Neidio i'r prif gynnwy
English

Cais i gyhoeddi adnoddau ar Hwb

Oes gennych chi adnodd a allai gefnogi dysgu yng Nghymru? Os hynny, bydden ni wrth ein boddau’n cael golwg arno!

Yn Adnodd, nid comisiynu cynnwys o ansawdd da yn unig ydyn ni – mae croeso i bobl gyflwyno adnoddau i ni sy’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru. Bydd yr adnoddau sy’n llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi ar Hwb, platfform digidol Llywodraeth Cymru ar gyfer addysgu a dysgu, lle byddan nhw ar gael yn rhad ac am ddim i ymarferwyr, dysgwyr a’u teuluoedd drwy Gymru.

Os oes gennych chi adnodd i’w rannu, fe allwch chi ei gyflwyno gan ddefnyddio’r opsiwn isod. Cyn gwneud hynny, darllenwch y canllawiau ar y dudalen hon i sicrhau bod eich adnodd yn cyrraedd y safonau gofynnol.Byddwn ni’n edrych yn ofalus ar bob adnodd, er na fydd popeth a gaiff ei gyflwyno’n addas i’w gyhoeddi.

Rydyn ni’n croesawu amrywiaeth eang o adnoddau

Rydyn ni’n croesawu adnoddau mewn amrywiaeth eang o bynciau a Meysydd Dysgu a Phrofiad, yn ogystal ag adnoddau sy’n hybu sgiliau trawsgwricwlaidd ac sy’n dod mewn amrywiaeth o fformatau. Er hynny, ein meysydd ffocws strategol yw llythrennedd, tegwch a gwrth-hiliaeth, a byddwn ni’n croesawu’n arbennig adnoddau sy’n edrych ar un neu ragor o’r themâu hyn mewn pwnc.

Dyma rai o’r adnoddau diweddaraf sydd wedi’u cyhoeddi ar Hwb drwy’r broses hon

Adnoddau addysgu amlieithog

Adnoddau addysgu amlieithog ar gyfer dysgwyr cynradd ac uwchradd, sy’n defnyddio gwrthrychau i archwilio  Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Cymraeg a diwylliannau byd-eang.

Eich Cynefin: canllaw ymchwil hanes

Mae’r adnodd hwn gan Amgueddfa Cymru yn cyflwyno camau syml a hygyrch i ddysgwyr ymchwilio i’w hanes eu hunain ar-lein.

Cyflwyno adnoddau ar gyfer dyddiadau pwysig

Mae modd i chi wneud cais i gyhoeddi ar Hwb unrhyw bryd. Pan fydd adnoddau’n gysylltiedig â dyddiadau penodol, cyflwynwch eich ceisiadau o leiaf chwe wythnos cyn y digwyddiad dan sylw.

Gweld y calendr llawn ar Hwb

Canllawiau defnyddiol i greu adnoddau o ansawdd da

Efallai mai datblygu deunyddiau newydd ydych chi, neu eich bod yn rhoi graen ar adnoddau sy’n bodoli’n barod. Y naill ffordd neu’r llall, mae’r canllawiau hyn yn rhoi fframwaith clir i’ch helpu i symud o’r syniad cychwynnol i’r fersiynau terfynol. Defnyddiwch nhw i sicrhau bod ansawdd eich holl waith yn dda.

Egwyddorion Sicrhau Ansawdd

Mae ein Hegwyddorion Sicrhau Ansawdd yn egluro’r sylfeini ar gyfer sicrhau bod ansawdd eich gwaith yn dda o’r dechrau’n deg. Maen nhw’n helpu pobl i weithio mewn ffordd gyson, i ddilyn prosesau cadarn, ac i sicrhau bod ansawdd ein holl adnoddau’n dda.

Gweld yr Egwyddorion Sicrhau Ansawdd

Rhestr Wirio cyn Cyhoeddi

Mae’r Rhestr Wirio cyn Cyhoeddi yn egluro pa feini prawf fydd yn cael eu defnyddio i asesu eich adnoddau cyn eu cyhoeddi. Defnyddiwch y rhestr hon i ofalu eich bod yn cydymffurfio, ac i’ch helpu i gyflwyno adnoddau’n hyderus.

Gweld y Rhestr Wirio cyn Cyhoeddi

Cais i gyflwyno eich adnodd i Hwb

Cyn cyflwyno’ch adnodd, gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen a deall y wybodaeth ar y dudalen hon, ynghyd ag unrhyw ddogfennau canllawiau ategol. Yn ystod y broses ymgeisio, efallai y gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth eich bod wedi adolygu a deall y gofynion hyn. Gall ddiffyg tystiolaeth ar y rhan yma atal eich cais rhag symud ymhellach.

Cyflwyno eich cais am adolygiad

Pan fyddwch chin dewis ‘Cyflwyno’ch cais’, byddwch yn cael eich cyfeirio at ffurflen arlein. Wrth i chi gwblhaur ffurflen, bydd gwiriadau cymhwysedd yn helpu i nodi a ywch adnodd yn cyrraedd y meini prawf gofynnol cyn ei gyflwyno.

A young boy discovers the Hwb portal. | Mae bachgen ifanc yn darganfod porth Hwb.

Cwestiynau cyffredin

Byddwn ni’n ceisio edrych ar adnoddau sy’n cael eu cyflwyno o fewn 20 diwrnod gwaith.  Byddwch chi’n cael amserlen fras pan fyddwch chi’n cyflwyno’ch adnodd.

Pan fydd hynny’n bosibl, byddwn ni’n esbonio pam nad yw eich adnodd yn cyflawni’r gofynion ar hyn o bryd.

Wrth gwrs. Mae croeso i chi ailgyflwyno adnodd ar ôl i chi roi sylw i’r materion a gafodd eu codi yn yr adborth.

Oes. Oni bai bod yr adnodd wedi’i ddatblygu yn Gymraeg yn unig, mae’n rhaid darparu’r holl adnoddau yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mae’n rhaid i’w hansawdd fod yn union yr un fath. Dylai hyn fod yn rhan o’r gwaith datblygu o’r dechrau’n deg.

Oes, cyn belled â bod modd gweld y cynnwys dan sylw yn rhad ac am ddim, nad yw’n fasnachol, ei fod yn ddwyieithog ac yn hygyrch, ac nad yw’n gofyn am fewngofnodi neu am roi gwybodaeth bersonol ychwanegol.

Oes. Dylid profi adnoddau ymhlith ymarferwyr a/neu ddysgwyr i sicrhau eu bod nhw’n gweithio’n effeithiol yn ymarferol.

Cyn cyflwyno’ch adnodd, defnyddiwch y rhestr wirio ar gyfer gwneud cais i gyhoeddi, ynghyd â’r dolenni defnyddiol. Rhaid i’r holl adnoddau gyflawni’r gofynion canlynol sy’n berthnasol i Hwb:

  • rhaid bod modd eu gweld a’u defnyddio am ddim
  • ni ddylen nhw fod yn fasnachol
  • rhaid iddyn nhw fod yn ddwyieithog a chydymffurfio â Safonau’r Gymraeg
  • rhaid iddyn nhw gyflawni gofynion Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG)

Ni ddylai adnoddau:

  • roi dolenni i wefannau allanol sy’n gofyn am fewngofnodi pellach neu sy’n gofyn i ddefnyddwyr roi gwybodaeth bersonol
  • hyrwyddo unrhyw gynnyrch, gwasanaeth neu sefydliad masnachol
  • ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddwyr brynu unrhyw beth i weld yr adnodd neu i’w ddefnyddio

Cadwch mewn cysylltiad â ni

Cewch y newyddion diweddaraf gan Adnodd wrth i ni gefnogi Cwricwlwm i Gymru.

Illustration of a young girl with red hair staring through a telescope into the night sky with stars, constellations and shooting stars. Darlun o ferch ifanc â gwallt coch yn syllu trwy delesgop i awyr y nos gyda sêr, cytserau a sêr saethu.