Neidio i'r prif gynnwy
English

Cyfarfod Bwrdd Adnodd: 16 Mehefin 2023

Darllenwch gofnodion cyfarfod Bwrdd Adnodd a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2023. Ymhlith y pynciau dan sylw roedd llywodraethu, cynlluniau comisiynu, materion ariannol a’r camau nesaf wrth i Adnodd barhau i dyfu a chefnogi dysgwyr ac ymarferwyr ledled Cymru.

Cyhoeddwyd yn wreiddiol
Diweddarwyd ddiwethaf
Lawrlwytho: 201.53 KB, PDFEfallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch

In attendance

  • Gethin Davies, Cadeirydd (GD)
  • Lesley Bush (LB)
  • Sioned Roberts (SR)
  • Lucy Thomas (LT)
  • Ann Evans (AE)
  • Elliw Roberts (ER)

Ymddiheuriadau:

  • Nicola Wood (NW)
  • Huw Jones (HJ)

1. Cynllun Busness

Roedd ail ddrafft o’r cynllun busnes wedi ei rannu gyda’r aelodau er mwyn trafodaeth tu allan i gyfarfod.  Mae copi wedi ei gylchredeg gyda cydweithwyr yn LlC er mwyn derbyn eu sylwadau cychwynnol.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol gan aelodau’r Bwrdd.

  • Bydd rhagair y Cadeirydd yn cael ei ddatblygu ymhellach
  • Gweledigaeth – ar hyn o bryd ddim yn adlewyrchu dyhead, yn hytrach yn ymwneud mwy a’r diben.
  • Gwerthoedd – cafwyd trafodaeth ynghylch cadw yr adran yma’n gryno a lefel uchel, a’i ddatblygu ymhellach dros amser ac unwaith y bydd Prif Weithredwr mewn lle. Rhai gwerthoedd i’w hystyried:
  • Cydweithredol
  • Cenedlaethol (fyddai hefyd yn cyfeirio at ddiwylliant a’r iaith)
  • Cydraddoldeb ac amrywiaeth
  • Sefydliad sy’n gwrando ac yn ymateb i anghenion
  • Tegwch yn y ddarpariaeth
  • Sefydliad sy’n dysgu (a hefyd yn esblygu)
  • Annibynnol – corff hyd braich – oes angen i hyn fod yn glir?
  • Arloesol a chreadigol

Gall mwyafrif yr uchod gael eu cadw nes fydd Prif Weithredwr mewn lle, a gellid defnyddio 4/5 gair i adlewyrchu gwerthoedd craidd, a datblygu ‘straplines’ i gwmpasu rhain a’u cyfathrebu’n weledol.

  • Gweledigaeth – i fod yn greadigol, arwain y sector a wynebu’r dyfodol. Nodedig gyda llywodraethiant cadarn yn sail i’r cyfan.
  • Blaenoriaethau’r flwyddyn i ddod – digwyddiadau i rhanddeiliaid ayyb.
  • Amserlen – nodwyd y byddai Four Cymru yn datblygu graffeg llawn.
  • Amcanion 23/24 – awgrymwyd ambell newid i ddiwyg a geiriad rhain.
  • Dyw’r angen i ymgymryd a rhai o flaenoriaethau LlC heb ei gyfleu yn y ddogfen eto megis llinell amser hanes Cymru a prawf sgrinio dyslecsia Cymraeg.
  • Rhagolwg cyllid – dylid rhannu cyfanswm Bwrdd a Llywodraethiant er mwyn cyfleu’r swm sy’n cael ei wario yn erbyn hyfforddiant; ad-daliadau ayb.
  • Dylai’r cynllun tymor canolig gynnwys meysydd fel hyrwyddo, ymwybyddiaeth a defnydd o adnoddau. Gall rhain gael eu cyfleu yn y llinell amser.
  • Trafodwyd yr amserlen o gyflwyno’r Cynllun Busnes.  Adnodd i gyflwyno i LlC erbyn 30 Mehefin, gyda’r Tîm Partneriaeth a’r Gweinidog i gymeradwyo erbyn 14 Gorffennaf.

2. Cytundeb Curshaw

Cyfeiriodd y Tîm Gweithredol at y matrics dirprwyo sydd wedi ei gytuno gyda LlC a’r Swyddog Cyfrifo Interim a’r Swyddog Cyfrifo Ychwanegol.

Cafwyd trafodaeth ar gyflwyniad Curshaw. Mynegwyd peth petruso ynghylch y gost arfaethedig. Fodd bynnag, cydnabuwyd fod y cyflenwyr wedi rhoi cyflwyniad cryf a’i fod yn ymddangos yn debygol o allu cynnig yr arbenigedd a’r profiad  masnachol dros-dro sydd angen ar Adnodd i sefydlu ei hun yn gyflym ac i ddechrau gweithredu’n yn effeithiol ac yn ddiogel.

Cytunodd y Bwrdd i ddyfarnu’r gwaith yn uniongyrchol i Curshaw.

Tîm Gweithredol yn nodi’r camau nesaf – angen ceisio caniatâd gan Lywodraeth Cymru i gael gwyro oddi wrth y prosesau caffael arferol ac i ddyfarnu yn uniongyrchol. Oherwydd swm y cytundeb bydd hefyd angen cyflwyno cais i Wasanaethau Caffael Corfforaethol LlC.


Cyhoeddwyd yn wreiddiol
Diweddarwyd ddiwethaf
Lawrlwytho: 201.53 KB, PDFEfallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch