Neidio i'r prif gynnwy
English

Cyfarfod Bwrdd Adnodd: 24 Tachwedd 2023

Darllenwch gofnodion cyfarfod Bwrdd Adnodd a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2023. Ymhlith y pynciau dan sylw roedd llywodraethu, cynlluniau comisiynu, materion ariannol a’r camau nesaf wrth i Adnodd barhau i dyfu a chefnogi dysgwyr ac ymarferwyr ledled Cymru.

Cyhoeddwyd yn wreiddiol
Diweddarwyd ddiwethaf
Lawrlwytho: 222.99 KB, PDFEfallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch

Presennol

  • Gethin Davies, Cadeirydd
  • Lesley Bush (LB)
  • Sioned Roberts (SR)
  • Lucy Thomas (LT)
  • Nicola Wood (NW)
  • Huw Jones (HJ)
  • Ann Evans (AE)
  • Emyr George (EG)
  • Elliw Roberts (ER)

1. Ymddiheuriadau a Chyflwyniadau

Croesawyd EG i’r cyfarfod Bwrdd fel arsylwr cyn iddo ymgymryd â’i rôl ym mis Ionawr.

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Bethan Webb ac Owain Lloyd, Llywodraeth Cymru.

2. Datganiad o fuddiant

Dim.

3. Cofnodion y cyfarfod diwethaf

Cytunwyd bod y cofnodion yn adlewyrchiad teg a chywir o’r cyfarfod.

4. Cyflwyno’r Prif Weithredwr

Cafwyd gair o gyflwyniad gan Emyr George a fydd yn cychwyn yn ei swydd  fel Prif Weithredwr ar 8 Ionawr 2024.

5. Diweddariad Tîm Gweithredol

Rhannwyd papur yn amlinellu cynnydd yn erbyn y cynllun gweithredol rhwng 1 Gorffennaf a 15 Tachwedd o flaen llaw i’r cyfarfod.

 

Rhoddwyd diweddariad pellach ar y materion canlynol.

 

Caffael

  • Bydd cytundeb ar gyfer yswiriant proffesiynol, cyhoeddus a chyflogwr mewn lle o Ionawr 2024.
  • Mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau gwasanaethau cyfreithiol, cyfieithu ac archwilio mewnol.
  • Mae gwaith caffael ar y gweill ar gwasanaethau cyllid, cyflogres ac AD.
  • Bydd gwaith o ddatblygu strategaeth fasnachol yn dechrau yn Ionawr.

 

 

Rhagolwg ariannol

  • Nodwyd y bydd tanwariant o tua £500,000.  Bydd y cyllid yma yn cael ei ddychwelyd i Lywodraeth Cymru ac yn cael ei ddefnyddio i dalu am brosiectau comisiynu adnoddau sydd eisoes wedi eu dyfarnu.
  • Bydd tua saith o’r prosiectau hirdymor hyn yn trosglwyddo i Adnodd o Ebrill 2024.

 

Gwaith ymgysylltu:

  • Mae Miller Research wedi cyflwyno adroddiad drafft o’i ymchwil i’r tirwedd adnoddau. Bydd y Tîm Gweithredol yn defnyddio’r canfyddiadau i ddatblygu model comisiynu.
  • Holodd y Bwrdd am y niferoedd y isel o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol. Eglurwyd nad oes llawer i’w rannu ar hyn o bryd gan bod hi’n ddyddiau cynnar ar Adnodd ond y bydd mwy o waith yn cael ei wneud gyda’n partner cyfathrebu yn y flwyddyn newydd i godi proffil Adnodd.

 

Cofrestr Risg:

  • Cytunwyd i adio parhad staff wedi eu secondio o Ebrill ymlaen i’r gofrestr risg
  • Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am estyniad i’r cytundebau secondiad hyd at 31 Mawrth 2025.
  • Trafodwyd yr ansicrwydd o ran trefniadau pensiwn Adnodd a cytunwyd i nodi hyn ar y gofrestr risg.

6. Cyfethol Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC)

Adroddodd y Tîm Gweithredol ei fod wedi adnabod a chyfarfod gydag unigolyn

cymwys oedd yn meddu ar brofiad, sgiliau a chymwysterau priodol i fod yn Gadeirydd y Pwyllgor ARAC dros dro.  Byddent yn fodlon i gael eu cyfethol i’r Bwrdd am gyfnod penodol o amser hyd nes y bydd Llywodraeth Cymru wedi ymgymryd â phroses penodiadau cyhoeddus i lenwi’r sedd wag ar y Bwrdd.

Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth lawn â Dogfen Fframwaith Adnodd, cytunodd y Tîm Gweithredol i archwilio a gofyn am gyngor cyfreithiol i weld p’un ai ellid cyfethol person fel aelod o’r Bwrdd am gyfnod penodol, gyda chydsyniad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru fel Gwarantwr Adnodd.

Yn amodol ar dderbyn cyngor cyfreithiol boddhaol, cymeradwyodd y Bwrdd yr argymhelliad i gyfethol Mair Gwynant am gyfnod penodedig fel Cadeirydd dros dro y Pwyllgor ARAC.

7. Addasu Erthyglau’r Cwmni

Nodwyd y dylid sicrhau llais i Adnodd yn y broses recriwtio a phenodi aelodau i’r Bwrdd.  Cytunwyd i argymell i Llywodraeth Cymru bod  Cadeirydd Adnodd yn rhan o’r broses.

Cytunwyd y byddai GD yn ysgrifennu llythyr at Lywodraeth Cymru i nodi’r gwersi a ddysgwyd yn ystod y broses o sefydlu’r cwmni.

Cytunwyd y dylai gylch gorchwyl y Bwrdd gynnwys cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Cytunwyd y dylid casglu ystadegau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant Adnodd i’w cynnwys yn adroddiad blynyddol cyntaf y cwmni.

Yn amodol ar ganiatâd ysgrifenedig y Gweinidog, roedd y Bwrdd yn gytûn i amrywio Erthyglau’r Cwmni a chynyddu nifer yr aelodau i uchafswm o 8.

8. Polisïau

Cytunwyd bod angen cynnwys cyfeiriad at amserlen adolygu’r polisïau.

Cymeradwyodd y Bwrdd y polisïau canlynol (fersiynau Saesneg):

  • Code of conduct
  • Conflict of interest; declaring potential conflict of interest instructions; declaration of interest form;
  • Whistleblowing policy
  • Grievance policy
  • Data protection
  • Privacy Notice
  • ICT acceptable use policy
  • Fees, Travel and Subsistence
  • Cylch Gorchwyl – Bwrdd
  • Cylch Gorchwyl – ARAC

Cytunwyd y bydd aelodau yn rhoi sylwadau terfynol ar Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Cyllid ac AD, ac ar y polisi Iaith Gymraeg a’r polisi Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant erbyn 8/12/23.

9. Diweddariad gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg

Nododd y pwyllgor yr heriau cynhenid o gaffael gwasanaethau corfforaethol i gwmnïau bach fel Adnodd. Mae yna her benodol o ran caffael gwasanaeth archwilio mewnol, gan fod yr unig gyflenwr sydd wedi cynnig am y gwaith hefyd yn debygol o drio am y cytundeb (gwerth uwch) cyllid a chyflogres i Adnodd a fyddai’n ei rwystro thag gwneud y gwaith archwilio mewnol .

Cytunwyd y dylid blaenoriaethu caffael gwasanaeth cyllid a chyflogres am y tro, a thrafod yr amserlen ar gyfer caffael gwasanaeth archwilio gyda Cadeirydd ARAC.  Nododd y Tîm Gweithredol mai dyma hefyd oedd cyngor Archwilio Cymru ar y mater mewn cyfarfod cychwynnol diweddar.

Roedd y Bwrdd yn gytûn i beidio â dyfarnu cytundeb archwilio mewnol am y tro hyd nes bydd gwasanaeth cyllid a chyflogres wedi’i gaffael.

10. Diweddariad gan y Pwyllgor Adnoddau Dynol a Chyllid

Roedd Azets wedi paratoi cyfrifon cwmni segur ar gyfer Adnodd am y cyfnod Gorffennaf 2022 – 31 Mawrth 2023.  Yn sgil cyngor Llywodraeth Cymru bydd blwyddyn ariannol Adnodd yn newid i gyd fynd â blwyddyn ariannol Llywodraeth Cymru (1 Ebrill – 31 Mawrth).

Dylid gwirio’r nifer y cyflogai a fynegir yn y cyfrifon er mwyn cadarnhau a ydy aelodau’r Bwrdd yn cael eu hystyried fel staff i’r diben hwn.  Roedd y  Bwrdd yn fodlon i gymeradwyo’r dogfennau, yn amodol ar cadarnhad gan Azets o’r mater hwn, iddynt gael eu ffeilio gyda Thŷ’r Cwmnïau.

11. Unrhyw fusnes arall

Cytunwyd i baratoi blaen-raglen i’w gyflwyno yn y cyfarfod Bwrdd nesaf.


Cyhoeddwyd yn wreiddiol
Diweddarwyd ddiwethaf
Lawrlwytho: 222.99 KB, PDFEfallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch