Blog: Myfyrio ar gam cyntaf y Gronfa Arloesi a Chydweithredu
Cefnogodd cam cyntaf Cronfa Arloesi a Chydweithredu Adnodd ddeg prosiect creadigol ledled Cymru i archwilio dulliau beiddgar, cynhwysol o ddatblygu adnoddau. Cyn y cam nesaf, edrychwn yn ôl ar yr hyn sydd wedi'i gyflawni hyd yma, a'r hyn sy'n dod nesaf.
Wedi’i lansio yn gynharach eleni, nod Cronfa Arloesi a Chydweithredu Adnodd yw sbarduno syniadau beiddgar ac annog ffyrdd newydd o feddwl am adnoddau addysgol yng Nghymru. Derbyniodd pob un o’r deg prosiect llwyddiannus £5,000 i archwilio sut y gellid datblygu adnoddau cynhwysol, dwyieithog a dychmygus i gefnogi Cwricwlwm Cymru.
Mae pob un o’r prosiectau a ddewiswyd yn cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol, gan gynnwys llythrennedd, tegwch a gwrth-hiliaeth, iechyd a llesiant, ynghyd ag ymrwymiad i greadigrwydd, cyd-greu a chydweithio. O offer digidol ac adrodd straeon drwy dechnoleg ymgolli, i weithdai a arweinir gan y gymuned ac adnoddau llythrennedd emosiynol, mae’r prosiectau’n adlewyrchu ehangder yr arloesedd sy’n digwydd yn y maes addysg ledled Cymru.
Yr hyn a gyflawnodd y prosiectau
Ar ôl diwedd cam un, cyflwynodd pob prosiect adroddiad myfyriol ar yr hyn yr oedd wedi’i gyflawni. Dyma grynodeb ar gyfer pob prosiect:
Mae Gwyddoniaeth yn Perthyn i Bawb gan Zaina Aljumma, Prifysgol Abertawe
Gweithdai gwyddoniaeth dwyieithog ar gyfer plant sydd wedi gorfod mudo, gan hybu cynhwysiant, hyder, a dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma oedd gan y tîm i’w ddweud:
Un o’r canlyniadau mwyaf ystyrlon oedd gweld ymdeimlad cynyddol y plant o berthyn a hyder. Roedd eiliadau bach – fel grŵp o blant yn canu Penblwydd Hapus i ferch oedd wedi bod yn betrusgar i aros heb ei rhiant – yn dangos sut y gall creadigrwydd, chwarae, a iaith feithrin cysylltiad.
Dangosodd y profiadau hyn, pan fo gwyddoniaeth, celf a chynhwysiant yn dod at ei gilydd, fod dysgu’n gallu dod yn gatalydd ar gyfer addysg ac iachâd fel ei gilydd.
Llywio Perthyn gan Athronydd Research and Consulting
Adrodd straeon drwy dechnoleg ymgolli i gefnogi llesiant emosiynol bechgyn a herio stereoteipiau ynghylch gwrywdod a hil. Dyma oedd gan y tîm i ddweud:
Prif amcan ein harchwilio oedd dylunio a phrofi profiad technoleg ymgolli oedd yn gallu adrodd straeon yn ddwyieithog, sy’n caniatáu i bobl ifanc archwilio hunaniaeth, perthyn a lles wrth roi adnodd diogel, diddorol i addysgwyr ddechrau sgyrsiau.
Disgrifiodd pobl ifanc y rhaglen fel ‘cŵl’, a dywedodd y byddent yn gyffrous i’w ddefnyddio yn yr ysgol yn hytrach na gwersi ABCH traddodiadol.
Ap y Gwyrthiau gan Connor Allen a Sugar Creative
Ap llesiant dwyieithog i gefnogi mynegiant emosiynol a chreadigrwydd trwy ddefnyddio barddoniaeth plant. Dyma oedd gan y tîm i ddweud:
Un darganfyddiad allweddol, oedd pa mor ddwfn mae Ap y Gwyrthiau yn gallu cysylltu ar draws gwahanol agweddau o lesiant – rheoleiddio emosiynol, hunanfynegiant, hyd yn oed dyheadau gyrfa yn y dyfodol – i gyd wedi’u tynnu o’r cerddi eu hunain. Mae gweld eraill yn ymgysylltu â’r gwaith, ei ddadansoddi, a dod o hyd i’w hystyr eu hunain wedi bod yn hynod deimladwy.
Be Nesa? gan Wes Glei
Cyd-ddatblygu ffilmiau gwrth-fwlio rhyngweithiol sy’n canolbwyntio ar wrth-hiliaeth, gyda dysgwyr ac ymarferwyr ledled Cymru. Dyma oedd gan y tîm i ddweud:
Mi fu’r broses hon o gywain deallusrwydd llawr gwlad yr ystafell ddosbarth a’r cae chwarae yn sylfaen i gynllun ein sgript gwrth-fwlio hiliol. Yn wyneb yr heriau cynyddol i undod cymdeithasol ein cymunedau – heriau sy’n cael eu hadlewyrchu yn y cynnydd mawr yn yr achosion o fwlio-hiliol yn ein hysgolion ledled Cymru – credwn fod yr adnodd a ddatblygwyd gennym yn cynnig buddion cymunedol a chymdeithasol holl-bwysig.
Cynrychioli.me gan AIMAITES Ltd
Adnodd AI dwyieithog sy’n helpu dysgwyr i ddatgelu rhagfarn mewn algorithmau ac archwilio tegwch trwy edrych ar sut mae AI yn trefnu a labelu lluniau. Dyma oedd gan y tîm i ddweud:
Rhoddodd ymgysylltu ag ysgolion fewnwelediadau hanfodol i realiti ystafell ddosbarth, hygyrchedd a diogelwch emosiynol. Trwy’r broses hon, ffurfiwyd partneriaethau newydd gyda lleisiau cymunedol sydd â diddordeb mewn cynrychiolaeth a chynhwysiant mewn technoleg, gan ehangu cyrhaeddiad a pherthnasedd y prosiect.
Mae ein harchwiliad wedi grymuso dysgwyr yng Nghymru i gwestiynu rhagfarn, deall cydraddoldeb, a gweld sut mae cynrychiolaeth yn siapio technoleg a chymdeithas.
Chwarae Mawr / Chwarae Bach gan Yr Egin
Edrych ar sut mae chwarae strwythuredig a rhydd yn meithrin meddwl yn greadigol a llesiant ym maes dysgu sylfaen. Dyma oedd gan y tîm i ddweud:
Yn gymunedol a chymdeithasol, darparodd y prosiect gyfleoedd i dîm Yr Egin, plant ac athrawon i gydweithio, rhannu syniadau, a dysgu oddi wrth ei gilydd, gan gryfhau cysylltiadau cymunedol a hyrwyddo cydraddoldeb. Trwy sicrhau amgylchedd diogel a chynhwysol mewn sesiynau chwarae, cafwyd cyfle i bob dysgwr gyfranogi a chael profiadau cyfoethog o ran creadigrwydd ac arloesedd.
Straeon Byw gan Goiawn Ltd
Grymuso plant i greu dramâu wedi’u hanimeiddio sy’n archwilio tegwch, empathi a gwydnwch emosiynol. Dyma oedd gan y tîm i ddweud:
Bydd yr adnodd yn darparu sgiliau i ddisgyblion ddeall materion byd-eang cymhleth ac yn meithrin ymdeimlad o gyfiawnder cymdeithasol, gan greu dinasyddion mwy ymwybodol a theg. Trwy hyrwyddo empathi a dealltwriaeth berthynol, bydd y profiad yn helpu i adeiladu cymunedau cryfach, mwy deallgar sy’n gallu trafod materion anodd yn ddiogel.
Dihangfan Llyfr-Gell gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Dylunio dihangfan ddigidol i ennyn diddordeb pobl ifanc 13-15 oed mewn llythrennedd drwy hanes a diwylliant Cymru. Dyma oedd gan y tîm i ddweud:
Mae’r pwnc yn cynnig cyfleoedd naturiol ar gyfer trafodaethau am gymuned, hunaniaeth a’r amgylchedd, gan annog y dysgwyr i feddwl yn feirniadol ac yn greadigol. Mae’r adnodd yn cefnogi nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – yn enwedig diwylliant bywiog, lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, yn ogystal â meithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb ar lefel fyd-eang.
Rho Le i’th Lais gan Hyfforddi Sioned Roberts:
Datblygu adnoddau llythrennedd emosiynol dwyieithog i helpu disgyblion cynradd i enwi a rheoli eu teimladau. Dyma oedd gan y tîm i ddweud:
Pwrpas yr adnodd yma ydy i ddatblygu sgiliau llythrennedd emosiynol disgyblion cynradd. Roedd pob defnyddiwr wedi datgan bod yr adnodd yn hawdd neu yn eithaf hawdd i’w ddefnyddio, ac roedd mwy neu lai pawb wedi gweld cynnydd yng ngallu y disgyblion i drafod eu hemosiynau ar ôl ei ddefnyddio.
Mae Rho Le i’th Lais yn creu gwerth cymdeithasol sylweddol drwy feithrin llythrennedd emosiynol o oedran ifanc mewn ffordd addas, gweithredol a hwyliog.
Cyd-Chwarae gan Academy Arts
Defnyddio drama a dawns dwyieithog i wreiddio’r Gymraeg mewn profiadau mynegiannol, dydd i ddydd. Dyma oedd gan y tîm i ddweud:
Un o’m prif ddarganfyddiadau oedd pa mor bwerus y gall dysgu creadigol dwyieithog fod wrth ymgysylltu â disgyblion. Roedd gweld plant yn newid yn naturiol rhwng Cymraeg a Saesneg trwy ddrama a symudiad yn dangos y gallai dysgu iaith fod yn hwyl ac yn fynegiannol yn hytrach na rhywbeth sy’n cael ei orfodi.”
Rhoddodd y prosiect Cyd-Chwarae gyfle i ddisgyblion brofi’r Gymraeg fel iaith fyw, fynegiannol, nid dim ond rhywbeth sy’n cael ei ddefnyddio yn yr ystafell ddosbarth.
Yr hyn rydyn ni wedi’i ddysgu
Mae’r rownd gyntaf hon o’r Gronfa Arloesi a Chydweithredu wedi atgyfnerthu gwerth cyd-greu. Mae rhoi amser a lle i bobl arbrofi wedi arwain at ddarganfyddiadau annisgwyl, partneriaethau dyfnach, ac adnoddau sydd wedi’u gwreiddio mewn profiadau ystafell ddosbarth go iawn.
Rydym wedi gweld sut y gall adborth gan ymarferwyr a dysgwyr siapio datblygiad yn uniongyrchol, o fireinio terminoleg a rhyngwynebau defnyddwyr i ailfeddwl dylunio a hygyrchedd. Ym mhob achos, mae gwrando’n agos ar y rhai a fydd yn defnyddio’r adnoddau wedi eu gwneud yn gryfach, yn fwy perthnasol ac yn fwy effeithiol.
Y camau nesaf
Mae Adnodd yn adolygu’r adroddiadau dysgu a gyflwynwyd gan bob prosiect a byddwn yn rhannu’r mewnwelediadau yma gyda datblygwyr adnoddau eraill. Mae ail gam y rownd ariannu wedi cychwyn a byddwn yn dyfarnu cyllid pellach i ddatblygu adnoddau dwyieithog ar raddfa lawn i’w defnyddio mewn ysgolion.
Bydd yr adnoddau o’r cam nesaf hyn yn rhad ac am ddim ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Cymraeg 2050, Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Eisiau bod yn rhan o lunio dyfodol adnoddau yng Nghymru neu ddysgu am gyfleoedd cyllido yn y dyfodol? Ymunwch â’r gymuned