Adolygiad annibynnol o adnoddau a rhaglenni llythrennedd yng Nghymru
Cafodd yr ymchwil yma ei gomisiynu gan Adnodd er mwyn helpu i lywio penderfyniadau comisiynu yn y dyfodol. Ei ddiben yw archwilio tirwedd bresennol adnoddau llythrennedd ledled Cymru ac ystyried tystiolaeth ynghylch pa ddulliau sydd fwyaf effeithiol wrth gefnogi datblygiad sgiliau llythrennedd.