Cyfarfod Bwrdd Adnodd: 16 Gorffennaf 2025 14:00-17:00
Darllenwch gofnodion cyfarfod Bwrdd Adnodd a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf 2025. Ymhlith y pynciau dan sylw roedd llywodraethu, cynlluniau comisiynu, materion ariannol a’r camau nesaf wrth i Adnodd barhau i dyfu a chefnogi dysgwyr ac ymarferwyr ledled Cymru.
- Cyhoeddwyd yn wreiddiol
- Diweddarwyd ddiwethaf
Yn bresennol:
Adnodd:
- Gethin Davies, Cadeirydd (GD)
- Mair Gwynant, Cadeirydd ARAC (MG)
- Natalie Jones (NJ)
- Huw Jones (HJ)
- Sioned Roberts (SR)
- Emyr George, Prif Weithredwr (EG)
- Kirsty Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol (KD)
- Lleucu Siencyn, Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyflawni (LlS)
- Branwen Edwards, Ysgrifenyddiaeth (BE)
- Katy Barfoot (KB)
Llywodraeth Cymru:
- Tahayra Ayub-buhllar
1. Croeso ac ymddiheuriadau
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Roedd Nicola Wood wedi anfon ei hymddiheuriadau.
2. Datgan buddiannau
Nid oedd unrhyw wrthdaro buddiannau wedi’i ddatgan cyn y cyfarfod.
Dywedodd un aelod ei bod yn Gadeirydd Bwrdd Comisiynydd y Gymraeg a’i bod wedi’i phenodi’n ddiweddar ar Bwyllgor Archwilio a Risg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
3. Cofnodion y cyfarfod diwethaf
Cytunodd y Bwrdd fod y cofnodion yn gofnod cywir a gwir o’r trafodaethau.
4. Diweddariad gan y Cadeirydd
Dywedodd GD ei fod yn llongyfarch tîm Adnodd yn dilyn lansiad llwyddiannus y Strategaeth. Soniwyd am bwysigrwydd presenoldeb y Prif Weinidog a’r ymwneud fu â hi yn ystod y digwyddiad lansio yn Eisteddfod yr Urdd.
Nodwyd bod cylch rheoli perfformiad holl aelodau’r Bwrdd wedi’i gwblhau.
Cyfeiriodd GD at bwyntiau allweddol a godwyd yn ystod y cyfarfodydd adolygu â’r aelodau:
- Cyfarfodydd wyneb yn wyneb rheolaidd
- Cylchlythyron rhwng cyfarfodydd
- Adborth ac awgrymiadau’n dilyn hyfforddiant
5. Diweddariad gan Gadeirydd ARAC
Dywedodd MG fod y Pwyllgor wedi cwrdd ddwywaith ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd – unwaith i drafod polisïau adnoddau dynol ac unwaith pan gynhaliwyd cyfarfod arferol o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC).
Roedd ARAC wedi cytuno y byddai cofnodion y cyfarfod blaenorol yn cael eu cylchredeg fel atodiad i ddiweddariad Cadeirydd ARAC ym mhob un o gyfarfodydd y Bwrdd.
Dywedodd MG fod yr archwilwyr mewnol ac allanol yn bresennol yng nghyfarfod ARAC ar 25 Mehefin, ac roedd cyfle i aelodau’r Pwyllgor gael cyfarfod caeedig â’r archwilwyr mewnol, heb swyddogion yn bresennol.
Cytunwyd ar gylch gorchwyl ARAC ar gyfer 25/26 yn ystod y cyfarfod ar 25 Mehefin. Penodwyd Nicola Wood yn is-gadeirydd y Pwyllgor.
Dywedodd MG fod adroddiad blynyddol wedi’i gyflwyno i EG yn rhinwedd ei swydd fel Swyddog Cyfrifyddu, yn ogystal ag i GD, a hwnnw’n rhoi crynodeb o waith a phrosesau craffu ARAC yn ystod y flwyddyn.
6. Diweddariad y Prif Weithredwr
Rhoddodd EG grynodeb o waith diweddar Adnodd gyda Llywodraeth Cymru:
- Gweithdy deuddydd gyda thîm Hwb, y tîm Partneriaeth a’r Tîm Cyfathrebu
- Mae cyfres o gyfarfodydd tymhorol gyda Dirprwy Gyfarwyddwyr y Gyfarwyddiaeth Addysg yn dal i gael eu cynnal. Bydd y sgyrsiau hyn yn helpu i sicrhau bod gweithgarwch a chynlluniau Adnodd yn cyd-fynd yn agos â blaenoriaethau polisïau addysg ac yn cyfrannu’n effeithiol at eu cyflawni. Bydd hyn yn digwydd drwy ddatblygu adnoddau holistig sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, a hynny mewn ffordd integredig a chydweithredol
- Bydd cyfarfod nesaf y Bwrdd Strategol Adnoddau Addysg yn cael ei gynnal ar 23 Mehefin, dan gadeiryddiaeth y Cyfarwyddwr Addysg. Cytunwyd ar agenda â’r Tîm Partneriaethau er mwyn adolygu sut mae cyllideb ac amcanion Adnodd wedi’u gosod eleni, ac er mwyn cytuno ar y dull o osod cyllid a blaenoriaethau Adnodd y flwyddyn nesaf. Bydd rôl a gwaith Adnodd mewn perthynas â’r corff dysgu proffesiynol newydd hefyd yn cael ei drafod
- Dywedodd EG ei fod wedi cwrdd yn ddiweddar â Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Gweithlu, a fydd yn bennaeth ar Dîm Partneriaeth y corff dysgu proffesiynol newydd. Cytunwyd y dylid creu ffyrdd cyffredin o weithio wrth ymwneud ag ymarferwyr a’u galluogi i gymryd rhan
- Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi ymateb i’r llythyr a anfonwyd ati yn egluro prif bwyntiau’r Strategaeth. Bydd tîm gweithredol Adnodd yn cwrdd wyneb yn wyneb ag Ysgrifennydd y Cabinet ym mis Medi
Gan gyfeirio at y llythyr gan Gomisiynydd y Gymraeg, dywedodd EG y bydd cyfarfod yn cael ei drefnu i drafod ymhellach rwymedigaethau Adnodd o dan safonau’r Gymraeg.
Gan ymateb i ymholiad gan aelod am rwymedigaethau Adnodd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, nododd EG y byddai’n anfon ymholiad at un o swyddogion Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol am hyn.
7. Diweddariad y Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyflawni: Comisiynu a Strategaeth
Y Strategaeth
Dywedodd LlS fod y testun, ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd, wedi’i adolygu a’i ddiwygio i ymateb i sylwadau gan yr aelodau ac adborth gan swyddogion Llywodraeth Cymru. Cymeradwyodd y Cadeirydd a’r Prif Weithredwr fersiwn derfynol ym mis Mai.
Lansiwyd y Strategaeth ar stondin Llywodraeth Cymru yn Eisteddfod yr Urdd yng nghwmni’r Prif Weinidog, Eluned Morgan. Roedd ei haraith yn hynod gefnogol o waith Adnodd.
Y cam nesaf yw cyhoeddi fersiwn i blant, wedi’i ysgrifennu gan Casia Wiliam, yr awdur plant sydd wedi ennill gwobrau am ei gwaith.
Diweddariad am waith comisiynu 2025-26
Mae’r llythyr ariannu blynyddol yn amlinellu’r blaenoriaethau ar gyfer comisiynu yn 2025-26.
Mae’r rowndiau comisiynu wedi’u rhannu o dan y prosesau canlynol:
Y Gronfa Arloesi a Chydweithio
Lansiwyd y Gronfa yn Eisteddfod yr Urdd i gyd-daro â lansiad y Strategaeth, a’i diben yw cefnogi a galluogi sefydliadau, cyflenwyr ac ymarferwyr addysgol i ddod ynghyd er mwyn trafod, cnoi cil a rhannu eu syniadau a’u profiadau â phobl eraill.
Daeth cyfanswm o 64 o geisiadau i law.
Cysylltwyd â nifer o sefydliadau partner a gweithwyr llawrydd sydd â phrofiad arbenigol a phrofiad bywyd er mwyn helpu gyda’r broses asesu.
Ar ôl i’r tîm comisiynu gynnal sesiwn gymedroli drylwyr, dewiswyd 10 o brosiectau.
Yn ystod cyfarfod ddydd Llun 14 Gorffennaf, cyflwynodd Ali Hanbury y ceisiadau a ddewiswyd i’r tîm gweithredol, a gytunodd â’r penderfyniad. Cytunwyd y gellid cymryd y camau nesaf i roi gwybod i’r ymgeiswyr llwyddiannus ac aflwyddiannus.
Dyfarniadau uniongyrchol
Mae cyfanswm o £1,037,000 wedi’i roi: BookTrust (£770,000); Cyngor Llyfrau Cymru (£171,184); a’r RNIB (£120,987.95).
Bydd dau o’r dyfarniadau uniongyrchol a roddwyd yn y flwyddyn ariannol hon yn cael eu cario drosodd i’r flwyddyn ariannol nesaf. Mae’r naill brosiect a’r llall yn ymateb i’r gofyniad a geir yn y llythyr cyllido i ddatblygu adnoddau Cymraeg i gefnogi dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae grantiau yn cael eu rhoi i Tanio (£40,000), Cyngor Llyfrau Cymru (£46,000 – Stori Sydyn) a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (£150,000).
Mae £700,000 yn rhagor wedi’i ymrwymo i barhau â phrosiectau y dyfarnwyd cyllid iddyn nhw yn 24/25, sy’n cynnwys grantiau newyddu, dyfarniadau uniongyrchol a cheisiadau am gynigion.
Cyllid ychwanegol
Mae achos busnes wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru i helpu i ddarparu adnoddau ar gyfer Ton 2 y cymwysterau TGAU. Disgwylir y bydd y cyllid angenrheidiol (£545,404.00) yn cael ei ddosrannu dros ddwy flwyddyn ariannol.
Dywedodd GD fod adnoddau Ton 1 y cymwysterau TGAU bellach ar gael ar wefan CBAC.
Ceisiadau am gynigion
Bydd y ffenestr ymgeisio yn agor ym mis Medi ac yn rhoi sylw i’r canlynol: Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg; Iechyd a Lles; a Mathemateg.
Mae Adnodd yn gweithio’n agos gyda’r Grŵp Gweithredol i sicrhau bod y gwaith hwn yn rhoi sylw i amcanion ein llythyr ariannu. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu â’r Bwrdd ym mis Hydref.
Hanes Cymru
Mae Adnodd yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, rhanddeiliaid, a grŵp arbenigol i fwrw ymlaen â’r cynlluniau ar gyfer Hanes Cymru.
Mae’r camau nesaf yn cynnwys cynnull fforwm lle bydd cyrff cenedlaethol allweddol yn dod ynghyd. Bydd y cyfarfod cyntaf yn cael ei gynnal ar 17 Gorffennaf 2025.
Materion eraill
Mae trafodaethau wedi cael eu cynnal â chyflenwyr ynghylch creu adnoddau i gyd-fynd â’r Wythnos Gwrth-fwlio, Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, ac addysg drochi hwyr.
Dywedodd LlS y bydd cynllun Cyfeillion Adnodd yn cael ei hyrwyddo dros yr haf. Cymuned o bobl fydd hon sydd â phrofiad ac arbenigedd sy’n berthnasol i ethos y Cwricwlwm i Gymru, a byddan nhw’n helpu gyda’r gwaith o gomisiynu adnoddau addysgol cynhwysol o ansawdd da drwy gynnal adolygiadau a chydweithio.
Soniodd MG am bwysigrwydd sicrhau tryloywder ac awgrymodd y dylid sefydlu fframwaith ar gyfer cyflenwyr, i fonitro’r gofynion wrth gaffael.
Cam gweithredu: Gwneud ymholiadau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ynghylch y gofynion caffael mewn perthynas â chynllun Cyfeillion Adnodd.
8. Diweddariad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol
Rhoddodd KD grynodeb o’r dangosfwrdd adnoddau dynol a oedd yn y papur, a hwnnw’n rhoi gwybodaeth am staff oedd wedi dechrau a gadael, salwch, cyfnodau prawf, a hyfforddiant a datblygu yn y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 1 Gorffennaf.
Fforwm y staff
Dywedodd KD fod DG wedi cynnal pleidlais gyfrinachol ynghylch cynrychioli’r staff. Dewis mwyafrif y staff oedd cael eu cynrychioli drwy fforwm staff mewnol.
Roedd Darwin Gray wedi paratoi cylch gorchwyl drafft, a hwnnw wedi’i rannu â’r tîm i gael sylwadau. Bydd yn cael ei gylchredeg ymhlith aelodau’r Bwrdd er gwybodaeth.
Ar ôl i’r tîm gytuno ar y cylch gorchwyl, y camau nesaf fydd gofyn am enwebiadau ar gyfer aelodau’r fforwm a threfnu’r cyfarfod cyntaf. Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal yn fisol i gychwyn, er mwyn sefydlu’r grŵp a thrafod y dyfarniad cyflog yn ystod yr haf, cyn y cynhelir cyfarfodydd bob chwarter wedyn.
Polisïau adnoddau dynol
Cafodd y dogfennau canlynol eu cymeradwyo gan ARAC yn ystod cyfarfod ar 16 Mehefin 2025:
- Bwlio ac Aflonyddu (polisi)
- Atal Aflonyddu Rhywiol (polisi, canllawiau ac asesiad risg)
- Galluogrwydd (polisi a gweithdrefn)
- Gwrth-dwyll (polisi a gweithdrefn)
- Recriwtio a Chyfnodau Prawf (polisi a gweithdrefn)
- Recriwtio (polisi a gweithdrefn)
- Cofrestr Cadw Cofnodion (canllawiau)
- Defnyddio Cerbydau Personol yn y Gwaith (polisi)
- Dysgu Proffesiynol (polisi a dull gweithio)
Roedd ARAC hefyd wedi trafod y polisi Dod â’ch Dyfeisiau eich Hun i’r Gwaith a’r polisi Defnydd Derbyniol o TGCh. Oherwydd goblygiadau’r polisïau hyn, teimlai’r Pwyllgor fod angen i’r Bwrdd eu trafod a’u cymeradwyo.
Cam gweithredu: Sicrhau bod holl Aelodau’r Bwrdd yn cael dyfais gan Adnodd.
Penderfyniad: Cymeradwyodd y Bwrdd y polisi Dod â’ch Dyfais eich Hun i’r Gwaith a’r polisi Defnydd Derbyniol o TGCh.
Cam gweithredu: Trefnu sesiwn hyfforddiant i’r Bwrdd ar gyfer defnyddio OneDrive, SharePoint a Teams, ynghyd â hyfforddiant blynyddol am ymwybyddiaeth o ddiogelwch gwybodaeth.
Y Polisi Cyllid
Yn ystod y cyfarfod ar 25 Mehefin, adolygodd ARAC y diwygiad a awgrymwyd i’r Polisi Cyllid sy’n ymwneud â chynnwys datganiad polisi am asedau sefydlog, ac mae’n argymell y polisi diwygiedig i’r Bwrdd i’w gymeradwyo.
Penderfyniad: Cymeradwyodd y Bwrdd y Polisi Cyllid diwygiedig.
Recriwtio
Dywedodd KD fod yr ail don recriwtio wedi’i chwblhau’n llwyddiannus, yn dilyn proses gystadleuol, a bod Adnodd a’r holl ymgeiswyr wedi cytuno ar ddyddiadau dechrau.
Penderfyniad ynghylch codiad cyflog i’r Prif Weithredwr
Cylchredwyd papur i aelodau’r Bwrdd ar 20 Mai yn gofyn am gymeradwyo dyfarniad cyflog o 5% (3.7% yn gyfunol a 1.7% yn anghyfunol) i’r Prif Weithredwr, wedi’i ôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024, yn unol â’r dyfarniad cyflog a roddwyd i’r holl weithwyr eraill ym mlwyddyn ariannol 2024/25.
Cytunodd aelodau’r Bwrdd yn unfrydol ar y cynnig drwy e-bost a nodwyd y penderfyniad yn ffurfiol.
Adroddiad Cyllid Chwarter 4
Cafodd yr holl gyllid a roddwyd i Adnodd gan Lywodraeth Cymru ei dynnu i lawr yn ystod y flwyddyn ariannol.
Oherwydd bod y ffi archwilio allanol yn fwy na’r amcangyfrif blaenorol, mae cyfanswm y gwariant craidd £27,326 yn fwy na’r cyllid grant craidd ym mlwyddyn ariannol 2024/25. Serch hynny, mae cyllid ychwanegol o £24,504 o’r grantiau Llythrennedd ac Ymchwil a gafwyd yn ystod y flwyddyn wedi’u gosod yn erbyn y balans hwn. Mae hyn wedi arwain at orwariant o £2,822 ar ddiwedd y flwyddyn.
Mae’r tanwariant o’r gronfa Llythrennedd wedi’i ymrwymo yn 2025/26 i elfennau o’r prosiectau na ellid eu cwblhau erbyn 31 Mawrth 2025. Mae’r tanwariant o’r cyllid Ymchwil wedi’i ymrwymo yn 2025/26 i ariannu’r gwaith o lunio a lansio’r adroddiad a’r gwaith marchnata cysylltiedig. Mae cyllideb graidd 2025/26 wedi’i haddasu i roi ystyriaeth i’r gorwariant yn 2024/25.
Archwilio mewnol
Dywedodd KD fod archwiliad mewnol o’r trefniadau llywodraethu a rheoli risgiau wedi’i gwblhau yn chwarter un.
Canfu’r archwiliad y cryfderau hyn:
- Dull gweithredu clir ar gyfer y Bwrdd ac ARAC, gan gynnwys yr aelodaeth, dosbarthu papurau mewn da bryd cyn cyfarfodydd, rolau a chyfrifoldebau wedi’u diffinio’n dda
- Llwybr clir i gyflawni camau gweithredu, a hynny wedi dod i’r amlwg fel rhan o holiadur effeithiolrwydd y Pwyllgor a gynhaliwyd ym mis Ionawr
- Proses gadarn ar gyfer drafftio a chymeradwyo polisïau a chanllawiau
Cafodd canfyddiadau’r archwiliad mewnol i gyd eu disgrifio fel rhai a oedd ‘angen sylw’, ac mae cynllun gweithredu wedi’i greu a fydd yn cael ei adolygu gan ARAC ym mhob cyfarfod.
Archwilio allanol
Yn ystod cyfarfod ARAC ar 25 Mehefin, dywedodd Archwilio Cymru fod lefelau uchel o risg ac ansicrwydd, gan mai dyma archwiliad allanol cyntaf Adnodd, ond y bydd profion ychwanegol yn lliniaru hynny. Mae hyn wedi’i adlewyrchu yn y ffi archwilio, sy’n uwch na’r amcangyfrif cychwynnol.
Dywedodd KD fod datganiadau ariannol drafft 2024/25 a’r adroddiad am daliadau wedi’u cyflwyno i Archwilio Cymru. Bydd naratif yr adroddiad blynyddol yn cael ei ychwanegu at y ddogfen a’i gyflwyno erbyn 1 Awst.
Mae disgwyl i Archwilio Cymru gyflwyno’r adroddiad archwilio a’r cyfrifon i ARAC ym mis Hydref 2025.
Olyniaeth ar y Bwrdd
Dywedodd KD fod yr Uned Cyrff Cyhoeddus wedi cadarnhau bod fframwaith llywodraethu Adnodd yn caniatáu ymestyn cyfnodau holl aelodau presennol y Bwrdd.
Y cam nesaf yw gofyn am gymeradwyaeth y Gweinidog i ymestyn y cyfnodau, a hynny drwy’r Tîm Partneriaeth.
9. Cylch Gorchwyl y Bwrdd
Cyfeiriodd KD at y diwygiadau a wnaed i’r ddogfen, a oedd yn cynnwys cael gwared ar gyfeiriadau at ddau bwyllgor, ac ymgorffori dirprwyaethau’r pwyllgor adnoddau dynol a chyllid yn nirprwyaethau ARAC.
Penderfyniad: Cytunodd y Bwrdd ar y diwygiadau a awgrymwyd i’r ddogfen.
Cam gweithredu: Cylchredeg y ddogfen derfynol ymhlith aelodau’r Bwrdd.
10. Cyllideb 2025-26 a chynllunio
Dywedodd KD fod llythyr ariannu 2025-26 wedi dod i law ar 14 Ebrill, gyda chyfanswm y dyraniad cyllid yn £4,502,000.
Ar 30 Mai, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg gymorth tuag at gostau yswiriant gwladol uwch gan Lywodraeth Cymru i gyflogwyr y sector cyhoeddus sydd wedi’u datganoli. Ar sail y wybodaeth a rannwyd, gall Adnodd ddisgwyl cael dyfarniad gwerth rhwng £9,000 a £15,000 ym mlwyddyn ariannol 25/26.
Mae achos busnes wedi’i gyflwyno ar gyfer yr ail don o adnoddau TGAU.
Dangosodd y gyllideb ddrafft a gyflwynwyd i’r Bwrdd ym mis Ebrill danwariant o £27,000. Mae’r tanwariant hwn bellach wedi’i gyfrifyddu yn y gyllideb ddrafft derfynol. Dangosir gorwariant bach o £986 yn y costau gweithredol.
Soniodd KD am ddiwygiadau i’r tab gweithredol o dan y penawdau canlynol:
- Costau staffio
- Dyfarniad cyflog wedi’i ôl-ddyddio i’r Prif Weithredwr
- Costau llogi lleoliadau, cyfarfodydd a rhannu mannau gwaith
Gwariant ar brosiectau a chomisiynu
Dywedodd KD mai cyfanswm y cyllid grant a ddyrannwyd i wariant ar gomisiynu yw £2,976,000. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno nifer o ofynion yn y Llythyr Ariannu, ac mae’r rhain i gyd wedi’u cyfrifyddu bellach yn y gyllideb gomisiynu.
Mae’r gyllideb gomisiynu derfynol yn dangos tanwariant bach o £4,000 a gellir neilltuo hwn i brosiect arall yn ddiweddarach yn y flwyddyn os bydd hynny’n angenrheidiol.
Penderfyniad: Cymeradwyodd y Bwrdd gyllideb 2025-26.
Cam gweithredu: Gwneud ymholiadau ynghylch a oes cyllid cyfalaf ar gael gan Lywodraeth Cymru i dalu’r costau ychwanegol sy’n angenrheidiol i roi dyfeisiau TG i aelodau’r Bwrdd.
11. Y gofrestr risgiau
Roedd yr aelodau wedi cael cais i gyflwyno cwestiynau am risgiau penodol i’r Cadeirydd cyn y cyfarfod.
Gan gyfeirio at ymholiad a ddaeth i law am y gwariant uchel a nodwyd ym mis Mawrth 2026, cadarnhaodd KD y byddai diweddariad yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd ym mis Hydref, ac erbyn hynny byddai’r contractau a’r cerrig milltir wedi’u creu, gan roi ffigurau cywirach.
Gan gyfeirio at eiriad penodol rhai risgiau, dywedodd KD fod Helen Morris o dîm Archwilio Mewnol Llywodraeth Cymru wedi cynnig helpu’r tîm gweithredol i fireinio’r gofrestr risgiau wrth i honno aeddfedu.
Cam gweithredu: Cynnwys risg ynghylch y llythyr cylch gwaith, a sut y bydd ein cylch gwaith yn cael ei ymestyn yn ystod blwyddyn yr etholiad.
Penderfyniad: Cytunodd y Bwrdd ar yr adolygiad blynyddol o’r gofrestr risgiau.
12. Yr adroddiad blynyddol
Aeth ARAC ati i adolygu’r drafftiau o’r datganiadau ariannol a’r adroddiad am daliadau yn ystod y cyfarfod ar 25 Mehefin.
Bydd Adroddiad Blynyddol blwyddyn ariannol 2024/25 yn cynnwys y dogfennau canlynol ochr yn ochr â’r adroddiad am daliadau a’r datganiadau ariannol:
- Adroddiad strategol
- Datganiad am lywodraethu
- Adroddiad y cyfarwyddwyr
Penderfyniad: Cymeradwyodd y Bwrdd y dogfennau a fydd yn cael eu cyflwyno fel rhan o’r adroddiad blynyddol i Archwilio Cymru erbyn 1 Awst 2025.
13. Y cynllun gweithredol
Esboniodd EG fod y cynllun wedi’i strwythuro yn unol â’r llythyr cylch gwaith, gyda phum tab yn cynrychioli blaenoriaethau strategol Adnodd. O dan bob tab, ceir nifer o amcanion, a’r rheiny’n gysylltiedig â chyflawni elfennau o’r llythyr ariannu a/neu’r Strategaeth yn llwyddiannus.
Bydd diweddariad am y cynllun gweithredol yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd ym mhob cyfarfod drwy adroddiad am eithriadau. Bydd yr adroddiad am eithriadau’n amlygu’n fanwl unrhyw amcanion sydd wedi cael sgôr coch gan y tîm. Bydd yr holl eitemau ambr yn cael eu nodi yn yr adroddiad, ond heb gael eu disgrifio’n fanwl oni bai y bydd y Bwrdd yn gwneud cais penodol am hynny. Ni fydd yr eitemau gwyrdd yn cael eu nodi yn yr adroddiad.
Penderfyniad: Cytunodd y Bwrdd ar yr amserlen a awgrymwyd ar gyfer paratoi a chymeradwyo cynlluniau’r dyfodol.
Cam gweithredu: Ystyried y ffordd orau o adlewyrchu saith egwyddor a phum ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a phedwar diben y Cwricwlwm i Gymru yng Nghynllun Gweithredol Adnodd.
Cam gweithredu: Cynnwys unrhyw newidiadau o bwys i’r cynllun gweithredol fel adroddiad am reoli newid yn ystod diweddariadau i’r Bwrdd.
14. Ymholiadau archwilio 2024-25
Esboniodd EG fod y rhain yn gyfres o gwestiynau safonol gan yr Archwilwyr Allanol. Mae KD wedi drafftio atebion ar ran y tîm gweithredol, ac mae MG wedi gwneud hynny ar ran y Bwrdd, a bydd y rhain yn cael eu cyflwyno gyda’r adroddiad blynyddol.
Penderfyniad: Cymeradwywyd yr ymatebion a roddwyd ar ran y Bwrdd.
15. Unrhyw fusnes arall
Dyddiadau cyfarfodydd nesaf
- 22/10/25, 14:30-17:30
- 28/01/26 – Teams
Cam gweithredu: Trefnu trafodaeth ehangach yn y Bwrdd am y risgiau, y cyfleoedd a’r heriau i ysgolion ac ymarferwyr yn sgil y Cwricwlwm i Gymru.
Cam gweithredu: Cylchredeg rhaglen o gynadleddau yn nhymor yr hydref.
- Cyhoeddwyd yn wreiddiol
- Diweddarwyd ddiwethaf