Neidio i'r prif gynnwy
English

Cyfarfod Bwrdd Adnodd: 28 Ebrill 2026 09:30-13:30

Darllenwch gofnodion cyfarfod Bwrdd Adnodd a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2026. Ymhlith y pynciau dan sylw roedd llywodraethu, cynlluniau comisiynu, materion ariannol a’r camau nesaf wrth i Adnodd barhau i dyfu a chefnogi dysgwyr ac ymarferwyr ledled Cymru.

Cyhoeddwyd yn wreiddiol
Diweddarwyd ddiwethaf
Lawrlwytho: 272.11 KB, PDFEfallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch

Yn bresennol

Adnodd:

  • Gethin Davies, Cadeirydd (GD)
  • Mair Gwynant, Cadeirydd ARAC (MG)
  • Lesley Bush (LB)
  • Sioned Roberts (SR)
  • Huw Jones (HJ)
  • Nicola Wood (NW)
  • Emyr George, Prif Weithredwr (EG)
  • Lleucu Siencyn, Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyflawni (LlS)
  • Kirsty Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol (KD)
  • Branwen Edwards, Ysgrifenyddiaeth (BE)

Partneriaid:

  • Nia Bennett, Effectus HR (NB) – eitem 10 yn unig

1. Croeso ac ymddiheuriadau

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

Roedd ymddiheuriadau wedi dod i law gan Dîm Partneriaeth Llywodraeth Cymru.

2. Datgan buddiannau

Nid oedd unrhyw wrthdaro buddiannau wedi’i ddatgan cyn y cyfarfod.

3. Cofnodion y cyfarfod diwethaf

Cytunodd y Bwrdd fod y cofnodion yn gofnod cywir a gwir o’r trafodaethau.

Adolygodd y Bwrdd y camau gweithredu.

 

4. Cwricwlwm i Gymru: Cynllunio Cwricwlwm yn yr Ysgol Uwchradd

Croesawyd Eleri Gwyn, y Dirprwy Bennaeth, i’r cyfarfod. Rhoddodd hi gyflwyniad manwl i’r Bwrdd am y broses o ddylunio’r cwricwlwm yn Ysgol Dyffryn Conwy.

Soniwyd hefyd am yr heriau sy’n wynebu ymarferwyr, ac yn enwedig yr amser ychwanegol sydd ei angen i ddeall gofynion y cymwysterau TGAU newydd a’r asesiadau parhaus o gynnydd dysgwyr. Dywedodd Eleri Gwyn fod ymarferwyr wedi rhoi croeso cynnes i adnoddau sydd wedi cael eu comisiynu gan Adnodd, ac mae’r rheini bellach yn cael eu defnyddio i gefnogi addysgu a dysgu’r cymwysterau TGAU newydd.

Cafodd aelodau’r Bwrdd gyfle i bori yn llyfrau ysgol dysgwyr a gweld enghreifftiau o’r dulliau a’r templedi asesu y mae’r ysgol yn eu defnyddio.

5. Diweddariad gan y Cadeirydd

Diolchodd GD i’r aelodau a oedd wedi cymryd rhan yn y sesiwn llesiant o dan arweiniad Pethau Bychain ar 27 Ebrill.

Dywedodd GD fod rhai aelodau wedi cyfrannu at waith ymchwil cwmni ARAD i fapio effaith crychdonnau.

Cam gweithredu: Cyflwyno canfyddiadau’r gwaith mapio effaith crychdonnau i’r Bwrdd ym mis Gorffennaf.

Bydd cyfarfodydd adolygu perfformiad aelodau’r bwrdd yn cael eu cynnal ym mis Mai, ar ôl adolygiad perfformiad y Cadeirydd gyda Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth.

Roedd GD ac EG wedi cyfarfod ym mis Mawrth ar gyfer sesiwn gynllunio lle trafodwyd amcanion y Prif Weithredwr.

Bu GD mewn cyfarfod o Gadeiryddion Cyrff Cyhoeddus, ac roedd hynny wedi rhoi cyfle i drafod:

  • Archwilio Cymru a ffioedd
  • Seiberddiogelwch
  • Etholiad y Senedd
  • Y broses ar gyfer gwneud penodiadau cyhoeddus

Dywedodd GD fod y staff a’r aelodau a oedd yn bresennol wedi mwynhau’r hyfforddiant am ddeallusrwydd artiffisial (AI) a roddwyd gan Brifysgol Caerdydd ym mis Chwefror.

6. Diweddariad gan Gadeirydd ARAC

Roedd y Pwyllgor wedi cyfarfod ar 15 Ebrill.

Arolwg o Effeithiolrwydd y Pwyllgor

Mae Arolwg y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) 2025-26 yn dangos cryn hyder yn effeithiolrwydd cyffredinol y Pwyllgor. Mae’r arolwg yn tynnu sylw at risgiau sy’n gysylltiedig ag olyniaeth a fydd yn berthnasol cyn hir, ac at yr angen i roi hyfforddiant gwell i aelodau newydd a darpar aelodau i sicrhau bod y pwyllgor mewn sefyllfa gadarn.  Efallai hefyd y bydd y lefel gymharol isel o gydnabyddiaeth ariannol a gynigir yn effeithio ar y broses o recriwtio aelodau i ARAC.

Archwilio mewnol

Cytunodd y Pwyllgor ar gynllun archwilio 2026-27. Bydd tri archwiliad yn cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn: dau archwiliad sicrwydd yn edrych ar y trefniadau llywodraethu gwybodaeth a’r trefniadau rheoli ariannol, ac un archwiliad ymgynghorol yn edrych ar waith ymgysylltu a chyfathrebu.

Adroddiad archwilio rheoli contractau

Roedd yr archwiliad yn rhoi ‘sicrwydd rhesymol’. Yn gyffredinol, dywedwyd bod y gwaith rheoli contractau yn cael ei wneud yn dda, a bydd y sylwadau yn yr adroddiad yn rhoi cyfle i gryfhau’r arferion hyn.

Rheoli risgiau

Croesawodd ARAC y gofrestr risg wedi’i diweddaru, a honno’n adlewyrchu aeddfedrwydd cynyddol y sefydliad. Bydd archwiliadau dwfn o risgiau penodol yn cael eu trefnu ar gyfer y cyfarfodydd nesaf.

7. Diweddariad y Prif Weithredwr

Roedd adroddiad y Prif Weithredwr yn rhoi trosolwg o waith a chynnydd Adnodd ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd ym mis Ionawr. Yn dilyn cyfnod o sefydlu a thwf, dywedodd EG fod y ffocws wedi symud tuag at aeddfedrwydd sefydliadol gan fod tîm llawn o staff bellach yn ei le.

Mae’r cynllun gweithredol, ynghyd â’r gofrestr risgiau wedi’i diweddaru, yn cyd-fynd ag amcanion corfforaethol sydd wedi’u diffinio’n glir. Mae hyn yn dangos parodrwydd Adnodd i ymateb yn gyflym ac yn hyderus i flaenoriaethau’r llywodraeth yn dilyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai.

8. Diweddariad y Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyflawni: Comisiynu a Strategaeth

Rhoddodd LlS ddiweddariad am y ffrydiau gwaith canlynol:

Gwahoddiad i dendro

Ar hyn o bryd mae’r Tîm Comisiynu yn rhoi gwybod i ymgeiswyr y lotiau canlynol am ganlyniadau’r gwaith asesu:

  • Hawliau Dynol
  • Hanes Cymru
  • Gwrth-hiliaeth

Roedd y safonau’n uchel yn y tri lot. Roedd ymgeisydd llwyddiannus wedi’i benodi ar gyfer dau o’r tri lot. Cafodd proses gaffael y trydydd lot ei hatal am resymau technegol a bydd y lot yn cael ei ailgyhoeddi cyn bo hir. Mae’r tîm ar hyn o bryd yn edrych ar wella’r broses a bydd yn ystyried cynnwys cam cyfweld fel rhan o’r asesiad.

Y Fframwaith Cyflenwyr

Dywedodd LlS fod y broses o asesu dros 100 o gyflenwyr wedi’i chwblhau ddydd Gwener 24 Ebrill.

O ganlyniad, mae gan Adnodd sylfaen gref o gyflenwyr sydd â’r potensial i weithio gyda ni.

Bydd y fframwaith yn cael ei ailagor yn ddiweddarach yn y flwyddyn i dargedu a mynd i’r afael ag unrhyw fylchau.

Bydd nifer o gyfleoedd agored ar gael ar y Fframwaith yn ystod yr haf, a hynny’n rhan o batrwm newydd o gylchoedd comisiynu tymhorol.

Y Fframwaith Sicrhau Ansawdd

Bydd y Fframwaith Sicrhau Ansawdd a’r egwyddorion ar gyfer profiad y defnyddiwr yn cael eu cyhoeddi ar wefan Adnodd. Yn dilyn hyn, bydd ymgyrch benodol a gofalus yn cael ei chynnal, yn targedu cyflenwyr a phartneriaid, er mwyn rhoi gwybod iddyn nhw am y Fframwaith Sicrhau Ansawdd.

Cam gweithredu: Cyflwyno diweddariad am y Fframwaith Sicrhau Ansawdd i’r Bwrdd ym mis Gorffennaf.

Cyfeillion Adnodd

Dywedodd LlS fod rhai o Gyfeillion Adnodd ar y fframwaith cyflenwyr. Bydd gwaith yn cael ei wneud i dargedu’r bylchau pan fydd y fframwaith yn ailagor.

9. Diweddariad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol

Adnoddau dynol

Trefnwyd swydd secondiad rhan-amser ym mis Ionawr i helpu’r tîm comisiynu tan y gallai’r Swyddog Comisiynu ac Ansawdd newydd ddechrau. Gan y bydd y swyddog newydd, a ddechreuodd yn y swydd ar 22 Ebrill, yn dechrau ei chyfnod o absenoldeb mamolaeth ddiwedd mis Awst 2026, bydd y secondiad yn cael ei ymestyn ar sail amser llawn i bara’r cyfnod mamolaeth.

Fforwm y staff

Dywedodd KD fod fforwm y staff wedi bod yn allweddol yn y gwaith i gynnal arolwg ymhlith y staff a wnaed gan Effectus HR.

Roedd y fforwm wedi bod yn adolygu’r gyfres o bolisïau adnoddau dynol wrth i’w dyddiadau adnewyddu agosáu, ac mae’r dogfennau diweddaraf bellach wedi’u cymeradwyo gan ARAC.

Cafodd y polisi Gwyliau Blynyddol newydd ei adolygu gan y fforwm a’i gymeradwyo gan ARAC ym mis Ebrill.

Dyfarniad cyflog blynyddol 2026-27

Yn ei gyfarfod ym mis Ebrill, trafododd ARAC delerau ac amodau staff Adnodd ynghyd â data wedi’u meincnodi am y cydnabyddiaethau anariannol y mae cyrff eraill yn eu cynnig. Trafododd hefyd y rhagdybiaethau cynllunio dros dro a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27. Rhoddodd ARAC gyngor i EG ar gyfer cynnal proses deg a phriodol wrth adolygu cyflogau.

Cyflog y Prif Weithredwr

Trafododd ARAC hefyd y cymal yn nhelerau ac amodau cyflogaeth y Prif Weithredwr sy’n datgan y bydd y Bwrdd yn ystyried mecanwaith ar gyfer codiadau cyflog sy’n gysylltiedig â pherfformiad ar ôl 2025.

Argymhellodd ARAC fod Cadeirydd y Bwrdd, Cadeirydd ARAC a’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol yn cael trafodaeth gaeedig i drafod a chytuno ar broses ar gyfer penderfynu ar gyflog y Prif Weithredwr. Bydd y grŵp yn gweithio gydag Effectus HR i greu strwythur cyflog arfaethedig i’w gyflwyno i’r Bwrdd ym mis Gorffennaf.

Nodwyd na fydd EG yn cymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau am y mater hwn.

Cyllid

Mae Tîm Cyllid Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod y terfyn goddefiant o 2% ar gyfer arian parod ar ddiwedd y flwyddyn yn golygu’n benodol yr arian parod sydd yn y banc ar 31 Mawrth yn y flwyddyn dan sylw.

Dywedodd KD fod yr anfoneb derfynol gan BookTrust £20,000 yn llai na’r disgwyl, sy’n golygu mai £77,545 yw’r amcangyfrif o danwariant yn y gyllideb adnoddau bellach.

Dywedodd KD y bydd llythyrau grant Llywodraeth Cymru i Adnodd yn y dyfodol yn cynnwys dyraniad ar gyfer cyllideb adnoddau, a hwnnw’n dynodi’r arian y gellir ei neilltuo yn y flwyddyn ariannol.

Rheoli risgiau

Bydd y gofrestr risgiau twyll yn cael ei chryfhau yn dilyn y sesiwn gwrth-dwyll ar 7 Mai. Bydd ARAC yn cwblhau adolygiad dros dro o’r gofrestr risgiau twyll ym mis Mehefin.

Mae’r gofrestr risgiau strategol wedi’i diweddaru’n llawn ar ôl cael y llythyr ariannu newydd a’r llythyr cylch gwaith estynedig. Bydd ARAC yn adolygu’r risgiau newydd yn fanwl ym mis Mehefin.

Cadarnhaodd KD fod dau o’r pedwar asesiad seiberddiogelwch wedi’u cyflawni, gyda thrydydd ar y trywydd iawn i’w gwblhau erbyn diwedd mis Ebrill.

Y polisi rheoli risgiau

Mae awgrymiadau a wnaeth yr archwilwyr mewnol wedi cael sylw yn y fersiwn ddiwygiedig. Cymeradwyodd ARAC y diwygiadau a awgrymwyd ac argymhellodd fod y Bwrdd yn cymeradwyo’r polisi.

Cam gweithredu: Hepgor cyfeiriadau at y broses sefydlu gychwynnol yn y polisi rheoli risgiau diwygiedig.

Penderfyniad: Cymeradwyodd y Bwrdd y polisi rheoli risgiau diwygiedig yn amodol ar y mân ddiwygiadau a awgrymwyd.

10. Adroddiad: Adborth holiadur staff

Rhoddodd GD groeso i NB i’r cyfarfod.

Llongyfarchodd NB y tîm ar ganlyniad cadarnhaol yr arolwg, lle cafwyd cyfradd ymateb uchel o 92%. Roedd yr ymatebion i bob cwestiwn yn nodedig o gadarnhaol, gyda phob un yn sgorio dros 4 allan o 5.

Dangosodd canfyddiadau’r arolwg fod gan Adnodd ddiwylliant sefydliadol cadarnhaol a bod y berthynas weithio rhwng pobl yn gryf. Mae’r staff yn gwerthfawrogi’n fawr y trefniadau gweithio hyblyg a’r trefniadau llesiant.

Rhoddodd NB grynodeb o’r meysydd posibl i’w datblygu, a dywedodd eu bod yn ymwneud yn bennaf â ffyrdd o weithio a phrosesau sefydliadol, yn hytrach na diwylliant neu arweinyddiaeth.  Nid oes unrhyw risgiau lefel uchel uniongyrchol yn deillio o’r arolwg, ac mae’r risgiau a ganfuwyd yn rhai datblygiadol i raddau helaeth, ac mae modd eu rheoli.

Mae sesiynau ar gyfer y tîm llawn o staff wedi’u trefnu ym mis Mehefin i rannu’r canfyddiadau a datblygu’r camau nesaf ymhellach.

Cam gweithredu: Rhoi diweddariad am arolwg y staff i’r Bwrdd ym mis Gorffennaf.

11. Adolygu polisi mamolaeth cyfredol Adnodd

Soniodd KD am y cynnig i roi taliad mamolaeth yn ôl disgresiwn i weithwyr nad ydyn nhw’n gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol (SMP).  Roedd y papur yn rhoi trosolwg o’r ystyriaethau ariannol a’r risgiau posibl.

Dywedodd KD fod y Tîm Gweithredol yn teimlo y gallai’r newidiadau arfaethedig gael effaith anuniongyrchol gadarnhaol ar y gweithlu ehangach, gan atgyfnerthu hyder yn Adnodd fel cyflogwr teg a chefnogol, a rhoi tystiolaeth o ymrwymiad y sefydliad i’w werthoedd.

Trafododd ARAC y mater yn ei gyfarfod ym mis Ebrill a phenderfynodd ei fod yn fater i’r Bwrdd.

Penderfyniad: Cytunodd y Bwrdd ar y diwygiadau arfaethedig i’r Polisi Mamolaeth.

12. Polisïau corfforaethol – Polisi’r Gymraeg a’r Siarter Llesiant

Esboniodd KD fod drafftiau o’r polisïau wedi’u cyflwyno i’r Bwrdd ym mis Ionawr, ac mae’r holl awgrymiadau bellach wedi cael sylw yn y fersiwn sydd i’w gweld yn y papurau.

Polisi’r Gymraeg

Wrth greu cynnwys dwyieithog, esboniodd KD fod dull Ysgrifennu Triawd yn cael ei annog drwy holl waith Adnodd.

Cam gweithredu: Canfod enghreifftiau a thystiolaeth sy’n dangos manteision Ysgrifennu Triawd.

Y camau nesaf

Trafod polisi’r Gymraeg ymhlith y staff a datblygu cynllun gweithredu i sicrhau bod yr amcanion ar gyfer 2028 yn cael eu cyflawni.

Awgrymwyd y dylai’r polisi gynnwys darpariaeth ar gyfer cytuno ar eithriadau cyfyngedig mewn amgylchiadau penodol e.e. cyfarfodydd ARAC – yn dibynnu ar aelodaeth y pwyllgor.

Penderfyniad: Cymeradwyodd y Bwrdd bolisi’r Gymraeg.

Y Siarter Llesiant

Penderfyniad: Cymeradwyodd y Bwrdd y Siarter Llesiant.

13. Y cynllun gweithredol

Ar ôl gweithdy cynllunio i’r holl staff ym mis Chwefror, a gwaith mireinio gan EG a GD ym mis Mawrth, cytunwyd ar yr amcanion corfforaethol. Mae’r amcanion, y gweithgareddau a’r allbynnau sy’n cael eu disgrifio yn y cynllun yn ymddangos yn amcanion datblygu aelodau unigol o staff.

Mae gwaith cynllunio manwl yn mynd rhagddo i greu fersiwn ar Asana (y platfform rheoli gwaith) sy’n canolbwyntio mwy ar dasgau gweithredol. Dywedodd EG fod gweithdy cynllunio ychwanegol i’r holl staff wedi’i drefnu ar gyfer 20 Mai.

Dywedodd EG fod yn rhaid i swyddogion Llywodraeth Cymru gytuno ar y Cynllun Gweithredol erbyn 30 Mehefin 2026. Bydd y cynllun terfynol yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd yng nghyfarfod mis Gorffennaf.

Cam gweithredu: Aelodau’r Bwrdd i gyflwyno unrhyw adborth cyffredinol erbyn dydd Gwener 8 Mai.

Cam gweithredu: Adolygu geiriad yr amcanion.

14. Cyllideb 2026-27

Cyflwynodd KD y gyllideb ddrafft derfynol i’r Bwrdd.

Ers i’r gyllideb gael ei chyflwyno i ARAC, esboniwyd ei bod wedi’i diwygio i gyfrif am y tanwariant gweithredol sy’n cael ei ddefnyddio i dalu am y secondiad amser llawn.

Mae’n annhebygol y bydd cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gael ar gyfer Ton 3 y Cymwysterau Cenedlaethol newydd. Mae cyllid wedi’i ddyrannu yn y gyllideb gomisiynu bresennol ar gyfer y pynciau hyn.

Penderfyniad: Cymeradwyodd y Bwrdd Gyllideb 2026-27.

15. Diweddariad y Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu Strategol

Rhoddodd AH grynodeb o’r gwaith cychwynnol ar strategaeth Ymgysylltu a Chyfathrebu Adnodd.

Cyfeiriad gweithredol

Blwyddyn 1 (2026-27) – sefydlu’r gwaith ymgysylltu a chyfathrebu er mwyn rheoli a gweithredu’n fewnol.

Blwyddyn 2 (2027-28) – datblygu gweledigaeth tymor hwy a chanolbwyntio ar sut rydyn ni’n deall, yn cofnodi ac yn rhoi tystiolaeth o effaith gwaith ymgysylltu a chyfathrebu.

Mae’r strategaeth yn dangos sut mae gwaith Adnodd yn cyd-fynd â Phum Ffordd o Weithio Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, sy’n egwyddorion i’w hystyried wrth ymgysylltu â phartneriaid mewnol ac allanol.

16. Unrhyw fusnes arall

Rhoddodd GD wybod am ddyddiadau’r sesiynau hyfforddi sydd i ddod a dyddiadau cyfarfodydd y Bwrdd yn y dyfodol.


Cyhoeddwyd yn wreiddiol
Diweddarwyd ddiwethaf
Lawrlwytho: 272.11 KB, PDFEfallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch