Neidio i'r prif gynnwy
English

Cyfarfod Pwyllgor ARAC Adnodd: 15 Ebrill 2026

Darllenwch gofnodion cyfarfod Pwyllgor ARAC Adnodd a gynhaliwyd ar 15 Ebrill 2026. Ymhlith y pynciau dan sylw roedd llywodraethu, archwilio mewnol ac allanol a rheoli risgiau wrth i Adnodd barhau i dyfu a chefnogi dysgwyr ac ymarferwyr ledled Cymru.

Cyhoeddwyd yn wreiddiol
Diweddarwyd ddiwethaf
Lawrlwytho: 149.55 KB, PDFEfallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch

Yn bresennol

Aelodau: Mair Gwynant, Cadeirydd (MG); Huw Jones (HJ); Nicola Wood (NW) 

Staff: Emyr George, Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu (EG),  

Kirsty Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol (KD) a Branwen Edwards (BE) 

Archwilwyr mewnol: Anjali Coombes (AC)  

1. Croeso ac ymddiheuriadau

1.1 Croesawodd MG bawb ir cyfarfod. Roedd ymddiheuriadau wedi dod i law gan Gethin Lloyd Evans. 

2. Datgan buddiannau ac adolygu’r Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch

2.1 Dywedodd MG ei bod wedi cael ei phenodi i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ers 1 Ebrill 2026. 

2.2 Datganodd pob aelod o staff wrthdaro buddiannau mewn perthynas ag eitem 14. 

Cam gweithredu: Nodi penodiad MG ar y gofrestr o fuddiannau. 

 

3. Adolygu’r cyfarfod blaenorol

14 Ionawr 2026 

3.1 Derbyniwyd y cofnodion fel cofnod gwir a chywir o’r trafodaethau. 

3.2 Rhoddodd KD drosolwg o’r camau gweithredu sy’n weddill. 

3.3 Nododd y Pwyllgor y cynnydd a wnaed o dan y camau gweithredu.

3.4 Nid oedd unrhyw faterion yn codi o’r cyfarfod blaenorol. 

4. Penderfyniad o bell ynghylch credyd Ffolio

4.1 Diolchodd KD i’r Pwyllgor am eu hymatebion prydlon a’u hadborth yn ystod y broses benderfynu o bell. 

4.2 Cadarnhaodd KD fod cymeradwyaeth gyfreithiol wedi’i rhoi ar gyfer y dyfarniad bach cychwynnol, ond na fydd Adnodd yn dyfarnu unrhyw gyllid pellach i Gyngor Llyfrau Cymru yn y fath fodd tan y bydd Darwin Gray wedi adolygu a datrys y pryderon ynghylch y posibilrwydd o ystumio’r farchnad a rheoli cymorthdaliadau.  

4.3 Nodwyd y cafwyd adborth cychwynnol cadarnhaol gan Gyngor Llyfrau Cymru, a bod disgwyl yr adroddiad cyntaf ym mis Ebrill a fydd yn rhoi arwydd o’r defnydd a wnaed o’r cynllun hyd yma. 

4.4 Dywedodd EG y bydd Adnodd a Chyngor Llyfrau Cymru yn cynnal cystadleuaeth yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd lle bydd ysgol yn gallu ennill credyd ar gyfer gwefan Ffolio. Bydd hyn yn amlygu’r bartneriaeth rhwng y ddau sefydliad ac yn codi ymwybyddiaeth am y wefan a chyfraniad Adnodd at y cynllun. 

4.5 Nododd y pwyllgor yn ffurfiol y penderfyniad o bell a wnaed ar 3 Mawrth 2026. 

5. Dyddiadur cydymffurfio

5.1 Dywedodd KD fod datganiad cadarnhau’r Cwmni wedi’i gyflwyno yn brydlon i Dŷ’r Cwmnïau. Nododd y Pwyllgor y camau gweithredu a gwblhawyd ar y dyddiadur cydymffurfio. 

Cam gweithredu: Adolygu a chadarnhau bod yr holl faterion wedi’u cynnwys yn y dyddiadur cydymffurfio.  

 

6. Adolygu rhaglen waith y Pwyllgor ar gyfer 2026-27

6.1 Adolygodd a derbyniodd y Pwyllgor y rhaglen waith ar gyfer 2026-27, yn amodol ar ychwanegu adroddiad sicrwydd blynyddol yr archwiliad mewnol at gyfarfod mis Mehefin. 

Cam gweithredu: Rhoi sylw i adroddiad sicrwydd blynyddol yr archwiliad mewnol yng nghyfarfod ARAC ym mis Mehefin, ochr yn ochr ag adroddiad blynyddol ARAC, gan gyflwyno’r ddau pan fydd yr archwilwyr allanol yn bresennol. 

7. Y Llawlyfr Llywodraethu: Y gofynion adrodd ar ddiwedd y flwyddyn

Y Cyfrifon Blynyddol 

7.1 Ar ôl trafodaethau â Thîm Cyllid Llywodraeth Cymru, cadarnhaodd KD fod yn rhaid i Adnodd baratoi cyfrifon sy’n cydymffurfio â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 a’r gofynion ychwanegol ar gyfer adrodd a datgelu a geir yn y Llawlyfr Adroddiadau Ariannol (FREM). 

7.2 Dywedodd KD ei bod wedi cynnal archwiliad o’r datgeliadau a’r adroddiadau angenrheidiol. Roedd adroddiad blynyddol a chyfrifon y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025 ar y cyfan yn cydymffurfio â’r gofynion, a bydd yr elfennau ychwanegol yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad blynyddol a’r cyfrifon nesaf ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026.    

7.3 Croesawodd y Pwyllgor yr atebion pendant a gafwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd yr aelodau’n falch o weld bod cyfrifon y llynedd yn cydymffurfio â’r gofynion i raddau helaeth. 

Y balansau arian parod ar ddiwedd y flwyddyn  

7.4 Roedd ymholiad ffurfiol wedi’i anfon at Lywodraeth Cymru ynghylch sut i drin balansau arian parod yn gywir ar ddiwedd y flwyddyn. Mae Tîm Cyllid Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod y terfyn goddefiant o 2% ar gyfer arian parod ar ddiwedd y flwyddyn yn golygu’n benodol yr arian parod sydd yn y banc ar 31 Mawrth yn y flwyddyn dan sylw. 

7.5 Rhag bod gan Adnodd fwy o arian parod na’r terfyn goddefiant o 2% o gyfanswm yr incwm ar 31 Mawrth, rhoddodd Llywodraeth Cymru anfoneb i Adnodd er mwyn adennill swm o arian parod gwerth £800,000. Bydd yr arian hwn ar gael i Adnodd fel rhan o’r Cymorth Grant a gaiff ei dynnu i lawr ym mis Ebrill. 

7.6 Nodwyd hefyd y bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal yn y flwyddyn ariannol newydd i sicrhau bod y lefel gywir o Gymorth Grant wedi’i neilltuo i Adnodd ar gyfer blwyddyn ariannol 2026/27. 

Penderfyniad: Derbyniodd ARAC y newidiadau yn y llawlyfr llywodraethu a nododd y newidiadau yn y ffordd y cyfrifir y 2% ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.  

8. Effeithiolrwydd y Pwyllgor: canfyddiadau’r holiadur

8.1 Dywedodd MG fod Arolwg ARAC 2025-26 yn dangos cryn hyder yn effeithiolrwydd cyffredinol y Pwyllgor.  

8.2 Mae’r arolwg yn tynnu sylw at risgiau sy’n gysylltiedig ag olyniaeth a fydd yn berthnasol cyn hir, ac at yr angen i roi hyfforddiant gwell i aelodau newydd a darpar aelodau i sicrhau bod y pwyllgor mewn sefyllfa gadarn.   

8.3 Mynegodd aelod bryder am lefel isel y tâl, a allai effeithio ar y gallu i recriwtio pobl i ARAC. 

8.4 Soniodd EG am y darn ehangach o waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i adolygu cyfraddau tâl ac amrywiaeth ar holl fyrddau sefydliadau cyhoeddus. 

Cam gweithredu: Holi’r Tîm Partneriaeth a ellid adolygu’r cyfraddau presennol yn sgil y cynnydd sylweddol yn y gyllideb ers sefydlu Adnodd. 

8.5 Dywedodd KD mai’r Tîm Partneriaeth a’r Uned Cyrff Cyhoeddus sy’n gyfrifol ar hyn o bryd am faterion sy’n ymwneud ag olyniaeth ar y Bwrdd. Mae gwaith a thrafodaethau mewnol yn mynd rhagddyn nhw i sicrhau bod Adnodd yn gallu llywio a chefnogi’r broses ar ôl i honno gael ei chymeradwyo. 

Cam gweithredu: Trafod yr opsiynau posibl ar gyfer galluogi aelodau presennol y Bwrdd i ymuno ag ARAC, gyda Chadeirydd y Bwrdd i helpu gyda’r broses bontio i sicrhau olyniaeth ar y Bwrdd. 

9. Y model hunanasesu: cynllun gweithredu

9.1 Rhoddodd KD grynodeb o’r cynllun gweithredu. Mae pedwar cam gweithredu wedi’u cwblhau ac mae’r saith arall ar y trywydd iawn i’w cwblhau’n brydlon. 

9.2 Disgwylir i’r cam gweithredu sy’n ymwneud â chyhoeddi polisi’r Gymraeg gael ei gwblhau y mis hwn. Mae’r polisi’n barod a bydd yn cael ei gyhoeddi, cyn belled â bod y Bwrdd yn cymeradwyo hynny yn ei gyfarfod ar 28 Ebrill. 

Cam gweithredu: Ychwanegu cynllun gweithredu’r model hunanasesu at daenlen yr argymhellion archwilio er mwyn monitro’r cynnydd. 

10. Archwilio mewnol

Adroddiad archwilio rheoli contractau 

10.1 Rhoddodd AC grynodeb o’r adroddiad archwilio rheoli contractau. Roedd yr archwiliad yn rhoi ‘sicrwydd rhesymol’. Yn gyffredinol, dywedwyd bod y gwaith rheoli contractau yn cael ei wneud yn dda, a bydd y sylwadau yn yr adroddiad yn rhoi cyfleoedd i gryfhau’r arferion hyn. 

10.2 Dywedodd KD fod y canfyddiadau’n deg ac y bydd y model comisiynu yn cael ei adolygu i gryfhau dull Adnodd o weithio yn hyn o beth, gyda’r broses ffurfiol i ddysgu gwersi yn dod yn rhan o hynny. 

Cam gweithredu: Sicrhau bod yr holl staff yn dilyn modiwl hyfforddiant caffael coleg y Llywodraeth.  

10.3 Derbyniodd ARAC yr adroddiad archwilio mewnol a nododd yr argymhellion. Bydd y Pwyllgor yn monitro’r cynnydd a wneir wrth gyflawni’r argymhellion hynny’n ofalus. 

Archwilio mewnol: cofnod o’r camau gweithredu 

10.4 Dywedodd KD fod pump o’r camau gweithredu o’r archwiliad o’r trefniadau llywodraethu wedi’u cwblhau, ac mae’r camau gweithredu sy’n ymwneud â rheoli contractau wedi’u hychwanegu. 

10.5 Cafodd y Pwyllgor sicrwydd fod y camau gweithredu a ddeilliodd o’r archwiliad o’r trefniadau llywodraethu wedi’u cwblhau.  

Cynllun archwilio mewnol 2026-27 

10.6 Rhoddodd AC grynodeb o’r papur a dywedodd y bydd y cynllun archwilio yn canolbwyntio ar y prif risgiau wrth geisio cyflawni amcanion Adnodd. Dywedodd mai’r bwriad oedd cynnal archwiliadau o’r trefniadau llywodraethu gwybodaeth a’r prosesau ariannol, gyda thrydydd archwiliad yn arwain at gynnal adolygiad annibynnol o’r argymhellion hyd yn hyn. 

10.7 Yn dilyn ymholiadau gan aelodau am y risgiau sy’n dod i’r amlwg, cytunwyd y dylid edrych ar waith cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn 2026-27, sy’n gynharach na’r bwriad gwreiddiol. 

Penderfyniad: Cytunodd y Pwyllgor ar gynllun archwilio terfynol 2026-27, a fyddai’n golygu cynnal tri archwiliad yn ystod y flwyddyn: dau archwiliad sicrwydd yn edrych ar y trefniadau llywodraethu gwybodaeth a’r trefniadau rheoli ariannol, ac un archwiliad ymgynghorol yn edrych ar waith ymgysylltu a chyfathrebu. 

10.8 Diolchodd AC i’r tîm ar ddiwedd blwyddyn gyntaf y prosesau archwilio mewnol. 

11. Y Gofrestr Risgiau

Y Gofrestr Risgiau Twyll 

11.1 Yn dilyn yr adolygiad gan y Pwyllgor ym mis Ionawr, dywedodd KD fod yr archwilwyr mewnol hefyd wedi rhoi adborth am sut i gryfhau’r Gofrestr Risgiau Twyll ymhellach.  

11.2 Mae sesiwn hyfforddi ar atal twyll wedi’i threfnu ar gyfer staff ac aelodau’r Bwrdd ar 7 Mai. Bydd y Gofrestr Risgiau Twyll yn cael ei diweddaru ar ôl y gweithdy hwn i adlewyrchu’r holl awgrymiadau a’r adborth a ddaeth i law hyd yma. 

11.3 Bydd y Gofrestr Risgiau Twyll yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Mehefin ar gyfer cynnal adolygiad interim, gan nad yw’r adolygiad llawn nesaf wedi’i drefnu tan fis Ionawr 2027. 

Y cofnod o broblemau 

11.4 Esboniodd KD fod problem wedi’i chanfod gyda chyfraniadau pensiwn wrth archwilio’r gyflogres ym mis Chwefror. Roedd pedwar gweithiwr wedi bod yn talu’r cyfraniadau pensiwn anghywir oherwydd problemau gyda chyfrifiadau yn nhaenlen gyflogres Azets. Mae’r mater wedi’i ddatrys, ac mae’r gweithwyr dan sylw wedi cael gwybod ac wedi cael eu cefnogi drwy’r broses. 

11.5 Mae Azets bellach wedi cyflwyno archwiliadau sicrhau ansawdd pellach, ar lefel uwch, ar gyfer y gyflogres, tra bo Adnodd wedi cryfhau’r archwiliadau a’r prosesau mewnol.  

Cam gweithredu: Sicrhau nad yw’r sefyllfa wedi effeithio ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol gweithwyr a rhoi gwybodaeth am Bensiwn y Gwasanaeth Sifil. 

Y Gofrestr Risgiau 

11.6 Dywedodd KD fod y Gofrestr Risgiau wedi’i diweddaru ar ôl cynnal adolygiad mewnol llawn o’r gofrestr bresennol. 

11.7 Rhoddodd KD grynodeb o’r gofrestr newydd, sy’n cynnwys 10 risg. Mae pump ohonyn nhw wedi’u cario drosodd o’r gofrestr flaenorol.   

Llinell i – Gwybodaeth (diogelu data a seiberddiogelwch) Rhoddodd KD ddiweddariad am faterion seiberddiogelwch a’r oedi yr adroddwyd yn flaenorol yn ei gylch, yn gysylltiedig â thîm Hwb: 

  • Rydyn ni wedi llwyddo i gael ein hachredu eto o dan IASME Lefel 1 a Cyber Essentials. Mae disgwyl cynnal asesiad Cyber Essentials Plus ddydd Gwener 24 Ebrill.  
  • Mae Adnodd ar y trywydd iawn i gyrraedd IASME Lefel 2 o fewn yr amserlen. 
  • Mae’r trafodaethau’n parhau gyda Hwb am faterion eraill fel cadw data. 

Cam gweithredu: Adolygu’r elfennau aneffeithlon yn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth gyda Hwb, a rheoli’r contract yn unol â hynny. 

11.8 Dywedodd MG fod swyddogion Hwb wedi egluro bod y broblem yn ymwneud â’u capasiti i roi gwasanaethau cymorth TG, a’u bod wedi rhoi sicrwydd ynghylch diogelwch y system ei hun.  Dywedodd swyddogion hefyd fod Platfform Addysgol Hwb, sy’n cael ei ddefnyddio gan Adnodd i gadw’i adnoddau, yn system sy’n gyfan gwbl ar wahân.  Gofynnodd y Cadeirydd i’r tîm barhau i roi sicrwydd i’r Pwyllgor ynghylch seiberddiogelwch. 

Cam gweithredu: Edrych eto ar y risgiau manwl yn y tab seiberddiogelwch. 

Llinell iv – Cyllid a’r capasiti gweithredu 

Cam gweithredu: Ystyried ychwanegu cymal at y llythyrau ariannu yn esbonio y bydd cyllid gan Adnodd ar gyfer contractau aml-flwyddyn yn ddibynnol ar gael cyllid gan Lywodraeth Cymru yn y blynyddoedd nesaf. 

Cam gweithredu: Trefnu trafodaeth am gomisiynau aml-flwyddyn mewn cyfarfod yn y dyfodol wrth adolygu prosesau’r contractau comisiynu, a’r goblygiadau i Adnodd yn fwy cyffredinol  

11.9 Nododd ARAC y Gofrestr Risgiau ddiweddaraf a’r sicrwydd a roddwyd ynghylch llinellau i. a iii.. Croesawodd y Pwyllgor y risgiau sydd wedi’u hadnewyddu ar y Gofrestr Risgiau, a bydd yn trefnu archwiliadau dwfn o’r risgiau unigol maes o law. 

Cam gweithredu: Adolygu’r amserlen a’r sgoriau yn y Gofrestr Risgiau. 

12. Adolygu’r polisi rheoli risgiau

12.1 Cadarnhaodd KD fod argymhellion yr archwilwyr mewnol wedi’u hadlewyrchu yn y polisi diwygiedig. 

Penderfyniad: Cytunodd ARAC i argymell y polisi i’r Bwrdd i’w gymeradwyo. 


Cyhoeddwyd yn wreiddiol
Diweddarwyd ddiwethaf
Lawrlwytho: 149.55 KB, PDFEfallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch