Egwyddorion Sicrhau Ansawdd
Proses barhaus, strwythuredig yw sicrhau ansawdd, a honno’n cael ei defnyddio i osod, cynnal a monitro safonau fel bod cynhyrchion yn ddibynadwy yn y modd y byddan nhw’n cyflawni disgwyliadau defnyddwyr a’r gofynion a ddiffiniwyd.
Yng nghyd-destun adnoddau addysgol, mae hyn yn cynnwys asesu cywirdeb, perthnasedd, dyluniad ac effeithiolrwydd cyffredinol deunyddiau addysgu a dysgu, gan ein galluogi i gyflawni’r canlynol:
- Gwell deilliannau dysgu: adnoddau sy’n gywir, sy’n ddifyr, ac sy’n cyd-fynd yn llwyr â’r Cwricwlwm i Gymru
- Mwy o degwch: deunyddiau cynhwysol, hygyrch sydd wedi’u dylunio gyda’r holl ddysgwyr mewn golwg
- Mwy o hyder ymhlith ymarferwyr: adnoddau dibynadwy sy’n hawdd eu defnyddio ac yn effeithiol
- Hygrededd cryfach: safonau cyson uchel drwy’r holl ddeunyddiau cyhoeddedig a hynny’n meithrin ymddiriedaeth ac enw da
Mae sicrhau ansawdd yn broses ragweithiol, sy’n golygu canolbwyntio ar ofalu bod pethau’n iawn o’r dechrau’n deg. Gwneir hynny drwy gael systemau cryf, dibynadwy sy’n helpu i atal problemau drwy gydol y gwaith datblygu. Mae’n sail i bopeth rydyn ni’n ei wneud, a phopeth rydyn ni’n gofyn i grewyr adnoddau ei wneud.
Egwyddorion Cyffredinol
Rydyn ni wedi datblygu deg egwyddor gyffredinol i helpu cyflenwyr i greu ac adolygu adnoddau. Mae’r rhain yn rhoi sylfaen gyffredin sy’n cadw ansawdd yn gyson ar bob prosiect, ym mhob fformat, ac yng ngwaith pob partner.
1. Dylunio sy’n seiliedig ar waith ymchwil ac anghenion
- Defnyddiwch waith ymchwil, gwybodaeth gan ddefnyddwyr, ac adborth gan ymarferwyr yn sail i’ch dealltwriaeth o anghenion dysgwyr ac ymarferwyr.
- Dangoswch sut mae’r wybodaeth hon yn dylanwadu ar bwrpas, strwythur, cynnwys a fformat yr adnodd.
- Defnyddiwch ddulliau penodol (e.e. arolygon, cyfweliadau, profion, ymchwil desg) a gofalwch fod pob un yn llywio’ch penderfyniadau pwysig.
Tystiolaeth o lwyddiant: Cysylltiad clir rhwng anghenion defnyddwyr, penderfyniadau dylunio a’r adnodd terfynol.
2. Dull sy’n canolbwyntio ar y dysgwr
- Dangoswch eich bod wedi rhoi ystyriaeth ofalus i gyd-destunau, cymhellion, camau cynnydd a llwybrau dysgu amrywiol dysgwyr.
- Ewch ati i leihau’r llwyth gwybyddol drwy iaith glir, cynllun meddylgar, strwythur rhesymegol a rhyngweithiadau syml sy’n dilyn greddf.
- Ystyriwch sut bydd yr adnodd yn cael ei ddefnyddio mewn lleoliadau dysgu go iawn i gefnogi ac ysbrydoli addysgu a dysgu effeithiol.
Tystiolaeth o lwyddiant: Adnodd sy’n teimlo’n bwrpasol, yn glir ac wedi’i ddylunio’n wirioneddol gyda dysgwyr mewn golwg.
3. Perthnasedd i’r cwricwlwm a phwrpas y dysgu
- Dylai’ch cynnwys gyd-fynd yn glir ac yn gywir â’r Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys y Meysydd Dysgu a Phrofiad perthnasol, camau cynnydd, deilliannau dysgu arfaethedig, a sgiliau trawsgwricwlaidd.
- Cyfiawnhewch y dewis o themâu a phynciau fel eu bod yn bwrpasol, yn ystyrlon ac yn briodol ar gyfer cyd-destun arfaethedig y dysgu.
- Gofalwch fod y cynnwys yn cyd-fynd â chamau cynnydd ac yn adlewyrchu egwyddorion dylunio cwricwlwm effeithiol.
Tystiolaeth o lwyddiant: Cynnwys sydd â chysylltiad amlwg â’r Cwricwlwm i Gymru ac sy’n hybu dysgu pwrpasol, blaengar.
4. Ansawdd yr iaith ac adnoddau sy’n addas i’r dysgwyr
- Defnyddiwch iaith sy’n briodol i’r grŵp oedran targed, gan osgoi cymhlethdod diangen, ymadroddion rhy ffurfiol, termau anghyfarwydd neu iaith lafar anfwriadol.
- Gofalwch fod tôn, strwythur ac arddull gyson i’r holl elfennau ysgrifenedig, llafar a rhyngweithiol.
- Rhowch flaenoriaeth i iaith glir, gryno er mwyn helpu pobl i ddeall, ac er mwyn lleihau’r llwyth gwybyddol i ddysgwyr.
- Gofalwch fod terminoleg, cyfeiriadau diwylliannol a chynrychioliadau yn gywir ac yn dangos parch.
Tystiolaeth o lwyddiant: Iaith sy’n hygyrch, sy’n taro’r nod, ac sy’n hybu dealltwriaeth dysgwyr yn y Gymraeg a’r Saesneg.
5. Visual design and content accuracy
- Defnyddiwch arddulliau dylunio gweledol a darluniau sy’n addas i’r ystod oedran arfaethedig.
- Gofalwch fod y gwaith celf a’r delweddau’n gynhwysol, yn amrywiol ac yn adlewyrchu dysgwyr a chymunedau yng Nghymru.
- Defnyddiwch ddulliau teiposod, cynlluniau, teipograffeg a dewisiadau lliw sy’n hybu hygyrchedd ac yn gwella profiad y defnyddiwr.
- Gofalwch fod yr adnodd yn gywir ym mhob fformat (o ran testun, delweddau, sain, fideo, a chapsiynau caeedig), gan osgoi gwallau ffeithiol, gramadegol a thechnegol.
- Dylai’r cynnwys fod wedi’i seilio ar gyd-destun Cymru pan fydd hynny’n berthnasol, gan gynnwys polisïau cyhoeddus, pobl, cymunedau a phrofiadau bywydau pobl Cymru, fel bod yr adnodd yn teimlo’n ddilys ac yn ystyrlon i ddysgwyr yng Nghymru.
- Ewch ati i olygu, prawfddarllen a gwirio’r ansawdd yn drylwyr i sicrhau cysondeb ac eglurder ac i ofalu nad oes gwallau yn y cynnyrch terfynol, a hynny yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Tystiolaeth o lwyddiant: Cynnwys a delweddau cynhwysol, cywir ac o ansawdd da. Bydd defnyddwyr yn gallu ymddiried ynddyn nhw a byddan nhw’n gwella’r profiad dysgu.
6. Adnoddau sy’n hawdd i’w defnyddio, yn dilyn greddf, ac yn gyson
- Rhowch ffyrdd clir o lywio a rhyngweithio fel bod dysgwyr ac ymarferwyr yn deall pethau’n gyflym
- Gofalwch fod golwg, teimlad ac ymddygiad cyffredinol yr holl adnodd yn gyson ac yn gydlynol.
- Gofalwch fod yr un profiad yn union i’w gael yn y fersiynau Cymraeg a Saesneg, gan gynnwys o ran y cynllun, y ffyrdd o lywio, a pha mor rhwydd yw’r adnodd i’w ddefnyddio’n gyffredinol.
Tystiolaeth o lwyddiant: Adnodd sy’n hawdd i’w ddefnyddio, sydd ddim yn gofyn am lawer o gyfarwyddiadau i’w ddefnyddio, ac sy’n gyson yn y ddwy iaith.
7. Adnoddau cynhwysol, hygyrch a chynrychioliadol
- Dangoswch fod holl elfennau’r adnodd yn cydymffurfio â safonau hygyrchedd cydnabyddedig (e.e.WCAG 2.2 AA), gan gynnwys y deunydd amlgyfrwng, yr iaith, y dyluniad, y ffyrdd o ryngweithio, a’r cynllun
- Dyluniwch ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), fel y gall pob dysgwr, waeth beth fo’i allu a’i gefndir, ymwneud â’r adnodd mewn ffordd ystyrlon.
- Gofalwch fod y cynrychioliadau’n amrywiol ac yn berthnasol, a’r rheini’n adlewyrchu dysgwyr yng Nghymru.
- Ewch ati i ddylunio’n ddwyieithog o’r dechrau’n deg i sicrhau bod adnoddau yr un mor ymarferol, bod eu hansawdd yr un fath, a bod modd eu defnyddio yn yr un modd yn y ddwy iaith.
Tystiolaeth o lwyddiant: Adnodd y gall pob dysgwr ei ddefnyddio ac sy’n berthnasol i bob dysgwr, yn ymarferol ac yn ddiwylliannol.
8. Materion diogelu, preifatrwydd a llesiant
- Sicrhewch fod pob agwedd ar yr adnodd yn gofalu am ddiogelwch, preifatrwydd a llesiant dysgwyr, a hynny ar-lein ac all-lein ill dau.
- Cyflwynwch gamau diogelu yn y cynnwys, yn llwybrau’r dysgwyr, yn y modd y bydd dysgwyr yn rhyngweithio â’r adnodd, ac yn y modd y caiff data eu trin.
- Rheolwch fynediad a’r modd y bydd dysgwyr yn rhyngweithio â’r adnodd fel eu bod yn ymwneud â’r adnodd mewn ffordd ddiogel a phriodol, heb iddyn nhw ddod i gysylltiad â deunydd niweidiol.
- Anelwch am y safonau diogelu uchaf wrth greu’r cynnwys, wrth ddylunio’r elfennau rhyngweithiol, ac wrth drin data, gan helpu dysgwyr i ymwneud â’r adnodd mewn ffordd ddiogel a pharchus.
Tystiolaeth o lwyddiant: Adnodd sy’n ddiogel yn sgil ei ddyluniad ac sy’n diogelu dysgwyr ym mhob cam.
9. Dibynadwyedd technegol a pherfformiad yn y byd go iawn
- Gofalwch fod yr adnodd yn gweithio’n ddibynadwy mewn amgylchiadau ysgol go iawn, gan gynnwys ar wahanol ddyfeisiau, gwahanol systemau gweithredu a phorwyr, ar sgriniau o wahanol feintiau, a gyda gwahanol lefelau cysylltedd.
- Rhowch fynediad teg fel bod modd i ddysgwyr ddefnyddio’r adnodd mewn ffordd gyson, a bod ei ansawdd yn gyson, waeth beth fo’r cyfyngiadau technegol sy’n eu hwynebu.
Tystiolaeth o lwyddiant: Adnodd sy’n gweithio’n esmwyth mewn amgylchiadau ysgol go iawn, ac nid yn y rhai delfrydol yn unig.
10. Proses barhaus sy’n canolbwyntio ar brofiad y defnyddiwr (UX)
- Ewch ati i ystyried gwaith ymchwil, profion ac adborth defnyddwyr o’r dechrau’n deg, a pharhau i wneud hynny drwy’r holl waith datblygu, fel bod llais y defnyddiwr yn parhau’n ganolog i’r broses.
- Defnyddiwch adborth gan ddysgwyr, ymarferwyr a rhanddeiliaid i fynd ati’n gyson i wella cynnwys, tôn, hygyrchedd a defnyddioldeb yr adnodd.
- Dyluniwch adnoddau fel bod modd eu golygu a’u haddasu, ac fel eu bod yn hyblyg mewn cyd-destunau amrywiol, wrth eu defnyddio gyda gwahanol ddulliau addysgu, ac fel eu bod yn cyd-fynd ag anghenion amrywiol dysgwyr.
- Cynlluniwch i werthuso a mireinio’r adnodd yn barhaus.Dyluniwch yr adnodd fel y bydd yn para a fel y bydd modd ei ailddefnyddio, ac er mwyn gallu adnewyddu a diweddaru’r deunyddiau heb fod angen ailddatblygu’r holl adnodd.
Tystiolaeth o lwyddiant: Tystiolaeth glir bod defnyddwyr wedi dylanwadu ar yr adnodd mewn ffordd gyson ac mewn ffordd y gellir ei mesur.
Cadwch mewn cysylltiad â ni
Cewch y newyddion diweddaraf gan Adnodd wrth i ni gefnogi Cwricwlwm i Gymru.