafod gyda’r cwmni cyfathrebu.

Gofynnodd Aelodau’r Bwrdd am gyflwyniad gan y Tîm Gweithredol ar y broses flaenorol o gomisiynu adnoddau a sut y gall pethau gael ei gwneud yn wahanol yn Adnodd. Tîm Gweithredol i drefnu hyn ar gyfer y cyfarfod Bwrdd nesaf.

Nodwyd pryder am y sefyllfa staffio annigonol.  Cytunodd y Bwrdd i’r cynnig o hysbysebu secondiad mewnol yn Llywodraeth Cymru yn mis Medi.


Cyhoeddwyd yn wreiddiol
Diweddarwyd ddiwethaf
Lawrlwytho: 208.05 KB, PDFEfallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch