Cyfleoedd drwy ein fframwaith caffael
Cymwysterau Ton 3
Manylion: Cyfres o adnoddau fideo dwyieithog i gefnogi’r gwaith o gyflwyno Tystysgrifau Galwedigaethol Addysg Uwchradd (TAAU) a Chymwysterau Sylfaen Seiliedig ar Waith.
Mae’r cyfle hwn ar gael i gyflenwyr Lot 1: Adnoddau Digidol ac Amlgyfrwng yn unig.
Amserlen
2026
- Canol mis Medi: Cyhoeddi tendrau drwy borth Proactis.
- Dechrau Hydref: Dyddiad cau ar gyfer ymatebion i’r tendrau.
- Dechrau Tachwedd: Dyfarnu contractau.
2027
Diwedd Mehefin: Cwblhau’r adnoddau TAAU a Chymwysterau Sylfaen Seiliedig ar Waith.
Mathemateg a Rhifedd
Byddwn yn comisiynu ymgynghorydd ar gyfer adnoddau mathemateg a rhifedd i ddarparu cyngor arbenigol ar flaenoriaethau adnoddau, argymhellion rhanddeiliaid, gweithgarwch ymchwil a chyfleoedd buddsoddi yn y dyfodol.
Mae’r cyfle hwn ar gael i gyflenwyr Lot 4: Gwasanaethau ymgynghori yn unig.
Amserlen
2026
- Yn gynnar fis Medi: Cyhoeddi tendrau drwy borth Proactis.
- Canol mis Medi: Dyddiad cau ar gyfer ymatebion i’r tendrau.
- Hydref: Dyfarnu contractau.
2027
Diwedd Mawrth: Cwblhau’r gwaith.
Trochi yn y Gymraeg – bydd tri phrosiect ar wahân:
Prosiect 1 – adnodd geirfa ar gyfer dysgwyr 7 – 11 oed, yn cyflwyno geirfa a phatrymau brawddegau, ynghyd â ffeiliau sain.
Prosiect 2 – adnodd i gefnogi dysgwyr 11-14 oed sydd wedi cwblhau tymor mewn canolfan drochi hwyr ac sydd wedi dychwelyd i addysg brif ffrwd mewn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg.
Prosiect 3 – cyfres o glipiau fideo Cymraeg byr, hwyliog ac egnïol sy’n cyfuno symud corfforol, datblygu cydsymud, gweithgaredd gwybyddol a chaffael y Gymraeg, i’w ddefnyddio gan ddysgwyr mewn canolfannau trochi hwyr ac ysgolion cyfrwng Saesneg.
Ym mhob un o’r tri maes, byddwn yn ariannu prosiectau:
- cyfrwng Cymraeg yn unig
- Ar gael am ddim i’w defnyddio
- mewn fformatau digidol
- Wedi eu cwblhau ac ar gael erbyn 30 Ebrill 2027
- wedi’u datblygu yn unol ag ethos Cwricwlwm i Gymru ac un neu ragor o feysydd ffocws Adnodd: llythrennedd, tegwch a gwrth-hiliaeth, a llesiant
- yn cefnogi cynnydd ieithyddol dysgwyr ar draws lefelau’r CEFR.
Noder: dim ond Cyflenwyr sydd wedi’u penodi i Lot 1 – Adnoddau digidol ac amlgyfrwng y Fframwaith fydd yn gallu manteisio am y cyfle hwn a chyflwyno ymateb ar gyfer pob prosiect fel rhan o’r Broses Ddethol Gystadleuol.
Amserlen
2026
- Dechrau Tachwedd: Cyhoeddi tendrau drwy borth Proactis
- Canol Tachwedd: Dyddiad cau ar gyfer ymatebion i’r tendrau
- Dechrau Rhagfyr: Dyfarnu contractau
2027
- Diwedd Ebrill: Cwblhau’r adnoddau trochi hwyr
Cymwysterau Ton 3
Rydym yn ceisio comisiynu ymgynghorydd i ymgymryd â gwaith ymchwil a mapio sy’n canolbwyntio ar Gymwysterau Sylfaen Cyffredinol (CSC) ac adnoddau presennol y Gyfres Sgiliau. Bydd y gwaith yn nodi bylchau yn y ddarpariaeth, meysydd lle ceir dyblygu, a chyfleoedd ar gyfer datblygiad pellach, gan wneud argymhellion i lywio blaenoriaethau comisiynu a buddsoddi yn y dyfodol.
Noder: dim ond Cyflenwyr sydd wedi’u penodi i Lot 4 – Gwasanaethau ymgynghori y Fframwaith fydd yn gallu manteisio ar y cyfle hwn a chyflwyno ymateb fel rhan o’r Broses Ddethol Gystadleuol.
Amserlen
2026
- Dechrau Tachwedd: Cyhoeddi tendrau drwy borth Proactis
- Canol Tachwedd: Dyddiad cau ar gyfer ymatebion i’r tendrau
- Rhagfyr: Dyfarnu contractau
2027
- Diwedd Mawrth: Cwblhau’r gwaith
Mathemateg a Rhifedd – bydd dau brosiect ar wahân:
Prosiect 1 – byddwn yn comisiynu pecyn o dasgau angori rhifedd dwyieithog a deunyddiau ategol. Bydd yr adnoddau hyn yn cryfhau sgiliau rhesymu mathemategol, ymholi a datrys problemau.
Noder: dim ond Cyflenwyr sydd wedi’u penodi i Lot 1 – Adnoddau digidol ac amlgyfrwng y Fframwaith fydd yn gallu manteisio ar y cyfle hwn a chyflwyno ymateb fel rhan o’r Broses Ddethol Gystadleuol.
Amserlen
2026
- Dechrau Hydref: Cyhoeddi tendrau drwy borth Proactis
- Canol Hydref: Dyddiad cau ar gyfer ymatebion i’r tendrau
- Tachwedd: Dyfarnu contractau
2027
- Diwedd Mawrth: Cwblhau’r gwaith
Prosiect 2
Byddwn yn comisiynu adolygiad annibynnol o ddarpariaeth adnoddau mathemateg a rhifedd yng Nghymru. Bydd yr adolygiad yn defnyddio ymchwil ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i nodi cryfderau, bylchau yn y ddarpariaeth a blaenoriaethau ar gyfer datblygu adnoddau a buddsoddi yn y dyfodol.
Noder: dim ond Cyflenwyr sydd wedi’u penodi i Lot 5 – Ymchwil, casglu a dadansoddi data, a gwerthuso y Fframwaith fydd yn gallu manteisio ar y cyfle hwn a chyflwyno ymateb fel rhan o’r Broses Ddethol Gystadleuol.
Amserlen
2026
- Dechrau Tachwedd: Cyhoeddi tendrau drwy borth Proactis
- Canol Tachwedd: Dyddiad cau ar gyfer ymatebion i’r tendrau
- Rhagfyr: Dyfarnu contractau
2027
- Diwedd Mawrth: Cwblhau’r gwaith
Adolygiad o’r Gronfa Arloesi a Chydweithio
Byddwn yn comisiynu gwerthusiad annibynnol o Gronfa Arloesi a Chydweithio Adnodd. Bydd y gwaith hwn yn asesu effeithiolrwydd ac effaith y Gronfa, yn arddangos y dysgu a gafwyd o’r deg prosiect a ariannwyd, ac yn darparu argymhellion i lywio datblygiad a chyflwyniad rhaglenni ariannu tebyg yn y dyfodol.
Noder: dim ond Cyflenwyr sydd wedi’u penodi i Lot 5 – Ymchwil, casglu a dadansoddi data, a gwerthuso y Fframwaith fydd yn gallu manteisio ar y cyfle hwn a chyflwyno ymateb fel rhan o’r Broses Ddethol Gystadleuol.
Amserlen
2026
- Dechrau Hydref: Cyhoeddi tendrau drwy borth Proactis
- Canol Hydref: Dyddiad cau ar gyfer ymatebion i’r tendrau
- Tachwedd: Dyfarnu contractau
2027
- Diwedd Mawrth: Cwblhau’r gwaith
Llythrennedd – bydd dau brosiect ar wahân:
Rydym wrthi’n archwilio cyfleoedd comisiynu yn y dyfodol sy’n ymwneud â datblygu a gwerthuso adnoddau llythrennedd.
Gall meysydd ffocws gynnwys:
- adnoddau ffoneg Cymraeg
- adnoddau llythrennedd ar gyfer darllenwyr hŷn.
Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi ym mis Hydref.
Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi ar borth Proactis.
I weld cyfleoedd ychwanegol trwy’r farchnad agored, cliciwch yma.