Cyfleoedd comisiynu
Ers mis Medi 2025, mae Adnodd wedi buddsoddi bron i £3 miliwn mewn adnoddau addysgol o ansawdd uchel i ddysgwyr ac ymarferwyr ledled Cymru.
Yr hydref hwn, rydym yn lansio cyfleoedd comisiynu newydd sydd werth tua £750,000, ac maent yn canolbwyntio ar:
- Llythrennedd
- Rhifedd
- Cymwysterau newydd
- Llesiant a gwrth-hiliaeth
Dim ond i’r cyflenwyr sydd ar ein Fframwaith Caffael y bydd rhai o’r cyfleoedd hyn ar gael. Bydd eraill ar gael drwy gystadlaethau agored y gall pob darparwr gynnig amdanynt.
Peidiwch â digalonni os ydych chi wedi colli’r cyfle i wneud cais i ymuno â Fframwaith Caffael Adnodd. Byddwn yn ailagor y Fframwaith yn 2027, gan roi cyfle arall i gyflenwyr wneud cynnig.