Neidio i'r prif gynnwy
English
Newyddion

Blog: Myfyrio ar ein dysgu gwrth-hiliol drwy cynefin

Mae Adnodd yn defnyddio'r gair cynefino i ddisgrifio cyfnod sefydlu neu anwytho (induction) staff newydd. Mae'r ferf cynefino yn golygu helpu rhywun i deimlo fel eu bod yn perthyn i le. Gall y gair anwytho deimlo'n rhy gorfforaethol gan ei fod yn awgrymu bod rhaid i aelod newydd o'r tîm gydymffurfio â disgwyliadau.
A lecture from the DARPL course. | Darlith o'r cwrs DARPL.

Rhoddodd rhaglen arweinyddiaeth Gogledd Cymru  gan DARPL amser a lle i ni fyfyrio ar y term cynefin. Roedd yn caniatáu inni archwilio ei ystyr ac ystyried sut mae’r term yn cael ei ddefnyddio heddiw, yn enwedig mewn addysg yng Nghymru. Cawsom ddarlith ar-lein bwerus iawn gan yr Athro Charlotte Williams, a oedd yn sôn beth oedd ystyr y gair iddi hi. Siaradodd am y dulliau o ddysgu am ein hanesion lluosog ein hunain, ac i lunio llwybrau newydd trwy fod mewn cyswllt â llefydd. 

Felly sut y gellir gwireddu’r ymdeimlad hwn o gynefin ar  draws ein hystafelloedd dosbarth a’n meysydd chwarae – a thu hwnt – yma yng Nghymru?  

Mae Adnodd yn gorff hyd braich Llywodraeth Cymry sy’n arwain a chydlynu’r broses o greu a darparu adnoddau addysgol o ansawdd uchel er mwyn cefnogi Cwricwlwm i Gymru. Mae’r adnoddau sy’n cael eu comisiynu yn ddwyieithog, yn rhad ac am ddim, ac yn hawdd i’w defnyddio a’u darganfod ar Hwb. Mae’r adnoddau ar gael yn ddigidol ac mewn print, ac wedi eu creu er mwyn cefnogi ac ysbrydoli ymarferwyr, dysgwyr, rheini a gofalwyr.  

A lecture on 'The Black Curriculum' during a DARPL course. | Darlith ar 'Y Cwricwlwm Du' fel rhan o gwrs gan DARPL.

Wedi’n hysbrydoli gan sesiwn yr Athro Williams a’r trafodaethau a ddilynodd, fe wnaethom gydnabod nad yw cynefin yn rhywbeth sy’n cael ei etifeddu neu sy’n aros yn llonydd. Mae’n rhywbeth y mae pawb yn cyfrannu ato, gan gynnwys y rhai a allai deimlo’n wahanol i’r bobl o’u cwmpas. 

Trwy weld cynefin fel rhywbeth rydyn ni’n cyfrannu ato yn hytrach na chymryd ohono, gallwn weld posibiliadau newydd ar gyfer cydweithio â phobl ac mewn lleoedd nad ydym wedi gweithio gyda nhw o’r blaen. Mae cwrdd â charfan ymroddedig o arweinwyr ar y rhaglen arweinyddiaeth uwch yn rhoi hyder i ni mai dyma’r union bobl a’r lleoedd i gydweithio â nhw, i fowldio a siapio ein cynefin. 

O fis Ebrill 2026, byddwn yn gweithio gyda chyflenwyr i ddatblygu a chreu adnoddau gwrth-hiliaeth newydd. Mae hyn yn gam cyffrous ymlaen i ni ac yn agor drysau ar gyfer partneriaethau newydd ac amrywiol. Rydym yn gobeithio y bydd arweinwyr ar draws carfan Gogledd Cymru (a chymuned ymarfer ehangach DARPL) yn treialu’r adnoddau hyn yn ystod eu datblygiad, gan chwarae rhan allweddol yn y broses o sicrhau ansawdd yr adnoddau yma, a fydd yn cael eu defnyddio gyda ymarferwyr a dysgwyr ar draws Cymru. Bydd adborth gan ystod ehangach o ddysgwyr yn ein helpu i lunio adnoddau o ansawdd uchel sy’n adlewyrchu ac yn ymgorffori’r gair cynefino. Gyda’n gilydd, gallwn greu llwybr ehangach o berthyn i bawb o’r stafell ddosbarth i’r maes chwarae, a thu hwnt.  

Ali Hanbury ac Elliw Roberts, Adnodd