Ein proses gomisiynu
Dysgwch sut mae rydyn ni yn comisiynu adnoddau — a sut allwch chi gymryd rhan.
Ein dull o gomisiynu
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Llythyr Cylch Gwaith, sy’n cynnwys amcanion gweithredol Adnodd ar gyfer tymor y Senedd. Bob blwyddyn, rydym hefyd yn derbyn Llythyr Ariannu gan y Llywodraeth sy’n nodi’r blaenoriaethau a’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod. Gyda’i gilydd, mae’r dogfennau hyn yn gosod sylfaen a chyd-destun i’n rhaglen gomisiynu.
Mae ein penderfyniadau comisiynu yn seiliedig ar dystiolaeth o’r sector addysg. Rydym yn nodi bylchau yn y ddarpariaeth, yn dadansoddi sut mae adnoddau presennol yn cael eu defnyddio, ac yn asesu pa mor dda ydynt yn diwallu anghenion ymarferwyr a dysgwyr.
Mae ymchwil hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth lywio ein penderfyniadau a nodi cyfleoedd newydd. Trwy gyfuno tystiolaeth ac ymchwil, rydym yn sicrhau bod y gwaith rydym yn comisiynu yn cefnogi dysgu ac addysgu yn uniongyrchol.
Sut rydym yn comisiynu
Trwy rowndiau comisiynu rheolaidd, rydym yn gweithio gyda chyflenwyr o bob math i greu adnoddau dwyieithog o ansawdd da sy’n cyd-fynd ag anghenion dysgwyr ac ymarferwyr ac yn cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru.
Yn dibynnu ar yr angen, byddwn yn comisiynu naill ai drwy gystadleuaeth agored, neu drwy ein Fframwaith Gaffael. Rydyn ni wedi sefydlu Fframwaith agored sy’n cynnwys cyflenwyr; crewyr cynnwys creadigol; darparwyr yn y maes ymchwil, data a gwerthuso; ac ymgynghorwyr o’r sector addysg a’r tu hwnt. Byddwn yn defnyddio fframwaith i gaffael nwyddau a gwasanaethau, ac yn benodol i gomisiynu adnoddau addysgol; cynnwys creadigol; prosiectau ymchwil, gwerthuso a data; a gwasanaethau ymgynghori, a hynny’n unol â’r telerau ac amodau ar gyfer caffael yn ôl y gofyn.
Sefydlwyd y Fframwaith am gyfnod o bedair blynedd, ac bydd yn cael ei ail agor yn rheolaidd er mwyn galluogi cyflenwyr newydd i ymuno. Mae rhagor o wybodaeth ar y Fframwaith ar gael yma.
Rydym yn cyhoeddi pob cyfle comisiynu ar GwerthwchiGymru, sef platfform caffael sector cyhoeddus Cymru.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflwyno cais, rydym yn eich annog i greu cyfrif ar GwerthwchiGymru ac i ymgyfarwyddo â’r platfform.
Gallwch weld ein holl gyfleoedd yn adran cyfleoedd comisiynu ar ein gwefan. Rydym hefyd yn rhannu gwybodaeth am gyfleoedd newydd drwy ein cylchlythyr, Ymunwch â’n cymuned.
Ein partner caffael
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw ein partner caffael, ac rydym yn defnyddio systemau caffael y Cyngor. Rôl y Cyngor yw darparu cymorth arbenigol, ymarferol a gweinyddol i gefnogi ein prosesau tendro a gwerthuso.
Mae’r broses ymgeisio yn cynnwys dau gam:
Cam 1 – Cofrestru ar y Platfform digidol canolog.
Rhaid i unrhyw sefydliad sy’n dymuno gweithio gydag Adnodd gofrestru ar y platfform. Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn Cod Rhannu, a bydd angen hwn arnoch i symud ymlaen i’r cam nesaf.
Cam 2 – Defnyddio’r system e-dendro Proactis
Dyma lle byddwch yn gweld cyfleoedd tendro cyfredol, lawrlwytho’r dogfennau perthnasol, a chyflwyno eich cais.
Os ydych yn ddefnyddiwr newydd, bydd angen i chi greu cyfrif ar Proactis gan ddefnyddio’r cod rhannu a gawsoch wrth gofrestru. Os oes gennych gyfrif eisoes, gallwch fewngofnodi yma.
Gyda phwy rydym yn gweithio
Rydym yn croesawu cynigion gan ystod eang o unigolion a sefydliadau — gan gynnwys cyhoeddwyr, cwmnïau cynhyrchu, gweithwyr llawrydd, arbenigwyr pwnc, a thimau creadigol.
Rhaid i bob ymgeisydd ddangos dealltwriaeth o anghenion dysgwyr ar draws ystod o gyd-destunau, gan gynnwys lleoliadau cyfrwng Cymraeg a dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Mae ein hymchwil yn dangos bod defnyddwyr eisiau deunyddiau sy’n hawdd eu canfod, eu defnyddio a’u haddasu — mae hyn i fod yn ystyriaeth allweddol ym mhob comisiwn.
Rydym hefyd yn cefnogi modelau ariannu newydd a chreadigol sy’n annog cydweithio ac arloesedd wrth ddatblygu adnoddau.
Gallwch ddysgu fwy am ein disgwyliadau ansawdd ar ein tudalenau sicrhau ansawdd.