Adnodd yn penodi Kirsty Davies yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol
Mae Adnodd wedi penodi Kirsty Davies fel ein Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol newydd. Bydd Kirsty yn goruchwylio’r gwaith o gyflawni swyddogaethau corfforaethol Adnodd yn effeithiol fel rhan o’n cenhadaeth i ddarparu adnoddau dwyieithog o ansawdd uchel sy’n cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru.
Gyda chefndir nodedig mewn arweinyddiaeth gorfforaethol, daw Kirsty â phrofiad helaeth ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan wasanaethu’n fwyaf diweddar fel Pennaeth Gweithrediadau’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol.
Yn ei rôl newydd, bydd Kirsty yn sicrhau bod swyddogaethau corfforaethol Adnodd yn cael eu rheoli’n dda ac yn cyd-fynd â’n cenhadaeth. Bydd yn goruchwylio meysydd hollbwysig gan gynnwys rheolaeth ariannol, adnoddau dynol, TG, cydymffurfiaeth, a llywodraethu, gan gefnogi rhediad llyfn ac effeithlon ein sefydliad.
Bydd arweiniad Kirsty yn y meysydd hyn yn hanfodol wrth i Adnodd barhau i dyfu a chynyddu ei effaith ar addysg Gymraeg. Bydd ei harbenigedd yn ein galluogi i sefydlu Adnodd fel cwmni ystwyth ac effeithiol sy’n darparu adnoddau gwerthfawr a graenus fydd yn caniatáu dysgwyr ac ymarfewryr i gael y mwyaf o’r Cwricwlwm i Gymru.