Ymunwch â’n hymchwil a helpu i lunio dyfodol addysg yng Nghymru

Mae Adnodd a Miller Research yn ymchwilio i sut mae athrawon a dysgwyr yn defnyddio Hwb a llwyfannau eraill i chwilio am adnoddau addysgol a’u defnyddio.
Rydyn ni’n rhoi pobl wrth galon popeth a wnawn, gan weithio’n agos gyda dysgwyr, athrawon, a rhieni a gofalwyr i ddeall yr hyn sydd ei angen arnoch chi go iawn. Trwy gynnal gweithdai, casglu adborth, a defnyddio arolygon, rydym yn cynnwys y gymuned addysg bob cam o’r ffordd, gan sicrhau eu bod yn chwarae rhan allweddol wrth lunio a gwella’r hyn rydym yn ei greu.
Ydych chi’n addysgwr yng Nghymru? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych! Mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd ar y gweill i chi gymryd rhan ynddynt, gan gynnwys prosiectau ymchwil a grwpiau ffocws ar-lein.
Cofrestrwch eich diddordeb yma a dweud eich dweudYmchwil i ddod
Gweithdai
Gan ddechrau Chwefror 2025, bydd y gweithdai hyn yn archwilio sut mae addysgwyr yn canfod, addasu, a rhannu adnoddau, gan gynnwys sut mae rhwydweithiau athrawon yn cefnogi’r broses hon.
Sesiynau adborth defnyddwyr
Trwy sesiynau byw a rhai wedi’u recordio, byddwn yn dysgu sut mae addysgwyr, rhieni a gofalwyr, a dysgwyr yn cyrchu ac yn defnyddio adnoddau addysgol.
Arolygon
Bydd arolygon ar-lein yn casglu mewnwelediadau gwerthfawr gan ymarferwyr, rhieni a gofalwyr, a dysgwyr am eu profiadau gydag adnoddau addysgol.
Sut i gymryd rhan
Mae eich mewnbwn yn bwysig! Rydym yn cynnig cymhellion o hyd at £40 ar gyfer grwpiau ffocws a sesiynau adborth wedi’u safoni.
Gwasgwch ar y ddolen isod i gwblhau arolwg byr. Os caiff ei ddewis, bydd aelod o dîm Miller Research yn cysylltu â chi.
Cofrestrwch eich diddordeb yma
Gall eich barn ein helpu i greu profiadau dysgu gwell i bawb.
