Cyfleoedd comisiynu trwy’r Fframwaith
Mae’r cyfleoedd isod nawr wedi cau, a bydd y cyflenwyr llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi’n fuan:
- Adnoddau gwrth-fwlio
- Adnoddau i gefnogi uned 1 Cymraeg Craidd (Uwch Gyfrannol/Safon Uwch)
- Adnoddau i gefnogi uned 1 Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg (Uwch Gyfrannol/Safon Uwch)
Roedd y cyfleoedd yma ar gael i’r cyflenwyr sydd ar y Fframwaith yn unig.
Os fethoch chi’r cyfle i ymgeisio i fod ar Fframwaith Caffael Adnodd, peidiwch a digalonni. Byddwn yn ailagor y Fframwaith yn gynnar yn 2027, gan alluogi mwy o gyflenwyr i fanteisio ar y cyfle i ymgeisio.
Bydd cyfleoedd ychwanegol hefyd yn agor cyn bo hir ar gyfer caffael trwy gystadleuaeth agored, ac mae cyflenwyr ar y Fframwaith yn gymwys i gynnig am y rhain yn ogystal â darparwyr eraill. Cadwch lygaid allan am unrhyw gyhoeddiadau trwy ein cylchlythyr, ac ar ein sianeli cymdeithasol.