Neidio i'r prif gynnwy
English

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Adnodd: 22 Hydref 2025 14.30-14:50

Darllenwch gofnodion ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2025. Mae'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn gyfle i Adnodd adrodd i Lywodraeth Cymru, gan gyflwyno ei gyfrifon blynyddol wedi'u harchwilio ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol.

Cyhoeddwyd yn wreiddiol
Diweddarwyd ddiwethaf
Lawrlwytho: 81.37 KB, PDFEfallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch

Yn bresennol

Adnodd:

  • Gethin Davies, Cadeirydd (GD)
  • Mair Gwynant, Cadeirydd ARAC (MG)
  • Lesley Bush (LB)
  • Sioned Roberts (SR)
  • Huw Jones (HJ)
  • Nicola Wood (NW)
  • Natalie Jones (NJ)
  • Emyr George, Prif Weithredwr (EG)
  • Lleucu Siencyn, Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyflawni (LlS)
  • Kirsty Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol (KD)
  • Dr Ali Hanbury, Pennaeth Ymgysylltu a Chyfathrebu Strategol (AH)
  • Branwen Edwards, Ysgrifenyddiaeth (BE).

Llywodraeth Cymru:

  • Pat McCarthy (PMcC)

Archwilio Cymru:

  • Carwyn Rees (CR)

Ymddiheuriadau:

Dim

1. Croeso

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

2. Cyflwyno Adroddiad Archwiliad Allanol ISA260

Dywedodd CR fod yr adroddiad archwilio allanol wedi’i gyflwyno i ARAC ar 6 Hydref 2025.

Dywedodd CR fod yr Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu rhoi barn ddiamod, sef y lefel sicrwydd uchaf.

Canfuwyd nifer bychan o gamddatganiadau fel rhan o’r archwiliad, ac mae’r rhain wedi’u cywiro.

Bydd y llythyr sylwadau yn cael ei gyhoeddi a’i lofnodi gan y Bwrdd a’i gyflwyno i’r Archwilydd Cyffredinol gyda’r datganiadau ariannol, yn barod i’w llofnodi ddechrau mis Tachwedd.

Gofynnodd CR i aelodau’r Bwrdd gadarnhau nad oes unrhyw wybodaeth archwilio nad yw’r archwilwyr allanol yn ymwybodol ohoni, hyd y gwyddan nhw.

Fel Cadeirydd ARAC, llongyfarchodd MG dîm Adnodd am y farn ddiamod, a diolchodd i Archwilio Cymru ac i staff Adnodd am eu gwaith dygn, ac am greu perthynas weithio gref a fydd yn sylfaen i archwiliadau’r dyfodol.

Ar ran y Pwyllgor, dywedodd MG fod yr adroddiad archwilio allanol wedi’i argymell gan ARAC i’r Bwrdd i’w gymeradwyo.

Penderfyniad: Cymeradwyodd y Bwrdd adroddiad archwilio allanol ISA260.

3. Cyfrifon terfynol blwyddyn ariannol 2024/25

Cafodd cyfrifon drafft blwyddyn ariannol 2024/25 eu paratoi gan Azets ym mis Mai a’u hadolygu gan ARAC ym mis Mehefin 2025. Gwnaed nifer o ddiwygiadau cyn cyflwyno’r cyfrifon drafft i Archwilio Cymru, a ddaeth o hyd i nifer bychan o gamddatganiadau.

Cafodd y cyfrifon terfynol eu cyflwyno i ARAC ar 6 Hydref 2025 a’u hargymell i’r Bwrdd i’w cymeradwyo.

Cadarnhaodd KD fod yr holl gamddatganiadau oedd wedi’u canfod wedi’u cywiro, ac roedd Archwilio Cymru wedi cadarnhau cyfrifon terfynol 2024/25 ddydd Gwener 3 Hydref 2025.

Esboniodd KD y bydd y cyfrifon yn cynnwys nodyn yn egluro mai cyfieithiad yn unig yw’r fersiwn Gymraeg, ac nad yw’r fersiwn honno wedi’i harchwilio gan Archwilio Cymru.

Bydd fersiwn dwyieithog o’r cyfrifon yn cael eu cyhoeddi ar wefan Tŷ’r Cwmnïau. Bydd y cyfrifon yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wefan Adnodd, gyda’r fersiwn Gymraeg yn cynnwys ymwadiad yn nodi taw cyfieithiad yn unig ydy’r fersiwn hon, ac nad yw Archwilio Cymru wedi ei gwirio.

Penderfyniad: Cymeradwyodd y Bwrdd gyfrifon terfynol blwyddyn ariannol 2024/25.


Cyhoeddwyd yn wreiddiol
Diweddarwyd ddiwethaf
Lawrlwytho: 81.37 KB, PDFEfallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch