Adnoddau i ysbrydoli darllen
Fel rhan o'r Flwyddyn Darllen Genedlaethol, rydym yn dathlu’r holl adnoddau llythrennedd, a’r llyfrau gwych, yr ydym wedi comisiynu.
Rydyn ni’n gwybod bod datblygu sgiliau llythrennedd cryf yn gwbl ganolog i addysg, ac rydyn ni wedi ymrwymo i ysbrydoli darllenwyr hyderus a chwilfrydig.
O blatfformau aml-gyfrwng i brosiectau ymchwil cenedlaethol, o ddosbarthu miloedd o lyfrau rhad ac am ddim, i fentrau arloesol, mae Adnodd wedi comisiynu ystod eang o adnoddau i gefnogi sgiliau darllen ymhlith plant a phobl ifanc.
Mae rhain yn cynnwys cyhoeddi a dosbarthu dros 1,400 o adnoddau dwyieithog sydd bellach ar gael am ddim i bob ysgol yng Nghymru. Rydym hefyd wedi rhoi dros 67,091 o lyfrau yn anrhegion i ysgolion a theuluoedd, gan gynnwys 49,706 o lyfrau Cymraeg a Saesneg newydd sbon drwy brosiect Rhyngom a 11,880 o lyfrau babanod a blynyddoedd cynnar.
Dyma flas i chi o rai o’n prosiectau sydd yn cefnogi darllen a llythrennedd:
Cefnogi platfform newydd er mwyn i ysgolion brynu llyfrau o Gymru
Diolch i gyllid Adnodd, bydd gan bob ysgol yng Nghymru gyfrif ar ffolio.cymru, ynghyd a chredyd o £50 yr un i’w wario ar lyfrau ar blatfform newydd Cyngor Llyfrau Cymru.
Ysgolion yng Nghymru yn derbyn miloedd o lyfrau am ddim drwy brosiect Rhyngom
Bydd ysgolion ledled Cymru yn cael 49,000 o lyfrau am ddim yng ngham olaf prosiect Rhyngom, sy’n cael ei gefnogi gan Adnodd.
Aberwla
Adnodd VR arloesol, rhad ac am ddim i’w lawrlwytho, wedi’i gynllunio i gefnogi dysgu’r iaith Gymraeg mewn ffordd hollol newydd.
Cynllun Darllen ar gyfer dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol
Mewn partneriaeth gyda Chyngor Llyfrau Cymru, bydd y cynllun uchelgeisiol hwn yn darparu cyfresi newydd o lyfrau darllen dan arweiniad, a fydd yn unigryw i Gymru ac yn seiliedig ar y Fframwaith Cymraeg ADY.
Prosiectau llythrennedd arloesol o dan y gronfa Arloesi a Chydweithredu
Mae rhain yn cynnwys dihangfan ddigidol (escape room) gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru i annog llythrennedd pobl ifainc drwy hanes a diwylliant Cymru, ac ap y gwyrthiau gan Connor Allen i gefnogi mynegiant emosiynol a chreadigrwydd trwy ddefnyddio barddoniaeth plant
Prawf darllen digidol Cymraeg
Gall ysgolion cyfrwng Cymraeg bellach gael mynediad i brawf darllen hawdd ei ddefnyddio ar-lein. Mae’n cefnogi ymarferwyr i fonitro cynnydd a chael mynediad at ganlyniadau safonol mewn clic.
Ariannu RNIB Cymru i drosi 40 o deitlau Cymraeg i fformat amlgyfrwng sy’n hygyrch i ddysgwyr dall a dysgwyr sy’n cael anhawster gweld
Dysgu Cymraeg gyda Fflic a Fflac
Rhoi bywyd newydd i adnodd poblogaidd Cymraeg gyda chymorth Adnodd
Anturiaethau iaith gyda Y Pod-antur Cymraeg
Cefnogi dysgwyr Cymraeg trwy uwchraddio’r Pod-antur Cymraeg i’r oes ddigidol gyda chymorth Adnodd
Ymchwil genedlaethol ar adnoddau llythrennedd
Mae’r ymchwil hon yn darparu tystiolaeth i lywio dealltwriaeth o adnoddau llythrennedd ac yn cefnogi dysgu am ddulliau comisiynu cyfredol.