Amdanom ni
Corff hyd braich Llywodraeth Cymru yw Adnodd sy’n goruchwylio ac yn cydlynu’r ddarpariaeth o adnoddau addysgol yn y Gymraeg a’r Saesneg i gefnogi dysgu ac addysgu’r Cwricwlwm i Gymru.
Strategaeth Adnodd 2025-28
Mae Strategaeth Adnodd yn gosod ein huchelgais hirdymor ar gyfer creu, datblygu a rhannu adnoddau addysgol dwyieithog a fydd yn ysbrydoli dysgu ac addysgu’r Cwricwlwm i Gymru.
Cwrdd â’r saith cymeriad archeteip
Mae ein hymchwil wedi nodi saith cymeriad archeteip — yn seiliedig ar brofiadau bywyd go iawn o sut mae addysgwyr, rhieni a gofalwyr yng Nghymru yn ymgysylltu ag adnoddau addysgol.
Adroddiad Cynnydd Blynyddol Adnodd 2024
Rydym wedi cael deuddeg mis prysur o gynllunio strategol, gan dyfu ein tîm, datblygu ein swyddogaethau corfforaethol, a sefydlu ein hunain fel corff hyd braich ystwyth a strategol.
Gweithio ar y cyd
Dysgwch sut rydym yn cydweithio â phartneriaid a sefydliadau ar draws y sector a thu hwnt.
Pori drwy gofnodion a chyfarfodydd y Bwrdd
Rydyn ni’n cyhoeddi cofnodion pob cyfarfod Bwrdd i roi darlun clir i chi o’n gwaith a’r penderfyniadau sy’n siapio’r hyn rydyn ni’n ei wneud.