Ymateb Adnodd i gynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol Llywodraeth Cymru
Mae Adnodd yn croesawu cyhoeddi cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol (y Cynllun) Llywodraeth Cymru. Edrychwn ymlaen at chwarae ein rhan wrth wireddu ei uchelgeisiau a gweithio gyda phartneriaid ar draws y system addysg a thu hwnt – gan gynnwys gyda chyflenwyr, cyhoeddwyr a sefydliadau cenedlaethol - i wella deilliannau i blant a phobl ifanc yng Nghymru.
Cydweithio a thystiolaeth
Byddwn yn cefnogi’r Cynllun mewn tair ffordd gysylltiedig: drwy gydweithio â phartneriaid, deall anghenion dysgwyr ac ymarferwyr, a datblygu’r sylfaen dystiolaeth er mwyn gwella deilliannau. Gyda’i gilydd, bydd y camau hyn yn helpu i greu dull mwy cydgysylltiedig o ddatblygu a chomisiynu adnoddau o ansawdd da, cefnogi’r gweithlu, a gwella dysgu ledled Cymru.
Ymchwil adnoddau llythrennedd
Un o argymhellion allweddol ein hadolygiad annibynnol diweddar o raglenni ac adnoddau llythrennedd yng Nghymru oedd yr angen am ddull cenedlaethol mwy cydlynol o ddatblygu llythrennedd a hybu darllen er pleser. Byddwn yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid, gan gynnwys Dysgu, Estyn, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (yr Athrofa o fis Awst 2027 ymlaen), CAL:ON ac eraill, i fwrw ymlaen ag argymhellion yr adolygiad a chryfhau’r gefnogaeth sydd ar gael i ddysgwyr ledled Cymru.
Nododd ein hadolygiad mai’r dulliau mwyaf effeithiol yw’r rhai sy’n cyfuno datblygu sgiliau llythrennedd â darllen er mwyn pleser. Mae’r canfyddiadau hefyd yn nodi bod angen ehangu’r ddarpariaeth o adnoddau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, cefnogi dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol, datblygu adnoddau ar gyfer dysgwyr uwchradd, darparu canllawiau i ymarferwyr, ac ymgysylltu â theuluoedd. Mae hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd sicrhau tegwch wrth cael gafael ar adnoddau o ansawdd da, a’r angen am dystiolaeth a gwerthuso cryfach i lywio buddsoddiad yn y dyfodol.
Llythrennedd – y camau nesaf
Dangosodd ein hadolygiad llythrennedd y dylai darpariaeth ffoneg Gymraeg ddiwallu anghenion dysgwyr wrth iddynt symud drwy wahanol gamau yn eu datblygiad. Drwy ein Fframwaith Cyflenwyr, byddwn yn cynnal dadansoddiad o’r adnoddau ffoneg Cymraeg sydd ar gael ar hyn o bryd ac yn comisiynu cyfleoedd ar gyfer datblygu pellach.
Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn adnoddau i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Rydym wedi buddsoddi dros £560,000 drwy Gyngor Llyfrau Cymru a’r sector cyhoeddi yng Nghymru i ddatblygu cyfres o lyfrau newydd, Llyfrau Llamu, sef cynllun darllen dan arweiniad a gyhoeddir yng ngwanwyn 2027.
Hefyd, drwy ein buddsoddiad yn yr RNIB, bydd 40 o deitlau amlfformat, gan gynnwys print bras a braille, yn cael eu cyhoeddi ym mis Tachwedd eleni. Bydd y rhain yn cefnogi dysgwyr yn eu harddegau sy’n byw gyda nam ar eu golwg neu sydd wedi colli eu golwg yn ystod eu harddegau.
Byddwn hefyd yn dod â phartneriaid o feysydd addysg, cyhoeddi a diwylliant ynghyd i ddatblygu dulliau uchelgeisiol a chydweithredol o gryfhau adnoddau llythrennedd ledled Cymru. Drwy gyfuno arbenigedd o wahanol sectorau, gallwn helpu i sicrhau bod dysgwyr yn cael mynediad at yr adnoddau a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i ddod yn ddarllenwyr hyderus a galluog drwy gydol eu hoes.
Rhifedd – y camau nesaf
Ein cam gweithredu cyntaf fydd penodi arbenigwr mathemateg a rhifedd i roi cyngor ar flaenoriaethau, argymhellion rhanddeiliaid, gweithgarwch ymchwil a chyfleoedd buddsoddi yn y dyfodol.
Byddwn hefyd yn cynnal adolygiad cenedlaethol o adnoddau mathemateg a rhifedd. Bydd yr adolygiad yn nodi cryfderau, meysydd i’w datblygu a blaenoriaethau’r dyfodol, gan helpu i greu darlun cliriach o’r gefnogaeth sydd ei hangen ar ymarferwyr a dysgwyr.
Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, byddwn yn datblygu pecyn o dasgau angor rhifedd dwyieithog. Bydd yr adnoddau hyn yn helpu i gryfhau sgiliau rhesymu mathemategol, ymholi a datrys problemau, gan gefnogi dulliau cyson o ddysgu ac addysgu ledled Cymru.
Mae manylion ein cyfleoedd comisiynu ar gyfer yr hydref ar gael yma.
Mae diweddariadau ar brosiectau a gomisiynwyd gennym yn ddiweddar ar gael yma.