Neidio i'r prif gynnwy
English
Lleucu Siencyn

Ymunodd Lleucu Siencyn ag Adnodd yn 2024 fel Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyflawni. Daw Lleucu â’i harbenigedd o ddatblygu strategaethau ac ymgyrchoedd yn y sector creadigol, ac mae ei rolau blaenorol yn cynnwys Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru a Chyfarwyddwr Datblygu’r Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru. Yn 2023, cafodd ei henwi yn un o 100 o Ysgogwyr Newid Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae hi ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer Diploma Lefel 7 Arwain a Rheoli ILM ym Mhrifysgol De Cymru.