Neidio i'r prif gynnwy
English

Cyfarfod Bwrdd Adnodd: 28 Ionawr 2026 14:00-17:00

Darllenwch gofnodion cyfarfod Bwrdd Adnodd a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2026. Ymhlith y pynciau dan sylw roedd llywodraethu, cynlluniau comisiynu, materion ariannol a’r camau nesaf wrth i Adnodd barhau i dyfu a chefnogi dysgwyr ac ymarferwyr ledled Cymru.

Cyhoeddwyd yn wreiddiol
Diweddarwyd ddiwethaf
Lawrlwytho: 352.96 KB, PDFEfallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch

Yn bresennol

Adnodd:

  • Gethin Davies, Cadeirydd (GD)
  • Mair Gwynant, Cadeirydd ARAC (MG)
  • Lesley Bush (LB)
  • Sioned Roberts (SR)
  • Huw Jones (HJ)
  • Nicola Wood (NW)
  • Emyr George, Prif Weithredwr (EG)
  • Lleucu Siencyn, Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyflawni (LlS)
  • Kirsty Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol (KD)
  • Branwen Edwards, Ysgrifenyddiaeth (BE)

Llywodraeth Cymru:

  • Lloyd Hopkin (LH)

Ymddiheuriadau:

  • Natalie Jones (NJ)

1. Croeso ac ymddiheuriadau

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

Roedd ymddiheuriadau wedi dod i law gan Natalie Jones.

2. Datgan buddiannau

Nid oedd unrhyw wrthdaro buddiannau wedi’i ddatgan cyn y cyfarfod.

Soniodd un aelod am fudd parhaus mewn perthynas â Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

3. Cofnodion y cyfarfod diwethaf

Adolygodd y Bwrdd gofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a chofnodion cyfarfod y Bwrdd ar 22 Hydref 2025, gan gynnwys yr eitem gaeedig.

Yn amodol ar un mân ddiwygiad i gofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, fe’u derbyniwyd fel cofnod gwir a chywir o’r trafodaethau.

Yn amodol ar un mân ddiwygiad, derbyniwyd cofnodion cyfarfod y Bwrdd fel cofnod gwir a chywir o’r trafodaethau.

Derbyniwyd cofnodion yr eitem gaeedig fel cofnod gwir a chywir o’r trafodaethau.

Cam gweithredu: Gwneud mân ddiwygiadau i gofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a chofnodion cyfarfod y Bwrdd.

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o’r cofnodion.

4. Diweddariad gan y Cadeirydd

Yn dilyn trafodaethau diweddar am gynllunio trefniadau olyniaeth y Bwrdd, mae’r holl aelodau bellach wedi cael llythyr yn cadarnhau statws eu penodiad i’r Bwrdd.

Bu EG a GD mewn cyfarfod blynyddol ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ym mis Rhagfyr.  Trafodwyd cynnydd a chynlluniau Adnodd, ac yn benodol y gwaith ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Yn dilyn y cyfarfod, fe wnaethom ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn diolch iddi am ei hamser ac i rannu adroddiad blynyddol Adnodd â hi.

5. Diweddariad gan Gadeirydd ARAC

Cafodd ARAC gyfarfod ar 14 Ionawr 2026.

Y cyfrifon blynyddol

Nododd y Pwyllgor fod y cyfrifon wedi’u cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau.

Y model hunanasesu

Dywedodd MG fod y gwaith ar y model hunanasesu bron â bod wedi’i gwblhau, yn dilyn trafodaethau cadarnhaol gyda’r tîm partneriaeth.

Y llawlyfr llywodraethu

Bydd MG a KD yn cwrdd â thîm cyllid Llywodraeth Cymru i gadarnhau rhai materion sy’n ymwneud â chyfrifyddu. Ar ôl cadarnhau’r rheini, bydd y llawlyfr llywodraethu’n cael ei gwblhau.

Rheoli risgiau

Dywedodd MG fod y Pwyllgor wedi adolygu’r gofrestr risgiau yn fanwl yng nghyfarfod mis Ionawr.

Dywedodd MG fod y Pwyllgor wedi cael sicrwydd drwy’r golofn yn y gofrestr sy’n rhoi cyfiawnhad ar gyfer dyfarniadau uniongyrchol.

Cafodd y Pwyllgor sicrwydd ynghylch yr amserlen ar gyfer gwaith comisiynu a’r prosesau mewnol newydd sydd wedi’u cyflwyno i sicrhau gwaith monitro agos, yn enwedig ar gyfer prosiectau risg uchel.

Cyllid

Cyfrannodd ARAC at y polisi Treuliau a’r polisi cyllid.

6. Diweddariad y Prif Weithredwr

Dechrau Da

Dywedodd EG fod Llywodraeth Cymru ac Adnodd wedi bod yn destun stori newyddion ddiweddar gan y BBC ac S4C am ddyfodol y rhaglen Dechrau Da sydd, ar hyn o bryd, yn cael ei hariannu gan Adnodd tan fis Ebrill 2026. Gweithiodd Llywodraeth Cymru yn gyflym ac yn adeiladol gydag Adnodd i lunio ymateb i ymholiadau’r cyfryngau ac i roi eglurder ynghylch disgwyliadau’r llywodraeth ynghylch parhad y rhaglen tan y bydd y trefniadau ar gyfer y dyfodol yn cael eu cadarnhau a’u comisiynu.

Mae trafodaethau’n dal i gael eu cynnal gyda Dechrau Da i sicrhau bod modd parhau â’r ddarpariaeth dros y flwyddyn nesaf. Mae Adnodd hefyd yn gweithio gyda’r tîm partneriaeth i sicrhau bod goblygiadau’r trafodaethau hyn yn cael eu hystyried wrth i ni gytuno ar ein llythyr ariannu ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Diweddariad am dreth ar werth

Cafwyd canllawiau gan Lywodraeth Cymru am sut y gall Adnodd ddatblygu cais i gael ei eithrio’n rhannol rhag gorfod talu treth ar werth (TAW). Bydd y goblygiadau i Adnodd yn cael eu hadolygu wrth i’r cais ddatblygu, a bydd ARAC yn cael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gweithio gyda Llywodraeth Cymru

Dywedodd EG fod drafftiau cynnar o’r llythyr cylch gwaith a’r llythyr ariannu wedi dod i law, ac mae’r tîm gweithredol yn gweithio gyda’r tîm partneriaeth i gwblhau’r manylion. Mae trafodaethau hefyd yn cael eu cynnal yn nhimau polisi Llywodraeth Cymru.

Disgwylir i’r llythyrau gael eu cwblhau a’u cymeradwyo gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ym mis Chwefror. Bydd pecyn cynhwysfawr o gynlluniau strategol ac ariannol yn cael ei gyflwyno i ARAC a’r Bwrdd ym mis Ebrill.

Y Bwrdd Strategol Adnoddau Addysg (Y Bwrdd Strategol)

Cadeiriwyd cyfarfod adeiladol a chadarnhaol o’r Bwrdd Strategol gan Gyfarwyddwr Addysg Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr.

Bydd Prif Weithredwr Dysgu yn bresennol yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd Strategol.

Ymgysylltu, cydweithio a hyrwyddo

Cyhoeddwyd ail adroddiad blynyddol Adnodd ar-lein ym mis Rhagfyr.

Mae timau gweithredol Adnodd a Dysgu yn cwrdd yn rheolaidd i sefydlu perthynas agos ac i hybu cydweithio.

Mae’r ddau sefydliad yn gweithio gyda’i gilydd i gytuno ar eu llythyrau cylch gwaith a’u llythyrau ariannu, er mwyn sicrhau bod y rheini’n cyd-fynd â’i gilydd.

Ym mis Chwefror, bydd trafodaeth yn cael ei chynnal gyda chyhoeddwyr a gweisg yng Nghymru i rannu cynlluniau a blaenoriaethau Adnodd ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod ac i drafod cydweithio er mwyn gallu cynllunio ymlaen llaw yn effeithiol.

7. Diweddariad y Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyflawni: Comisiynu a Strategaeth

Dulliau comisiynu

Dywedodd LlS fod y tîm wedi gwerthuso effeithiolrwydd pob rownd gomisiynu ac wedi gwella’r systemau ar gyfer y rowndiau nesaf.

Roedd rownd gomisiynu’r hydref wedi rhoi cyfle tryloyw i’r holl gyflenwyr wneud cais drwy ddulliau hysbysebu agored, a hynny gyda’n partner caffael, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae’r manylebau ar gyfer rownd nesaf y Gwahoddiad i Dendro (ITT) wedi’u cyd-greu â thimau polisi Llywodraeth Cymru ac arbenigwyr yn y maes. Bydd yr adnoddau hyn yn hybu uchelgeisiau strategol Adnodd yn ei feysydd ffocws.

O fis Ebrill 2026, bydd Adnodd yn defnyddio fframwaith agored i sicrhau bod ein prosesau comisiynu yn dryloyw ac yn gystadleuol, yn unol â rheoliadau caffael.

Bydd y ffenestr ariannu nesaf yn agor ym mis Chwefror. Bydd y rownd gomisiynu hon yn canolbwyntio ar brosiectau sy’n cefnogi addysgu a dysgu Hanes Cymru, Gwrth-hiliaeth a Hawliau Dynol.

Dywedodd LlS fod dwy sesiwn ar-lein wedi’u trefnu i ymwneud â’r farchnad ac i rannu rhagor o wybodaeth.

Fframwaith cyflenwyr

Mae fframwaith agored wrthi’n cael ei greu ar gyfer cyflenwyr, crewyr cynnwys creadigol, prosiectau ymchwil a gwerthuso, ac ymgynghorwyr addysgol. Nod hyn yw symleiddio ein proses gaffael a lleihau’r amser a’r ymdrech weinyddol sy’n gysylltiedig â chynnal proses dendro lawn ar gyfer pob comisiwn.

Bydd y fframwaith yn creu proses gaffael effeithlon, deg a thryloyw, a honno’n cydymffurfio â rheolau caffael.

Cam gweithredu: Cyflwyno diweddariad i’r Bwrdd ym mis Ebrill am y fframwaith cyflenwyr.

Fframwaith Sicrhau Ansawdd 

Bydd Fframwaith Sicrhau Ansawdd Adnodd yn cael ei gyhoeddi ar 1 Ebrill 2026 i hybu cyfleoedd agored i wneud cais am gomisiynau, a hynny yn unol ag anghenion ein llythyr ariannu ar gyfer 26/27.

Ymchwil ym maes llythrennedd

Drwy gystadleuaeth agored, mae Miller Research wedi’i benodi i gyflawni’r prosiect ymchwil a fydd yn helpu gyda’r gwaith o gomisiynu adnoddau llythrennedd yn y dyfodol.

Mewn ymateb i ymholiad aelod ynglŷn â Ffrindiau Adnodd, esboniodd LlS y bydd y fframwaith cyflenwyr yn cynnwys lot ar gyfer ymgynghorwyr (yn y meysydd addysg, polisi a diwylliant), gan olygu y bydd modd “caffael” Ffrindiau Adnodd drwy’r dull hwn. Mae trafodaethau wrthi’n cael eu cynnal i sefydlu panel o arbenigwyr sydd â phrofiadau bywyd i weithio gydag Adnodd.

8. Diweddariad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol

Adnoddau dynol

Dysgu proffesiynol

Ym mis Medi, lansiodd Adnodd blatfform e-ddysgu iHasco, sy’n galluogi staff ac aelodau’r Bwrdd i gwblhau modiwlau sy’n seiliedig ar gydymffurfiaeth.

Cynigiwyd sesiynau hyfforddi ar-lein ym meysydd rheoli risgiau, seiberddiogelwch ac atal aflonyddu, a bu nifer o aelodau’r Bwrdd yn eu dilyn yn nhymor yr Hydref.

Y strwythur recriwtio a staffio  

Yn dilyn y cylch recriwtio mewnol ar gyfer swydd y Rheolwr Comisiynu ac Ansawdd, ystyriodd y tîm gweithredol strwythur a chyfrifoldebau’r Tîm Comisiynu. Cafodd dau ddisgrifiad swydd newydd eu creu ar gyfer swyddi Uwch Swyddog a Swyddog.

Penodwyd Uwch Swyddog ddechrau mis Rhagfyr a chynhaliwyd y cyfweliadau ar gyfer swydd y Swyddog ar 15 Ionawr 2026.

Mae dyddiad dechrau yn cael ei drafod gyda’r ymgeisydd llwyddiannus.

Fforwm y Staff 

 

Rhoddodd KD grynodeb o’r adran yn y papur am Fforwm y Staff a thrafodaethau’r fforwm yn ei gyfarfod ar 12 Tachwedd 2025.

Dywedodd KD fod Adnodd wedi bod yn treialu awr les sydd wedi cael croeso da gan staff ac sy’n hwb i’w hysbryd. Bydd KD yn gwneud gwaith meincnodi yn gysylltiedig â thelerau ac amodau cyn ei gyflwyno i ARAC a’r Bwrdd ym mis Ebrill.

Cam gweithredu: Adolygu telerau ac amodau cyflogaeth cyfredol gydag ARAC a’r Bwrdd ym mis Ebrill 2026.

Polisïau

Yn ystod cyfarfod ARAC ar 14 Ionawr, adolygodd a chymeradwyodd y Pwyllgor y polisi Recriwtio diwygiedig.

Y polisi Treuliau

Esboniodd KD fod fforwm y staff wedi adolygu’r polisi ym mis Tachwedd ar ôl agor cyfrif busnes Premier Inn ar gyfer Adnodd.

Cyflwynwyd y polisi i ARAC ym mis Ionawr, ac argymhellodd y Pwyllgor y dylid diwygio’r polisi fel a ganlyn:

  • I alluogi staff i archebu eu llety eu hunain ar gyfer sefyllfaoedd ad-hoc ac adennill y gost hyd at yr uchafswm a ganiateir
  • I egluro bod yn rhaid i ddigwyddiadau ar gyfer y ‘tîm cyfan’ gael eu trefnu’n ganolog gan y tîm corfforaethol
  • I ddatgan yn glir nad yw staff yn gallu hawlio yn ôl unrhyw gostau teithio ychwanegol sy’n deillio o ddewis eu llety eu hunain
  • I alluogi staff i gyfuno’r uchafsymiau ar gyfer cynhaliaeth pan fydd gweithwyr yn gallu hawlio am dri phryd bwyd oherwydd anghenion busnes

Penderfyniad: Cymeradwyodd y Bwrdd y polisi Treuliau diwygiedig.

Polisi gweithio ystwyth

Dywedodd KD fod yr adran ‘gweithio o dramor’ wedi’i diwygio i gryfhau sefyllfa Adnodd yn dilyn trafodaethau yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Hydref.

Penderfyniad: Cymeradwyodd y Bwrdd y diwygiadau i’r polisi gweithio ystwyth

Cyllid

Cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn

Ar 5 Tachwedd 2025, llofnododd Adnodd lythyr amrywiad grant yn cadarnhau cyllid ychwanegol i gefnogi pynciau TGAU Ton 2. Cyfanswm y swm a ddyfarnwyd oedd £545,405, gyda £444,803 wedi’i ddyrannu i flwyddyn ariannol 25/26, a £100,602 i flwyddyn ariannol 26/27.

Mae cyllid ychwanegol gwerth tua £9,000 tuag at y bwlch mewn cyflogau yn 2025/26 a’r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol wedi’i gadarnhau ar lafar gan y tîm partneriaeth, ac mae disgwyl iddo ddod i law ym mis Ionawr 2026.

Ym mis Ionawr 2026, tynnwyd i lawr gyfanswm y cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn o £453,803.

Gwariant y gyllideb

Mae’r tabl yn y papurau yn dangos bod cyfanswm y gwariant am y cyfnod £911,263 yn fwy na’r cyllid grant a dynnwyd i lawr. Ceir gorwariant o £974,826 yn y gyllideb gomisiynu ac mae hynny gan fod rhagolygon gwreiddiol y gyllideb yn dangos gwerth llawn pob contract yn Chwarter 4, a hynny yn ystod y broses o gytuno ar gerrig milltir gyda chyflenwyr. Cytunwyd bellach ar y cerrig milltir ar gyfer nifer o brosiectau, ac mae rhai ohonyn nhw wedi’u cwblhau yn Chwarter 3. Mae hynny wedi arwain at wariant nad oedd yn rhan o’r rhagolygon yn y cyfnod dan sylw. Bydd hyn yn cydbwyso erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

Mae tua £15,000 o’r tanwariant gweithredol yn ymwneud â gwasanaethau sydd wedi’u cwblhau ond lle nad yw anfonebau wedi dod i law ar eu cyfer eto. Mae’r tanwariant sy’n weddill yn y gyllideb weithredol, sef tua £43,000, yn ymwneud ag arbedion effeithiolrwydd a wnaed. Mae £20,000 o’r tanwariant hwn wedi’i neilltuo i ganslo’r diffyg yn y cyfrifon sy’n ymwneud â diwedd blwyddyn ariannol 23/24. Mae’r tanwariant sy’n weddill wedi’i ddyrannu i brosiectau eraill.

Rhagolwg – Chwarter 4

Mae’r rhagolwg diweddaraf yn dangos tanwariant o £25,633 ar ddiwedd y flwyddyn, sydd o fewn y tanwariant a ganiateir o 2% o gyfanswm incwm Adnodd.

Dywedodd KD fod yr holl brosiectau comisiynu ar y trywydd iawn i gyrraedd eu cerrig milltir ar ddiwedd y flwyddyn yn brydlon ac o fewn y gyllideb.

Comisiynu

Ceir tanwariant bach yn ymrwymiadau 24/25 oherwydd fod un prosiect wedi’i gwblhau ychydig o dan y gyllideb.

Mae’r llinell yn y gyllideb ar gyfer sicrhau ansawdd wedi’i throsglwyddo i ariannu’r gwaith gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i sefydlu’r fframwaith cyflenwyr.

Gostyngwyd y gyllideb ar gyfer Comisiynu – Ceisiadau am Gynigion 25/26 (Ton 2) i £140,000 er mwyn adlewyrchu’r amserlen fyrrach na’r disgwyl ar gyfer cyflawni’r gwaith hwn. Bydd y tanwariant yn cael ei ddefnyddio i ariannu prosiectau amrywiol.

Rhagwelir y bydd tanwariant bach gwerth £443 yn y gyllideb gomisiynu ar 31 Mawrth 2026.

Gweithredol

Rhagwelir tanwariant gwerth tua £25,000 ar ddiwedd y flwyddyn, yn bennaf oherwydd costau is ar gyfer caffael, teithio a chynhaliaeth, a hyfforddiant staff.

Bydd y tanwariant yn cael ei ddefnyddio i wneud iawn am y diffyg sydd wedi’i ddargadw ac i ganiatáu rhywfaint o hyblygrwydd pe bai unrhyw gostau annisgwyl yn codi yn chwarter 4.

Polisi cyllid

 

Mae Adnodd wedi adolygu a diweddaru prosesau ac wedi cyflwyno meddalwedd newydd i symleiddio a gwella arferion gweithio, gan fod y rhan fwyaf o’r prosesau ariannol bellach yn fewnol.

Mae’r newidiadau wedi arwain at adolygu’r polisi Cyllid, sydd wedi’i argymell gan ARAC i’w gymeradwyo gan y Bwrdd.

Penderfyniad: Cymeradwyodd y Bwrdd y diwygiadau i’r Polisi.

Archwiliad mewnol

Rhoddwyd diweddariad ar lafar i ARAC ar 14 Ionawr yn cadarnhau bod y cam profi bron wedi’i gwblhau ac nad oedd unrhyw broblemau sylfaenol wedi’u canfod.

Bydd KD yn mynd i gyfarfod cau ddechrau mis Chwefror.

Bydd swyddogion Adnodd a’r tîm archwilio mewnol yn cyfarfod i lunio’r cynllun gweithredu blynyddol ar gyfer 2026/27. Bydd hwnnw’n cael ei gyflwyno i ARAC ym mis Ebrill.

Bydd y tîm archwilio mewnol hefyd yn llunio adroddiad sicrwydd blynyddol ac yn ei gyflwyno i ARAC ym mis Ebrill. Bydd hwnnw’n rhoi crynodeb o’r gwaith archwilio a wnaed yn ystod 2025/26 ac yn cynnig barn gan archwilwyr i’w chynnwys yn natganiadau ariannol 2025/26.

Archwiliad Allanol

Dywedodd KD na fydd Archwilio Cymru yn gallu cwblhau’r gwaith maes ar gyfer archwiliad 2025/26 tan fis Hydref, a gallai hynny effeithio ar amseroedd cyfarfodydd ARAC a’r Bwrdd yn rhan olaf y flwyddyn ariannol.

Cam gweithredu: Cylchredeg dyddiadau newydd cyfarfodydd y Bwrdd ac ARAC.

Rheoli risgiau

Cafodd y gofrestr risgiau ei hadolygu a’i diweddaru ym mis Rhagfyr 2025 a’i chyflwyno i ARAC ym mis Ionawr.

Dyfarniadau uniongyrchol 

Mae’r gofrestr o ddyfarniadau uniongyrchol wedi’i diweddaru i gynnwys colofn yn datgan y cyfiawnhad dros ddyfarnu contractau’n uniongyrchol.

Mae colofn hefyd wedi cael ei hychwanegu at y gofrestr sy’n cynnwys dolenni i’r hysbysiadau tryloywder a gyhoeddir ar y Platfform Digidol Canolog ar gyfer yr holl gontractau a gaiff eu dyfarnu’n uniongyrchol. Mae 10 o gontractau wedi cael eu dyfarnu’n uniongyrchol heb gystadleuaeth ers 1 Ebrill 2025.

Y gofrestr risgiau twyll

Mae newidiadau bellach wedi’u gwneud i’r gofrestr yn dilyn adolygiad manwl gan ARAC ym mis Ionawr.

Bydd y gofrestr risgiau twyll yn cael ei hadolygu o leiaf unwaith bob blwyddyn gan ARAC yn unol â’r polisi rheoli risg.

Y gofrestr risgiau corfforaethol

Roedd tab y gofrestr risgiau corfforaethol wedi’i ddiwygio ar ôl trafodaethau yng nghyfarfod ARAC ym mis Ionawr.

Dywedodd KD ei bod hi wedi bod yn gweithio gyda thîm HWB ar sicrhau ardystiad IASME. Roedd ymatebion Adnodd i’r holiadur yn cydymffurfio, ond roedd y wybodaeth am y parth gan HWB yn annigonol. Nid yw’r ymatebion ychwanegol gan HWB wedi dod i law eto, sy’n golygu nad yw Adnodd wedi cael ardystiad IASME Lefel 1, ac mae felly’n annhebygol o gael ardystiad Lefel 2 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, er mai dyna oedd y bwriad.

Dywedodd KD y bydd yn rhoi gwybod i dîm diogelwch Llywodraeth Cymru am hyn.

 

 

9. Cwricwlwm i Gymru

Rhoddodd GD gyflwyniad byr ar y pwnc – Y Cwricwlwm i Gymru: Y cyfleoedd, yr heriau a’r risgiau.

Y cyfleoedd

Yn ystod ei thaith i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru, aeth Ysgol Dyffryn Conwy a’i chymuned ati i edrych eto ar werthoedd a gweledigaeth yr ysgol. Ffocws pwysig i addysgeg yr ysgol yw gofyn y cwestiynau: Pam, beth a sut.

Dywedodd GD fod hyfforddiant staff yn canolbwyntio ar ddatblygu gweithlu sydd â’r strategaethau angenrheidiol ar gyfer addysgu a dysgu’r Cwricwlwm i Gymru.

Mae llawer o weithgareddau yn cael eu trefnu yn yr ysgol i ennyn diddordeb dysgwyr, gan leihau costau a sicrhau cyfle cyfartal i bob dysgwr.

Mae safle’r ysgol bellach wedi’i drefnu i alluogi cynnal gweithgareddau trawsgwricwlaidd rhwng adrannau, yn seiliedig ar y Meysydd Profiad a Dysgu.

Dywedodd GD mai’r prif heriau oedd:

  • Dylunio cwricwlwm lleol effeithiol.
  • Cynllunio ar gyfer y cymwysterau newydd.
  • Datblygu capasiti’r staff a’u hyfforddi.
  • Y dulliau asesu newydd.
  • Cysondeb rhwng ysgolion.
  • Mesur effaith y Cwricwlwm i Gymru.
  • Paratoi dysgwyr at swyddi yn y dyfodol.

Dywedodd GD mai’r prif risgiau oedd:

  • Costau.
  • Peidio â rhoi digon o ffocws ar gynnwys craidd.
  • Pwysau ar y sefyllfa staffio bresennol.
  • Newidiadau i’r haen ganol.

Bydd y Bwrdd yn ymweld ag Ysgol Dyffryn Conwy ar gyfer ei gyfarfod ym mis Ebrill a bydd yn cwrdd â staff sy’n gwireddu’r Cwricwlwm i Gymru.

10. Cynllun gweithredol

Mae’r cynllun drafft ar gyfer 2026-27 yn cyflwyno’r prif amcanion, y camau gweithredu a’r gyllideb sydd wedi’u dyrannu, a hynny o dan y pum blaenoriaeth strategol a geir yn ein llythyr cylch gwaith ar gyfer 2023-2026.

Mae diwrnodau gweithdy i’r holl staff wedi’u trefnu ym mis Chwefror i ddatblygu’r cynllun ymhellach. Bydd hyn yn ein galluogi i gytuno ar y prif gamau gweithredu a’r cerrig milltir ar gyfer pob amcan, canfod a rheoli’r elfennau y mae Adnodd yn dibynnu arnyn nhw ac elfennau tyngedfennol, a chytuno ar sut i olrhain cynnydd.

Rhoddodd EG amlinelliad o’r amcanion drafft a geir ar gyfer pob un o’r pum blaenoriaeth strategol.

Cadarnhaodd EG fod drafft cynnar o’r llythyr cylch gwaith ar gyfer 26/27 wedi dod i law, a dywedodd nad oes unrhyw newidiadau wedi’u gwneud i’r amcanion strategol.

Bydd cynllun gweithredol terfynol yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd ym mis Ebrill.

Mae’r llythyr cylch gwaith drafft yn datgan bod yn rhaid i Adnodd rannu’r cynllun gweithredol yn ffurfiol ag Ysgrifenydd y Cabinet dros Addysg i ddangos ein bod yn mynd ati i gyflawni ein cylch gwaith.

Bydd cynllun busnes mwy cryno yn cael ei lunio ar sail y cynllun gweithredol, a hwnnw’n cael ei gyhoeddi ar wefan Adnodd.

11. Cyllideb ddrafft 2026/27

Datblygwyd cyllideb ddrafft 26/27 gan ystyried yr amcanion a’r meysydd ffocws a geir yn strategaeth Adnodd, amcanion polisi Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, a’r ymrwymiadau cyllid o ran contractau a grantiau o flwyddyn ariannol 2025/26 ymlaen.

Mae’r negeseuon a gafwyd gan Lywodraeth Cymru yn awgrymu y bydd cyllideb 2026/27 yn debyg iawn i gyllideb y flwyddyn ariannol gyfredol.

Mae’r cyllid ar gyfer y costau gweithredol wedi’i seilio ar flwyddyn ariannol 2024/25 ac wedi cynyddu i gydnabod cost ychwanegol dyfarniad cyflog 2024/25 a’r cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Mae’r cyllid yn ddigonol i dalu am weithgarwch arfaethedig 2026/27 ac mae’n cynrychioli 34% o gyfanswm yr arian sydd wedi’i ddyrannu.

Mae codiad cyflog o 2.2% wedi’i gyllidebu ar gyfer yr holl staff yn dilyn canllawiau gan Uned Cyrff Cyhoeddus Llywodraeth Cymru.

Mae tanwariant o £13,426 yn y gyllideb weithredol ar hyn o bryd. Os bydd tanwariant yn dal i fodoli ar ôl i’r cytundeb cyllido terfynol gael ei gymeradwyo, gellir ei symud i’r gyllideb Gomisiynu i’w ddyrannu.

12. Polisïau corfforaethol drafft

Dywedodd KD fod y siarter Llesiant a pholisi’r Gymraeg yn dal ar ffurf drafft.

Bydd diwygiadau a awgrymir gan y Bwrdd yn cael eu gwneud cyn cyflwyno’r fersiynau terfynol i’r Bwrdd i’w cymeradwyo ym mis Ebrill.

Y siarter Llesiant

Drwy’r siarter Llesiant, mae Adnodd yn bwriadu dangos ymrwymiad i hybu a gwella llesiant yr holl staff ac aelodau’r Bwrdd. Bydd cynllun gweithredu ar gyfer llesiant yn cyd-fynd â’r siarter.

Mae’r siarter yn ceisio:

  • Amlinellu rolau a chyfrifoldebau swyddogion Adnodd mewn perthynas â llesiant.
  • Disgrifio’r camau sy’n cael eu cymryd ar hyn o bryd i hybu llesiant yn Adnodd.
  • Dangos dull Adnodd o weithio ym maes llesiant gan ddefnyddio’r Pum Ffordd at Lesiant.
  • Rhoi gwybodaeth am y cynllun buddion i staff.

Ar ôl i’r Bwrdd ei chymeradwyo, bydd y siarter yn cael ei chyhoeddi ar dudalen we gorfforaethol Adnodd yn unol â gofynion y model hunanasesu.

Dywedodd GD y dylai’r siarter adlewyrchu gwahaniaeth cliriach rhwng staff ac aelodau’r Bwrdd.

Cam gweithredu: Sicrhau gwahaniaeth clir rhwng staff ac aelodau’r Bwrdd yn y siarter Llesiant.

Croesawodd MG y siarter ac awgrymodd ei bod yn cael ei chryfhau drwy adlewyrchu saith nod llesiant a phum ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Cam gweithredu: Cyfeirio at saith nod llesiant a phum ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn y siarter.

Polisi’r Gymraeg

Mae polisi Adnodd ar gyfer y Gymraeg wedi’i greu gan ddefnyddio proses ysgrifennu triawd gyda chymorth Catrin Keller, cyfieithydd yn y Ganolfan Gwasanaethau Digidol a Chyhoeddus, a hynny er mwyn adlewyrchu cyfrifoldebau statudol, uchelgeisiau strategol a gwerthoedd sefydliadol Adnodd mewn perthynas â’r Gymraeg a’i diwylliant.

Datblygwyd polisi’r Gymraeg i wneud y canlynol:

  • Gwreiddio ystyriaethau sy’n ymwneud â’r Gymraeg ym mhob gweithgaredd mewnol ac allanol.
  • Cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymraeg 2050 drwy gyfrannu’n ystyrlon at dwf ac amlygrwydd yr iaith.
  • Creu dull sefydliadol cyson sy’n mynd y tu hwnt i gydymffurfiaeth ac yn modelu’r arferion dwyieithog gorau.

Croesawodd MG y polisi ac awgrymodd y dylid cyfeirio at un o saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i gryfhau’r polisi: Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.

Cam gweithredu: Yr aelodau i anfon unrhyw sylwadau ychwanegol am y polisïau erbyn dydd Gwener 30 Ionawr.

13. Unrhyw fusnes arall

Nododd GD ddyddiadau’r cyfarfodydd Bwrdd sydd i ddod.


Cyhoeddwyd yn wreiddiol
Diweddarwyd ddiwethaf
Lawrlwytho: 352.96 KB, PDFEfallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch