Neidio i'r prif gynnwy
English

Cyfarfod Bwrdd Adnodd: 14 Tachwedd 2024 14:00-14:45

Darllenwch gofnodion cyfarfod Bwrdd Adnodd a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2024. Ymhlith y pynciau dan sylw roedd llywodraethu, cynlluniau comisiynu, materion ariannol a’r camau nesaf wrth i Adnodd barhau i dyfu a chefnogi dysgwyr ac ymarferwyr ledled Cymru.

Cyhoeddwyd yn wreiddiol
Diweddarwyd ddiwethaf
Lawrlwytho: 133.81 KB, PDFEfallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch

Yn bresennol

Adnodd:

  • Gethin Davies, Cadeirydd (GD)
  • Mair Gwynant, Cadeirydd ARAC (MG)
  • Lesley Bush (LB)
  • Sioned Roberts (SR)
  • Huw Jones (HJ)
  • Natalie Jones (NJ)
  • Emyr George, Prif Weithredwr (EG)
  • Lleucu Siencyn, Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyflawni (LlS)
  • Ruth Davies, Rheolwr Busnes (RD)
  • Branwen Edwards, Ysgrifenyddiaeth (BE)

Ymddiheuriadau

  • Nicola Wood (NW)

 

1. Croeso, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant

Croesawodd GD bawb i’r cyfarfod.  

Roedd ymddiheuriadau wedi dod i law gan NW. 

Esboniodd EG fod Lucy Thomas wedi datgan ei bwriad i roi’r gorau i’w rôl fel aelod o’r Bwrdd ac aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg. Esboniodd fod y broses i gadarnhau’r ymddiswyddiad yn ffurfiol yn mynd rhagddi. Y nod oedd cytuno ar ddyddiad swyddogol gydag Ysgrifennydd y Cabinet cyn cyfarfod nesaf y Bwrdd ym mis Rhagfyr. Bydd gan Adnodd bythefnos o’r dyddiad hwnnw i roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau. 

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. 

2. Cyllid

Polisi Cyllid

Rhoddodd EG grynodeb o’r gwaith i ddatblygu’r Polisi Cyllid hyd yma, yn dilyn y drafodaeth a’r gwaith craffu yn y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ers dechrau’r flwyddyn.  

Dywedwyd bod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn argymell y Polisi Cyllid i’r Bwrdd fel dogfen fyw, a bydd gwaith rheolaidd yn cael ei wneud i adolygu’r ddogfen ar ôl i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol ddechrau yn ei swydd. 

Penderfyniad: Y Bwrdd yn cytuno i gymeradwyo’r Polisi Cyllid. 

 

3. Adnoddau Dynol

Adolygu tâl y staff (eitem gaeedig) 

Aelodau o staff: Gadawodd LlS, RD a BE y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon. 

Cofnodion caeëdig. 

Polisïau adnoddau dynol

Roedd y gyfres bresennol o bolisïau adnoddau dynol wedi cael eu cymeradwyo eisoes gan y Bwrdd. Y bwriad oedd edrych eto ar y polisïau gyda chymorth a chyngor Darwin Gray, gan ystyried a oes angen rhagor o bolisïau. 

Esboniodd EG fod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg wedi craffu ar y gyfres gyntaf o bolisïau. Roedd tri o’r polisïau hyn wedi’u blaenoriaethu i’w hargymell i’r Bwrdd yn ystod y cyfarfod hwn, gyda rhagor o bolisïau i’w cyflwyno yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Rhagfyr. 

  1. Polisi Gweithio’n Ystwyth 

Penderfyniad: Cymeradwyodd y Bwrdd y Polisi Gweithio’n Ystwyth. 

  1. Polisi Treuliau 

Dywedodd EG fod y polisi hwn, sydd wedi’i ddiweddaru, yn wahanol mewn rhai ffyrdd i arferion Llywodraeth Cymru. Mae hynny’n adlewyrchu’r gwahaniaethau yn sut y mae Adnodd yn gweithredu, a hwnnw’n sefydliad cwbl ar wahân. Mae’r polisi’n sicrhau cydbwysedd addas rhwng camau rheoli a ymarferoldeb.  

Penderfyniad: Cymeradwyodd y Bwrdd y Polisi Treuliau. 

  1. Y Weithdrefn Disgyblu a Galluogrwydd 

 

Esboniodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg fod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r weithdrefn ar y sail ei fod yn cytuno ag egwyddorion y weithdrefn. Ar ôl trafodaethau yn y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, cytunwyd y byddai angen rhannu’r weithdrefn yn ddwy er mwyn adlewyrchu’r gwahaniaethau rhwng ‘galluogrwydd’ a ‘disgyblu’. Dywedwyd y byddai’r gwaith o rannu’r ddwy weithdrefn yn cael ei gwblhau yn gynnar yn y flwyddyn newydd, cyn i’r polisïau adnoddau dynol gael eu cyflwyno i’r staff er mwyn ymgynghori yn eu cylch. 

Penderfyniad: Y Bwrdd yn derbyn cymeradwyaeth y Weithdrefn Disgyblu a Galluogrwydd ar yr amod y bydd yn cael ei rhannu yn ddwy weithdrefn ar wahân yn y flwyddyn newydd, cyn ymgynghori â’r staff.  

Cam gweithredu: Y Tîm Gwasanaethau Corfforaethol i ystyried gosod dyddiadau am yn ail ar gyfer adolygu polisïau adnoddau dynol, er mwyn helpu i reoli’r llwyth gwaith a fydd yn gysylltiedig ag adolygu a diweddaru’r polisïau yn y dyfodol.  

Cam gweithredu: Y Tîm Gwasanaethau Corfforaethol i benderfynu a ddylid cyhoeddi unrhyw bolisïau ar wefan Adnodd. 

4. Unrhyw fusnes arall

Recriwtio 

Rhoddodd EG wybod i aelodau’r Bwrdd bod Kirsty Davies wedi’i phenodi yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Adnodd, ac y bydd yn dechrau yn ei swydd ar 6 Ionawr 2025. Esboniodd fod Kirsty wedi bod mewn swydd debyg yn yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ers chwe blynedd.   

Gwefan Adnodd 

Nodwyd bod gwefan Adnodd bellach wedi’i lansio, ar ôl pasio archwiliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer dylunio a hygyrchedd.  

Cytunwyd y byddai Blue Stag yn cael ei wahodd i gyfarfod y Bwrdd ym mis Mawrth i roi diweddariad trylwyr am ei waith, a hynny’n cynnwys gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol a metrigau’r wefan. 

Cam gweithredu: Gwahodd Blue Stag i gyfarfod mis Mawrth er mwyn rhoi cyflwyniad cyn busnes swyddogol y Bwrdd. 

Cyllid ychwanegol yn 2024-25 

Esboniodd EG y bydd Adnodd yn cael cyllid ychwanegol i’w wario ar adnoddau llythrennedd rhwng nawr a diwedd y flwyddyn ariannol bresennol. Dywedodd y bydd gwybodaeth am y farchnad a gasglwyd drwy drafodaethau â chyflenwyr dros yr haf yn helpu i benderfynu sut y caiff y cyllid ychwanegol hwn ei wario, gyda phwyslais penodol ar adnoddau i hybu llythrennedd. 

Diweddariad gan Gyfarwyddwr Addysg Dros Dro Llywodraeth Cymru 

Dywedwyd bod Cyfarwyddwr Addysg Dros Dro Llywodraeth Cymru wedi anfon neges at holl staff y Gyfarwyddiaeth yn gofyn iddyn nhw enwi unrhyw waith sy’n mynd rhagddo neu waith sydd yn yr arfaeth a allai elwa o gael adnoddau addysgol a deunyddiau ategol newydd neu rai wedi’u diweddaru, neu waith a allai arwain at greu adnoddau o’r fath. 

Mae e-bost y Cyfarwyddwr Dros Dro yn gofyn i bob tîm yn y Gyfarwyddiaeth sy’n canfod bod angen adnoddau addysgol gysylltu â Grŵp Gweithrediadau Adnodd i drafod yr amcanion, y blaenoriaethau a’r cyllid. Bydd angen trafod yr anghenion o ran adnoddau yng nghyfarfodydd misol Grŵp Gweithrediadau Adnodd yn y camau cynnar, er mwyn galluogi Adnodd i weithio’n strategol ac i roi cyngor am yr opsiynau gorau, yr hyn a fydd yn deillio o’r gwaith, a gwerth am arian. 


Cyhoeddwyd yn wreiddiol
Diweddarwyd ddiwethaf
Lawrlwytho: 133.81 KB, PDFEfallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch