Neidio i'r prif gynnwy
English

Cyfarfod Bwrdd Adnodd: 3 Ebrill 2025 09:30-13:30

Darllenwch gofnodion cyfarfod Bwrdd Adnodd a gynhaliwyd ar 3 Ebrill 2025. Ymhlith y pynciau dan sylw roedd llywodraethu, cynlluniau comisiynu, materion ariannol a’r camau nesaf wrth i Adnodd barhau i dyfu a chefnogi dysgwyr ac ymarferwyr ledled Cymru.

Cyhoeddwyd yn wreiddiol
Diweddarwyd ddiwethaf
Lawrlwytho: 239.45 KB, PDFEfallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch

Yn bresennol

Adnodd:

  • Adnodd:

  • Gethin Davies, Cadeirydd (GD)
  • Mair Gwynant, Cadeirydd ARAC (MG)
  • Sioned Roberts (SR)
  • Huw Jones (HJ)
  • Natalie Jones (NJ)
  • Emyr George, Prif Weithredwr (EG)
  • Lleucu Siencyn, Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyflawni (LlS)
  • Kirsty Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol (KD)
  • Branwen Edwards, Ysgrifenyddiaeth (BE)

Blue Stag (Partner cyfathrebu):

  • Dan Sargent
  • Holly Ingram

1. Croeso ac ymddiheuriadau

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Nicola Wood a Lesley Bush. 

Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Siwan Jones a Pat McCarthy o Lywodraeth Cymru. 

 

2. Datgan buddiannau

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw fuddiannau wedi’u datgan cyn y cyfarfod. 

Soniodd un aelod am waith roedd yn ei wneud i Atebol, ac mae hynny wedi’i gofnodi eisoes ar y gofrestr. Soniodd aelod arall am waith roedd yn ei wneud ar brosiectau Rhyngom a’r Map Rhyngweithiol. Penderfynwyd nad oedd y buddiannau hyn yn achosi gwrthdaro, ac y gallai’r naill aelod a’r llall barhau i gymryd rhan yn y cyfarfod. 

3. Cofnodion y cyfarfod diwethaf  

Cytunodd y Bwrdd fod y cofnodion yn gofnod cywir a gwir o’r trafodaethau, gan gynnwys cofnodion yr eitem gaeedig. 

4. Diweddariad gan y Cadeirydd

Nododd GD y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a ddaeth i law ar 3 Mawrth, yn diolch i Adnodd am y cyfle i gwrdd yn yr hydref, yn cydnabod y cynnydd a wnaed eisoes, ac yn diolch i Adnodd am rannu’r Adroddiad Cynnydd Blynyddol. 

Esboniodd GD ei fod yn ddiweddar wedi bod i gyfarfod o Fwrdd Cymwysterau Cymru fel arsylwr, er mwyn cael profiad o sut roedd Byrddau eraill yn gweithredu. Dywedodd fod yr aelodau’n teimlo bod cwrdd wyneb yn wyneb yn fuddiol. Roedd Cymwysterau Cymru hefyd yn cynnal diwrnod datblygu blynyddol i’r Bwrdd, yr un pryd ag un o’r cyfarfodydd oedd wedi’u trefnu. 

Cynhaliwyd adolygiad blynyddol GD â’r Dirprwy Gyfarwyddwr, Cymraeg 2050, ar 25 Mawrth 2025. Bydd cyfarfodydd rheoli perfformiad aelodau’r Bwrdd yn cael eu cynnal drwy Teams. Bydd dyddiadau posibl yn cael eu hanfon drwy e-bost. 

Cam Gweithredu: Anfon dyddiadau posibl ar gyfer y cyfarfodydd rheoli perfformiad. 

Esboniodd GD y bydd tîm partneriaeth Adnodd yn trosglwyddo o Cymraeg 2050 i Is-adran y Cwricwlwm ac Asesu. Roedd e-bost wedi dod i law gan Siwan Jones a Bethan Webb (Cymraeg 2050) yn diolch i aelodau’r Bwrdd am eu hymroddiad a’u cefnogaeth yn ystod y broses o sefydlu Adnodd.  

Cam Gweithredu: GD i ysgrifennu at is-adran Cymraeg 2050 i ddiolch yn ffurfiol am y cymorth a roddwyd fel rhan o dîm partneriaeth Adnodd yn ystod y broses sefydlu a’r flwyddyn weithredu gyntaf. 

Cam Gweithredu: Gofyn am gopi o strwythur staffio Is-adran y Cwricwlwm ac Asesu ar ran y Bwrdd. 

5. Diweddariad gan Gadeirydd ARAC

Dywedodd MG fod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) wedi cwrdd ddwywaith ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd. Cafwyd un cyfarfod i drafod polisïau adnoddau dynol ac un arall i drafod materion cyffredinol ARAC.  

Dyma’r prif bwyntiau i’w nodi o gyfarfod llawn ARAC ar 17 Mawrth 2025: 

Archwilio 

Cafodd ARAC gyfarfod â’r archwilwyr mewnol, ac mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, Cytundeb Lefel Gwasanaeth a Siarter Archwilio wedi cael eu llofnodi. 

Bydd yr archwiliad cychwynnol yn Chwarter 1 2025/26 yn edrych ar lywodraethu. Bydd yn rhoi digon o wybodaeth i alluogi’r tîm archwilio i roi barn yr archwilwyr ar gyfer adroddiad blynyddol 2024/25.  

Risgiau 

Gan gyfeirio at y gofrestr risg, dywedodd MG fod cyllideb y costau gweithredol yn ddigonol i fwrw ymlaen â’r ail rownd recriwtio yn 25/26, ond y dylid ychwanegu risg newydd yn ymwneud â pharhad a’r model cyllido. 

Dywedodd MG fod bwriad i gadw golwg ar y risg o ran TG. Dywedwyd bod gwaith yn cael ei wneud i gael achrediad Cyber Essentials Plus, ac y bydd ARAC yn cynnal archwiliad dwfn o’r risg hon yn ystod ei gyfarfod llawn nesaf ym mis Mehefin. 

Roedd ARAC wedi cytuno i gadw golwg ofalus yn y chwarter cyntaf ar y risg a oedd yn ymwneud â chomisiynu, a nodwyd pwysigrwydd amseru taliadau a cherrig milltir ar gyfer cyflawni.  

Polisïau a dulliau rheoli mewnol 

Mae’r gwaith yn mynd rhagddo, ac mae cynnydd da’n cael ei wneud. 

Cyllid 

Roedd ARAC wedi craffu ar adroddiad Chwarter 3 ac ar gyllideb blwyddyn ariannol 2025-26. 

Nododd y Pwyllgor fod cyllid y sefydliad yn cael ei reoli’n dda. 

Roedd sicrwydd wedi’i roi bod y risg o danwariant sy’n fwy na’r 2% y gellir ei gario drosodd yn fach iawn. 

Roedd sicrwydd wedi’i roi bod aelodau’r tîm yn gallu ymdopi ar hyn o bryd â’r pwysau sydd arnyn nhw. 

Blwyddyn ariannol 25-26 – roedd sicrwydd wedi’i roi bod digon o gyllid i dalu’r costau gweithredol. 

Holiadur effeithiolrwydd y Pwyllgor 

Darparodd MG drosolwg o’r prif ganfyddiadau.  

Cam Gweithredu: Gwahodd aelodau’r Bwrdd i fynegi diddordeb mewn mynychu cyfarfodydd ARAC fel arsylwyr. 

6. Diweddariad y Prif Weithredwr

Dywedodd EG y bydd Adnodd, yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd Strategol Adnoddau Addysg, yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i adolygu’r modd yr aethpwyd ati eleni i osod cyllideb ac amcanion Adnodd. Byddai hynny’n helpu i wneud y broses o benderfynu ar gyllid a blaenoriaethau’n fwy effeithlon ac amserol y flwyddyn nesaf.   

Byddai hyn yn golygu bod modd mynd ati’n gynharach i gynllunio a drafftio cyllideb a chynllun gweithredol blwyddyn ariannol 26-27, gan allu ei gyflwyno i’r Bwrdd ar yr adeg hon yn y flwyddyn ariannol nesaf.  

Bydd EG yn cwrdd â Dirprwy Gyfarwyddwyr yr Adran Addysg bob hanner tymor i drafod a chytuno ar y pwyntiau i’w codi yn y Bwrdd Strategol Adnoddau Addysg ymlaen llaw. 

Gan gyfeirio at y corff dysgu proffesiynol newydd, y mae disgwyl iddo fod yn weithredol o dymor yr hydref 2025, dywedodd EG fod y trafodaethau’n mynd rhagddyn nhw â swyddogion Llywodraeth Cymru ynghylch sut y bydd Adnodd yn cydweithio’n effeithiol â’r sefydliad.  

Cam Gweithredu: Rhoi diweddariad i’r Bwrdd am gyfansoddiad y corff newydd, ac am ei effaith ar Adnodd, yn y cyfarfod nesaf.  

Cam Gweithredu: Cysylltu â’r pleidiau gwleidyddol gydag awgrym o eiriad am gylch gwaith Adnodd i’w gynnwys yn eu maniffestos. 

Strategaeth Adnodd 

Dywedodd EG y bydd Adnodd yn cysylltu ag Ysgrifennydd y Cabinet i drafod lansio’r strategaeth rhwng y dyddiad lansio swyddogol a’r haf. 

Comisiynu 

Mae’r tîm Comisiynu wedi canfod a chomisiynu cyfanswm o saith prosiect llythrennedd tymor byr, sy’n canolbwyntio ar elfennau penodol, ac a fydd yn cael eu cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon er mwyn manteisio’n llawn ar y cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn sydd wedi’i roi gan Lywodraeth Cymru.  

Cyfathrebu ac Ymgysylltu 

Mae’r Tîm Gweithredol a’r rheolwyr yn dal i gwrdd yn rheolaidd ag amrywiaeth o randdeiliaid a chyflenwyr posibl, ac yn dal i fynychu cynadleddau, digwyddiadau a seminarau.  

Drwy gyfleoedd hyfforddiant a datblygu proffesiynol, mae’r tîm wedi creu cysylltiadau â sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, a hynny’n hwb i uchelgais Adnodd i gydweithio mewn partneriaeth â’r holl sector cyhoeddus yng Nghymru. 

Datgan rhagenwau 

Nid oedd gan yr aelodau ymholiadau am y cynnig yn y papur i ychwanegu is-adran at y polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. 

Penderfyniad: Cytunodd y Bwrdd i gynnwys is-adran am ragenwau yn y polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. 

Cam Gweithredu: Diweddaru’r polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a rhoi canllawiau a llofnod e-bost i aelodau’r Bwrdd. 

7. Diweddariad y Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyflawni: Comisiynu

Soniodd LlS am fformat diwygiedig y daenlen Comisiynu, ar ôl cael adborth yng nghyfarfod blaenorol y Bwrdd. Mae’r daenlen bellach yn cynnwys: 

Disgrifiadau byr o brosiectau 

  • Y meysydd dysgu 
  • Cam(au) cynnydd 
  • Gwerth ariannol 

Gan gyfeirio at y papur, rhoddodd LlS ddiweddariad am y gwaith comisiynu: 

Ceisiadau am Gynigion 

Cafwyd ceisiadau gan 5 o gyflenwyr, gydag un cyflenwr yn cyflwyno 2 gynnig. Ni chafwyd ceisiadau o ran yr adnoddau i gefnogi Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol.  

Rhoddwyd contractau i 4 o gyflenwyr, gydag 1 cyflenwr yn cael 2 gontract.  

Grantiau ychwanegol ar gyfer prosiectau llythrennedd 

Soniodd LlS am y cydweithio llwyddiannus rhwng y Tîm Comisiynu a chyflenwyr i sicrhau y bydd y prosiectau a gomisiynwyd gyda chyllid yn ystod y flwyddyn yn cael eu cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.  

Sioe Deithiol Ar-lein Adnodd 

Mae’r tîm wedi trefnu cyfres o sioeau teithiol ar-lein i ymarferwyr a chyhoeddwyr, ac mae 80 o gyfranogwyr wedi cofrestru.  

Amserlen Hanes Cymru 

Dywedodd LlS fod y gwaith cynllunio’n mynd rhagddo, ac awgrymodd y gellid rhoi diweddariad i’r Bwrdd yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf. 

Cam Gweithredu: Rhoi diweddariad am Amserlen Hanes Cymru yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd. 

Cynlluniau comisiynu 25-26 

Soniodd LlS am y gwersi a ddysgwyd yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol, ac am sut y bydd hyn yn dylanwadu ar gynlluniau blwyddyn ariannol 25-26. Bydd y tîm yn ystyried cadw syniadau wrth gefn, ar sail blaenoriaethau strategol, er mwyn gallu ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i gyllid a ddaw i law yn ystod y flwyddyn. 

Materion a godwyd 

Gan gyfeirio at ba mor gyfyngedig oedd y goddefiant o 2% ar gyfer tanwariant, dywedodd EG y bydd hyn yn cael ei drafod â Llywodraeth Cymru wrth adolygu’r ddogfen fframwaith. Fel sefydliad sy’n comisiynu, byddai’n fanteisiol cael y goddefiant mwyaf posibl er mwyn rhoi rhywfaint o hyblygrwydd wrth reoli portffolio cymhleth ac eang o brosiectau. 

Cam Gweithredu: Cynnwys dolen i adnoddau digidol yn y daenlen gomisiynu. 

Cam Gweithredu: Darparu detholiad o adnoddau a gomisiynwyd gan Adnodd yng nghyfarfodydd wyneb yn wyneb y Bwrdd. 

Cam Gweithredu: Rhannu calendr o’r digwyddiadau y mae Adnodd yn eu mynychu ag aelodau’r Bwrdd. 

8. Adnoddau Dynol

Adnoddau Dynol 

Esboniodd KD fod ARAC wedi cytuno yn ei gyfarfod diwethaf ym mis Mawrth i gynnwys dangosfwrdd adnoddau dynol fel rhan o’r diweddariad corfforaethol yng nghyfarfodydd y Bwrdd, a hwnnw’n cynnwys gwybodaeth am bethau fel staff newydd, staff sydd wedi gadael, a’r hyfforddiant sydd wedi’i roi. 

Nodwyd bod porth adnoddau dynol Staffology wedi’i gyflwyno i holl aelodau’r staff, a’i fod ar gael yn Gymraeg a Saesneg.  

Polisïau adnoddau dynol 

Cyfarfu ARAC ar 3 Mawrth i adolygu a chymeradwyo’r gyfres ddiweddaraf o bolisïau adnoddau dynol.  

Roedd y polisïau hyn wedi’u rhannu ag aelodau’r Bwrdd er gwybodaeth.  

Roedd ARAC wedi argymell y Polisi Iechyd a Diogelwch i’r Bwrdd i’w gymeradwyo. 

Penderfyniad: Cymeradwyodd y Bwrdd y Polisi Iechyd a Diogelwch. 

Bydd cyfarfod arall o ARAC yn cael ei gynnal ym mis Mehefin i adolygu’r gyfres olaf o bolisïau adnoddau dynol sydd wedi’u rhestru yn y papur. 

Fforwm y staff 

Yn dilyn y papur a gyflwynwyd yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Rhagfyr, gofynnwyd am farn y staff ynghylch cael eu cynrychioli drwy undeb enwebedig neu drwy fforwm staff. Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal ar 11 Ebrill lle bydd Darwin Gray yn cyflwyno’r ystyriaethau sy’n gysylltiedig â’r ddau opsiwn i’r tîm. Bydd y staff yn bwrw ymlaen â phenderfyniad y mwyafrif.   

Disgwylir y bydd y dull ymgynghori’n cael ei gyflwyno cyn diwedd mis Mai, a bydd y Bwrdd yn cael adroddiad am hyn ym mis Gorffennaf. Awgrymodd KD y gellid gwahodd aelod o’r Bwrdd i fynychu rhai o gyfarfodydd fforwm y staff pan fyddai materion yn berthnasol i’r Bwrdd. 

Y cynllun recriwtio 

Mae’r cyllid arfaethedig ar gyfer y costau gweithredu yn ddigonol i Adnodd ddechrau ail gam y broses recriwtio er mwyn codi nifer staff Adnodd i 15 yn ystod 2025/26. 

Cynigiwyd y dylai’r broses recriwtio hon gael ei chynnal mewn 2 don, gyda’r swyddi canlynol yn y don gyntaf:  

  • Cyfathrebu ac Ymgysylltu Strategol  
  • Corfforaethol  
  • Comisiynu – 1 Rheolwr arall (gradd 4) ac 1 swyddog arall (gradd 2)  

Penderfyniad: Cytunodd y Bwrdd ar y mân newidiadau i’r strwythur staffio wrth recriwtio yn nhon 1. 

Risgiau 

Yng nghyfarfod ARAC ar 17 Mawrth, cytunodd y Pwyllgor y dylai’r Polisi Rheoli Risgiau gael ei argymell i’r Bwrdd i’w gymeradwyo.  

Penderfyniad: Cymeradwyodd y Bwrdd y Polisi Rheoli Risgiau. 

Nodwyd y dylid parhau i adolygu’r polisi’n gyson ac y byddai’n cael ei ddiweddaru wrth i weithgarwch Adnodd ehangu ac wrth i’r rhaglen archwilio fewnol ddatblygu. 

Nodwyd bod Tîm Gweithredol Adnodd wedi adolygu’r gofrestr risgiau a’r camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol ARAC a’r Bwrdd, a’i fod wedi: 

  • Archifo’r hen gofrestr risgiau 
  • Diweddaru categorïau’r risgiau fel eu bod yn cyd-fynd â’r rheini a geir yn y Polisi Rheoli Risgiau  
  • Ychwanegu colofn ar gyfer rheoli risgiau 

Cam Gweithredu: Trefnu adolygiad manwl o’r gofrestr risgiau yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd a gwneud hyn yn flynyddol. 

Adroddiad cyllid Chwarter 3 

Gan gyfeirio at adroddiad cyllid Chwarter 3 a geir yn y papurau sydd er gwybodaeth i’r Bwrdd, cyfeiriodd KD at y prif bwyntiau i’w hystyried. 

Archwilio mewnol 

Cynhaliwyd cyfarfod ag archwilwyr mewnol Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror, lle cytunwyd y bydd dau archwiliad yn cael eu cynnal ym mhob blwyddyn ariannol (yn Chwarter 1 a Chwarter 3) gyda gwaith dilynol a gwaith cynllunio yn cael ei wneud yn Chwarter 4. 

Bydd yr archwiliad cychwynnol yn Chwarter 1 25/26 yn edrych ar lywodraethu ac yn rhoi digon o wybodaeth i’r tîm archwilio allu rhoi barn gan archwilwyr ar gyfer adroddiad blynyddol 24/25.  

Archwilio allanol 

Roedd Archwilio Cymru wedi dweud ei bod yn annhebygol y bydd adroddiad ISA260 yn barod i’w gyflwyno i ARAC ym mis Hydref. Mae hi’n debygol felly y bydd cyfarfod ychwanegol o’r Bwrdd yn cael ei drefnu ddiwedd mis Tachwedd/ddechrau mis Rhagfyr i glywed yr adroddiad. 

Cam Gweithredu: Trefnu cyfarfod ychwanegol o’r Bwrdd i glywed adroddiad ISA260. 

9. Strategaeth Adnodd

Dywedodd LlS fod datblygu Strategaeth Adnodd 2025-2028 wedi cynnwys sesiynau rhithwir a sesiynau wyneb yn wyneb â’r Bwrdd a’r staff rhwng mis Medi 2024 a mis Chwefror 2025.  

Mae’r ddogfen hefyd yn adlewyrchu canfyddiadau ac argymhellion gwaith ymchwil cyntaf Miller Research i Adnodd, ynghyd â chanfyddiadau cynnar y gwaith ymchwil i brofiad defnyddwyr sydd wrthi’n cael ei wneud.  

Roedd ffrindiau beirniadol, gan gynnwys yr Athro Charlotte Williams, swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, swyddogion Estyn, a swyddogion y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi cael eu gwahodd i roi sylwadau am y drafftiau cynnar. 

Bydd y Strategaeth yn para am dair blynedd. Mae Adnodd yn sefydliad newydd mewn sector sy’n esblygu o hyd. Bydd hyn yn rhoi cyfle i werthuso ein gwerthoedd a’n ffyrdd o weithio, gan barhau i wrando ar y dystiolaeth a’r adborth a gawn gan y sector. 

Y camau nesaf: 

  • Ymwneud ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg 
  • Dylunio – rhyngweithiol, gweledol, hawdd i’w ddarllen a’i ddeall  
  • Lansiad swyddogol yn Eisteddfod yr Urdd 

Cam Gweithredu: Diwygio’r Strategaeth i adlewyrchu’r adborth a gafwyd yn y cyfarfod, a rhannu’r drafft terfynol â’r aelodau.  

10. Cyllideb 2025-26

Gan gyfeirio at y llythyr ariannu drafft sydd yn y papurau, esboniodd KD fod hwnnw’n disgwyl i gael ei gymeradwyo ar hyn o bryd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. 

Ers i ARAC gyfarfod ar 17 Mawrth, roedd cyllideb ddiwygiedig wedi’i chynnwys yn y papurau, sy’n dangos y cyllid ychwanegol sydd wedi’i roi gan yr is-adran ADY. 

Costau gweithredol  

Mae’r cyllid yn ddigonol i dalu am y gweithgarwch sydd wedi’i gynllunio yn 2025/26, gan gynnwys: 

  • Recriwtio 
  • Cyfathrebu a marchnata 
  • Gwasanaethau ariannol 
  • Archwilio 
  • Caffael 
  • Digwyddiadau 

Gwariant ar brosiectau a chomisiynu  

Cyfanswm y cyllid grant sydd wedi’i ddyrannu i wariant ar brosiectau yw £2,976,500. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno gofynion yn y llythyr ariannu drafft a anfonwyd at Adnodd ar 20 Mawrth. 

Mae’r llythyr hefyd yn cyflwyno meysydd blaenoriaeth penodol y bydd gofyn i Adnodd gyflwyno achos busnes ar eu cyfer er mwyn cael cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer y prosiectau hyn.  

Yn ogystal, mae Adnodd wedi cyllidebu ar gyfer: 

  • Prosiectau comisiynu presennol sydd eisoes wedi’u rhoi gan Adnodd neu wedi’u trosglwyddo i ni yn ystod blwyddyn ariannol 24/25.  
  • Sefydlu cronfa arloesi i alluogi cydweithio rhwng ymarferwyr er mwyn datblygu syniadau ar gyfer adnoddau newydd.  
  • Gwneud rhagor o waith ymchwil i brofiad defnyddwyr a’r adnoddau sydd ar gael. 
  • Sefydlu grŵp o weithwyr cyswllt i gefnogi gwaith Adnodd, er enghraifft drwy adolygu, comisiynu a sicrhau ansawdd adnoddau.   
  • Sicrhau bod adnoddau cyfrwng Cymraeg presennol yn dal i fod ar gael. 

Dywedodd EG fod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi rhoi sicrwydd y bydd cyllid ychwanegol ar gyfer adnoddau TGAU ar gael i Adnodd ar ôl iddo gyflwyno achos busnes.  

11. Diweddariad gan Blue Stag

Rhoddodd Blue Stag drosolwg o berfformiad a gweithgarwch y wefan a’r cyfryngau cymdeithasol rhwng 27 Rhagfyr 2024 a 26 Mawrth 2025, gan gymharu’r ffigurau â’r rheini yn y chwarter blaenorol. 

Y wefan – y camau nesaf:

  • Cofnodion – lle i weld holl gyfarfodydd y Bwrdd ac ARAC. 
  • Comisiynu – lle i gyflenwyr weld y cyfleoedd sydd ar gael a rhai’r gorffennol, ynghyd â digwyddiadau. 

Y cyfryngau cymdeithasol – y camau nesaf:

  • Rhannu adnoddau sydd wedi’u cyhoeddi er mwyn cynyddu nifer yr ymarferwyr a chyflenwyr sy’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol. 
  • Lansio Strategaeth Adnodd – hyrwyddo’r ffaith mai’r sector ei hun sydd wedi llywio’r strategaeth, a hynny er budd y sector. 

Y gymuned – y camau nesaf:

  • Defnyddio segmentau cynulleidfaoedd i sicrhau bod ymgyrchoedd yn targedu’n well, er mwyn gwella’r modd mae ymgyrchoedd pwysig yn cyrraedd pobl. 
  • Cynyddu maint y rhestr bostio drwy annog y gynulleidfa sy’n cael ei chyrraedd ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Cam Gweithredu: Sicrhau bod y dudalen swyddi ar y wefan yn fyw ar gyfer cylch recriwtio ton 1. 

Cam Gweithredu: Ymwneud â grwpiau sydd â diddordebau arbennig ar y cyfryngau cymdeithasol, e.e. grwpiau’r Cwricwlwm i Gymru a phenaethiaid. 

12. Olyniaeth y Bwrdd

Dywedodd KD y bydd contractau pump o aelodau’r Bwrdd yn dod i ben ym mis Chwefror 2026. I sicrhau bod Adnodd yn cynnal ei systemau a’i brosesau llywodraethu, rhaid i’r Bwrdd gytuno ar gynllun ar gyfer sicrhau olyniaeth effeithiol ar y Bwrdd.   

Cyflwynwyd dau opsiwn i’r Bwrdd eu hystyried. Byddai angen i dîm partneriaeth Adnodd a’r Uned Cyrff Cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru gymeradwyo’r opsiwn y cytunid arno.  

Penderfyniad: Cytunodd  y Bwrdd ar opsiwn 1 – ymestyn tymhorau holl aelodau’r Bwrdd, gyda hyd y cyfnodau hynny i amrywio. 

Cam Gweithredu: Yr aelodau i drafod hyd y contract y bydden nhw’n ei ffafrio â GD yn ystod y cyfarfodydd adolygu perfformiad. 

Cam Gweithredu: Cysylltu â’r Uned Cyrff Cyhoeddus a’r tîm partneriaeth i roi gwybod iddyn nhw am benderfyniad y Bwrdd. 

13. Unrhyw fusnes arall

Yn dilyn ymholiad gan aelod, cytunwyd i adolygu’r polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, gan ystyried hefyd a ddylid cyfeirio at ymddygiad microymosodol yn yr adran am aflonyddu, ynteu gynnwys adran yn y polisi Bwlio ac Aflonyddu. 

Cam Gweithredu: Ystyried y lle gorau i gynnwys adran am ymddygiad microymosodol – naill ai yn y polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant neu yn y polisi Bwlio ac Aflonyddu. 


Cyhoeddwyd yn wreiddiol
Diweddarwyd ddiwethaf
Lawrlwytho: 239.45 KB, PDFEfallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch